Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Gwaith Cymdeithasol

Mae gradd mewn gwaith cymdeithasol yn gymhwyster proffesiynol sy’n caniatáu i chi fod yn weithiwr cymdeithasol sy’n ymarfer. Mae ein gradd wedi’i dilysu gan Gofal Cymdeithasol Cymru a bydd yn rhoi’r cymhwyster proffesiynol sydd ei angen arnoch i ddechrau gwneud gwaith cymdeithasol yn y DU a thu hwnt. Gall graddedigion gofrestru’n weithiwr cymdeithasol a dechrau ar yrfa sy’n cynnig datblygiad proffesiynol a chyfleoedd rhagorol i wneud cynnydd.

Gwaith Cymdeithasol

Trwy Ymarfer Daw Perffeithrwydd
Yn PDC byddwch yn magu sgiliau a phrofiad proffesiynol trwy eich astudiaethau. Profiad ymarfer mewn amrywiaeth o leoliadau statudol, gwirfoddol a thrydydd sector yw 50% o’n gradd Gwaith Cymdeithasol. Golyga hyn y byddwch wedi’ch paratoi’n llawn ar gyfer gyrfa mewn gwaith cymdeithasol pan fyddwch yn cymhwyso ac yn deall y sector yr hoffech weithio ynddo.

Ar y campws, gall myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol gymryd rhan mewn profiadau dysgu wedi’u hefelychu yn ein Canolfan Efelychu Hydra a’n cyfleusterau Ffug Lys Barn. Yma, byddwch yn gweithio gyda myfyrwyr a staff o ddisgyblaethau eraill i archwilio senarios go iawn fel achosion llys a chynadleddau achos. Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys dadleuon, senarios llys barn, ac efelychiadau chwarae rôl.

 

Dysgu y Tu Hwnt i’r Ystafell Ddosbarth
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr awdurdod lleol, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, a Gofal Cymdeithasol Cymru, i gyfoethogi’ch dysgu a darparu profiad ymarferol.

Bydd eich profiadau’n eich paratoi i weithio mewn timau amlddisgyblaeth, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol o wasanaethau eraill fel yr heddlu, iechyd ac addysg. Byddwch hefyd yn elwa ar brofiadau cynrychiolwyr o’r Grŵp Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr, sy’n cyfrannu at y cwrs hwn.

Gofynion mynediad

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?