Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Animeiddio a Gemau

Mae animeiddwyr a dylunwyr gemau yn rym mawr ym myd adloniant yr 21ain ganrif. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i ddatblygu'ch talent greadigol, rhoi sgiliau technegol newydd i chi, a'ch dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol creadigol yn y diwydiant. Mae Caerdydd yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu teledu a chyfryngau yn y DU. Gyda stiwdios cynhyrchu mawr a'r BBC ar garreg y drws, bydd gennych y potensial i gyrraedd pobl o bob cwr o'r byd.

Animeiddio a Gemau

Animeiddio a Gemau

Astudiaeth broffesiynol

Mae gan ein myfyrwyr fynediad at yr offer diweddaraf o safon diwydiant, yn ogystal â’r feddalwedd, animeiddio cyfrifiadurol, offer gwneud modelau, pensetiau rhithrealiti a gweithdai sydd eu hangen arnynt i ddod yn artistiaid gemau, dylunwyr gemau ac animeiddwyr proffesiynol. Ymhlith y cyfleusterau, yn ychwanegol at ein hystafelloedd meddalwedd ar y campws, mae stiwdio sgrin werdd, ystafell dal symudiad, stiwdio atal-symudiad a gweithdai saernïo ar gyfer argraffu 3D a gwneud modelau.

Mae BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiaduron a BA (Anrh) Animeiddio 2D a Stop-Symud wedi’u hachredu gan ScreenSkills, sy’n dangos eu bod yn cael eu cydnabod gan ddiwydiant am ragoriaeth. BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiaduron yw un o dim ond dau gwrs yn y DU i gynnal achrediadau dwbl o dan gategoriau Animeiddio a Chelf Gemau.

Cysylltiadau cryf â diwydiant

Mae gan ein cyrsiau gysylltiadau cryf â’r diwydiant trwy ddarlithwyr gwadd, prosiectau byw a sesiynau gemau byrfyfyr. Ymhlith y briffiau byw mae prosiectau gan y BBC, D&AD a Gŵyl Animeiddio Caerdydd.

Mae gan ein myfyrwyr gyfle i fynychu ein dosbarthiadau meistr CREATE am ddim. Mae siaradwyr blaenorol wedi hanu o’r BBC, BAFTA, Double Negative, Codemasters, Supermassive, Framestore, Cloud Imperium Games, Ubisoft, a Tiny Rebel Games.

Llwyddiant graddedigion

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gydag Aardman, BBC, Cloth Cat Animation, Media Molecule, Creative Assembly, Ubisoft, Rockstar Games, Core, Warner Bros, Dreamworks, Sony, The Moving Picture Company, Beryl Productions, a Framestore.

Mae graddedigion gemau wedi gweithio ar gemau sy’n cynnwys Red Dead Redemption II, Total War Series, Rainbow Six Siege, Star Wars Jedi:Fallen Order, Surgeon Simulator, Dreams, ac Alien Isolation.

Mae graddedigion animeiddio hefyd wedi gweithio ar ffilmiau a enwebwyd am Oscar, gan gynnwys The Lion King, Avengers: Endgame, Missing Link, Ready Player One, Isle of Dogs, Solo: A Star Wars Story, and Avengers: Infinity War, a rhaglenni teledu sy’n cynnwys His Dark Materials, The Mandalorian, a How To Train Your Dragon: Homecoming.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?