Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Cerddoriaeth a Sain

Datblygwch eich llais eich hun a’ch hunaniaeth gerddorol wrth astudio yn PDC yng Nghaerdydd, dinas gerddoriaeth gyntaf y DU. Mae Caerdydd yn enwog am ei diwylliant cerddoriaeth a pherfformiom a byddwch yn astudio yng nghanol y ddinas. Mae’r lleoliad a’r cysylltiadau rydym yn eu cynnig gyda chymuned greadigol Caerdydd, gan gynnwys yr holl leoliadau celfyddydau a pherfformio pwysig, yn darparu’r amgylchedd perffaith ar gyfer eich profiad myfyriwr, wedi’ch amgylchynu gan gyfleoedd di-ri i ddatblygu’ch creadigrwydd.

Cerddoriaeth a Sain

Cerddoriaeth a Sain

CAERDYDD: DINAS GERDDORIAETH

Mae Caerdydd yn enwog am gerddoriaeth a byddwch yn astudio yng nghanol y ddinas. Yn 2019 cafodd ei henwi’n swyddogol yn Ddinas Gerddoriaeth – y gyntaf o’i math yn y DU. Mae’r statws newydd hwn eisoes wedi helpu i ddatblygu byd cerddoriaeth Caerdydd a hybu proffil rhyngwladol y ddinas.

Mae’r ddinas yn cynnig llawer o gyfleoedd profiad gwaith, cydweithredu ar brosiectau a briffiau byw gyda’r diwydiant. Mae ein myfyrwyr eisoes yn rhan bwysig o ddiwylliant cerddoriaeth bywiog Caerdydd gyda nifer o fusnesau newydd llwyddiannus yn y diwydiant ac artistiaid yn deillio o PDC.

Mae cyflogadwyedd yn ganolog i’n cenhadaeth, felly byddwn yn eich annog i ennill profiad o’r cychwyn cyntaf a datblygwch eich CV. Trwy raddio, bydd gennych y sgiliau ar gyfer ystod eang o lwybrau yn y diwydiannau cerddoriaeth, cyfryngau ac adloniant.

YMDROCHWCH MEWN CERDDORIAETH

Rydym yn cefnogi’n myfyrwyr i deimlo’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth, fel gweithwyr proffesiynol, perfformwyr a chynhyrchwyr. Mae ein myfyrwyr yn cynnal Gŵyl Gerddoriaeth Immersed! flynyddol, gan arwain yr holl waith rheoli’r digwyddiad, gan gynnwys tocynnau, rheoli artistiaid, marchnata a gwerthiannau.

Mae’r prosiect trochi wedi ei gynnal ers pum mlynedd ac mae’n cynnwys cydweithredu dwys â rhanddeiliaid lluosog, gan gynnwys disgyblaethau trawsbynciol, dilynwyr cerddoriaeth, lleoliadau masnachol, elusennau, cyrff proffesiynol, asiantau tocynnau, artistiaid, cymunedau, gwneuthurwyr polisi a thechnegwyr. Mae’r ŵyl wedi esblygu o raglen sy’n cynnwys bandiau myfyrwyr yn bennaf, i brif artistiaid aml-blatinwm ac enillwyr gwobr Ivor Novello fel Richard Ashcroft, Peter Doherty, Tom Greenham, Bad Sounds a Bang Bang Romeo, sy’n llenwi lleoliadau canol dinas â 1000 o bobl, Tramshed sy’n codi miloedd at achosion elusennol.

Cyflogadwyedd a Chyfleusterau

CYDWEITHREDU DIWYDIANNOL A CHYFLEUSTERAU PROFFESIYNOL

Mae Cerddoriaeth a Sain yn PDC yn darparu cyfleoedd byd go iawn, addysg a rhwydweithiau i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’r holl weithwyr yn gweithio ar brosiectau byw a chystadlaethau, wedi’u cefnogi gan ymweliadau â’r diwydiant, gan gynnwys â stiwdios recordio a lleoliadau lleol. Mae cydweithredu â phartneriaid diwydiant yn ganolog i’n cyrsiau, a phartneriaethau presennol yn cynnwys Banc NatWest, Orchard Live, Warner Music, Longwave Studio, Music Declares Emergency, Boomtown a Gŵyl Sŵn.

Ar y campws bydd gennych fynediad i gymysgedd o offer digidol ac analog sydd ymysg y gorau mewn prifysgol yn y DU. Mae gennym gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys naw stiwdio recordio o safon diwydiant gydag ystafelloedd byw a rheoli, ynghyd â mannau ymarfer ar wahân ac ystod o fannau perfformio byw. Byddwch yn creu ac yn cydweithredu i ennill yr ystod o sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.

Yn PDC, gall myfyrwyr perfformio cerddoriaeth gynhyrchu cerddoriaeth yn broffesiynol a sicrhau ei bod ar gael yn fasnachol trwy ein samplwr ‘Creu’ finyl.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?