EICH LLETY
EICH LLETY
Mae campysau yng Nghaerdydd ac o’i amgylch, felly gallwch brofi’r amrywiaeth sydd ar gael yn ne Cymru – bwrlwm y dinasoedd, harddwch yr arfordir, a llonyddwch cefn gwlad. Dewiswch fyw yng Nghasnewydd, Pontypridd neu Gaerdydd.
Mae PDC Pontypridd wedi’i hamgylchynu gan fryniau gwyrdd gyda mynediad hawdd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog godidog. Yma, cewch le i ganolbwyntio a gorwelion i’w darganfod. Mae cymuned amrywiol a chyfeillgar yn ganolog i’n campws ym Mhontypridd. Yma, fe welwch chi bopeth sydd ei angen arnoch. Mae neuaddau ar y campws yn rhan fawr o’r awyrgylch cymunedol y mae ein myfyrwyr yn ei garu gymaint.
Mae Casnewydd yn ddinas annibynnol, amlddiwylliannol sy’n llawn syniadau a chyfleoedd. Yng nghanol Casnewydd fe welwch chi hefyd adfywio marchnad dan do fwyaf Ewrop, lle gallwch ddarganfod y cwrt bwyd, siopa gyda stondinau annibynnol, a manteisio ar y lle busnes a gwaith sydd ar gael. Mae ein campws modern ar lan yr afon, yn gartref i gymuned ddysgu sydd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl.
Mae campws Caerdydd yng nghanol creadigol y brifddinas. Mae Caerdydd yn brifddinas fodern ac amlddiwylliannol a fydd yn eich synnu. Mae rhywbeth yn digwydd o hyd neu leoedd newydd i’w darganfod. Mae llawer o fyfyrwyr PDC yn dewis byw yng Nghaerdydd hyd yn oed os byddan nhw’n astudio rhywle arall oherwydd y cysylltedd rhwydd rhwng campysau. Mae’n enwog am fod yn ddinas diwylliant ac adloniant – ac yn ddinas bwysig sy’n gwybod sut i fwynhau ei hun i fyfyrwyr.
PONTYPRIDD
Mae neuaddau ym Mhontypridd ar y campws ac maen nhw’n rhan fawr o’r awyrgylch cymunedol. Mae dros 1,200 o ystafelloedd a myfyrwyr o bob rhan o’r DU a’r byd, byddwch chi’n gwneud ffrindiau oes.
Darganfyddwch fwyCASNEWYDD
Yng Nghasnewydd, mae neuaddau preifat ychydig o daith ar droed o’r campws ac ar lan Afon Wysg, gyda gwahanol becynnau ystafelloedd i’w dewis.
Darganfyddwch fwyCaerdydd
Mae llawer o fyfyrwyr yn byw yng Nghaerdydd, hyd yn oed os byddan nhw’n astudio ar gampws gwahanol. Mae nifer o Neuaddau myfyrwyr yng nghanol y ddinas, yn ogystal â dewis enfawr o lety rhentu preifat.
Darganfyddwch fwyBETH SYDD WEDI’I GYNNWYS?
BETH SYDD WEDI’I GYNNWYS?
Mae ystafelloedd gwely neuaddau yn cynnwys gwely, cwpwrdd dillad, cwpwrdd storio, cadair, desg a mynediad i’r rhyngrwyd. Rhennir ceginau ac maen nhw’n cynnwys microdon, cwcer, toster, tegell, oergell a rhewgell, ac mae cyfleusterau golchi dillad ar gael ym mhob llety.
SUT DYRENNIR YSTAFELLOEDD?
Byddwch chi’n derbyn cadarnhad o’ch llety drwy e-bost pan fydd eich lle yn PDC wedi’i gadarnhau yn ddiamod (ac rydych chi’n gymwys i gofrestru ar eich cwrs). I’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, bydd hyn ar ôl i ganlyniadau arholiad gael eu cyhoeddi yn yr haf. Bydd angen cais fisa dilys ar fyfyrwyr rhyngwladol hefyd.
BETH YW COST NEUADDAU PRESWYL?
I gael gwybod am ein costau ar gyfer gwahanol fathau o lety, defnyddiwch y botwm isod i weld ein tabl costau diweddaraf.
RYDYM NI YMA I HELPU
Rydym ni yma i helpu
Efallai fod dewis rhywle i fyw yn ymddangos yn frawychus ac mae’n debyg bod gennych lawer o gwestiynau am opsiynau llety, cost llety myfyrwyr a sut i wneud cais am lety myfyrwyr.
Mae ein llety ar hyd a lled de Cymru yn hygyrch, fforddiadwy ac yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i ymgartrefu mewn lleoliad newydd a dechrau eich taith fel myfyriwr. Wyddoch chi y gallwch ddychwelyd i lety myfyrwyr yn eich ail a thrydedd blwyddyn o astudio hefyd?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ydyn nhw wedi’u rhestru, ffoniwch ni ar 01443 482845 neu gallwch anfon e-bost i accom@southwales.ac.uk a bydd ein tîm llety yn cysylltu â chi.
Llety Preifat
Dewch o hyd i’n tai, fflatiau a llety myfyrwyr preifat cymeradwy drwy ddefnyddio ein cyfleuster chwilio am lety preifat.
Rydym wedi sicrhau bod yr holl eiddo hyn wedi’u trwyddedu a’u hachredu’n gywir. Hefyd, mae gennym lawer o wybodaeth a chyngor ar rentu trwy asiantaethau gosod eiddo.