Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Rhwydwaith75

Mae Rhwydwaith75 yn gynllun gradd 5 mlynedd wedi’i noddi sy’n caniatáu i fyfyrwyr Weithio, Ennill a Dysgu! Gall myfyrwyr Rhwydwaith75 gymhwyso’u gwybodaeth academaidd i fyd gwaith go iawn o fewn eu cwmni lletya gan ennill y sgiliau, profiad a chymwysterau angenrheidiol y mae galw mawr amdanyn nhw mewn diwydiant.

Rhwydwaith75

Ynglŷn â’r cynllun

100% CYFLOGADWYEDD

Mae Graddedigion Rhwydwaith75 yn ddeniadol i gyflogwyr gan eu bod yn meddu ar y sgiliau, profiad a chymwysterau y mae galw mawr amdanyn nhw mewn diwydiant.

Mae Rhwydwaith75 yn falch o’i ystadegyn 100% cyflogadwyedd lle mae’r holl raddedigion ers sefydlu’r cynllun yn 2000 wedi cael cynnig cyflogaeth ar radd raddedig neu uwch.

 

GWEITHIO, ENNILL, DYSGU!

Rhoddir cyfle i’r myfyrwyr roi eu gwybodaeth ar waith ochr yn ochr â’u gradd, gan ennill gwybodaeth ymarferol yn ogystal â theori.
Mae gan y myfyrwyr gytundeb hyfforddi â’r brifysgol ac yn gwneud profiad gwaith mewn cwmni lletya lleol.

Yn ystod y tymor, mae myfyrwyr yn mynd i’w lleoliad gwaith 3 diwrnod yr wythnos ac i’r brifysgol i astudio 2 ddiwrnod yr wythnos. Yn ystod cyfnodau gwyliau, bydd myfyrwyr yn mynd i’w lleoliad gwaith 5 diwrnod yr wythnos.

Mae myfyrwyr yn cael isafswm o £6500 mewn bwrsari di-dreth, sy’n cynyddu fesul £1000 bob blwyddyn academaidd.

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, mae’r holl fyfyrwyr yn elwa ar rai o’r graddau gorau oll sydd ar gael, cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf, ac addysgu rhagorol.

Ynglŷn â’r cynllun

GRADD WEDI’I NODDI HEB UNRHYW DDYLED

Mae’r cwmni lletya yn talu holl ffioedd dysgu myfyrwyr Rhwydwaith75!

Gall myfyrwyr Rhwydwaith75 ddewis graddio heb unrhyw ddyled myfyriwr.

.

RHWYDWAITH MAWR O FUSNES

Mae gan Rwydwaith75 gysylltiadau â Rhwydwaith mawr o gwmnïau ledled de Cymru mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau mewn cwmnïau o bob maint, o rai mawr amlwladol i fentrau bach.

Mae’n rhaid i gwmnïau ddarparu rhaglen hyfforddi a datblygu broffesiynol sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i dyfu a datblygu.

 

RHAGLEN DYSGU SEILIEDIG AR WAITH

Caiff pob cwmni ei asesu i sicrhau y gallan nhw ddarparu’r lleoliadau o’r ansawdd gorau i fyfyrwyr i helpu datblygiad personol a busnes.

Cefnogir y myfyrwyr yn llawn drwy gydol y radd bum mlynedd i sicrhau eu bod yn cael yr hyfforddiant a’r profiad perthnasol i lwyddo.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?