Cyfrifiadura
Y RHWYDWAITH SYDD EI ANGEN ARNOCH AR GYFER GYRFA MEWN CYFRIFIADURA
Mae ein haddysgu arobryn yn mynd â thalent y dyfodol i lefel hollol newydd, gan eich galluogi i brofi cyfrifiadura yn y byd go iawn wrth astudio ar gyfer gyrfa ynddo. Mae cyfrifiadura yn PDC wedi’i gynllunio nid yn unig gyda’r diwydiant mewn golwg, ond yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan bartneriaid proffesiynol a staff sydd â chysylltiadau da. Darganfyddwch ystod amrywiol o yrfaoedd digidol, wedi’u haddysgu mewn cyfleusterau trawiadol sy’n efelychu’r diwydiant ei hun, ac yn sicr o gael sylw ynddo.
Bwrsariaeth Teithio Cyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth (FCES)
Mae bwrsariaeth teithio FCES ar gyfer unrhyw fyfyriwr Prifysgol De Cymru sy’n astudio gradd rhyngosod israddedig perthnasol yn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth (FCES).
Mae’r fwrsariaeth untro, nad yw’n dibynnu ar brawf modd, yn werth £500 ac yn cael ei rhoi i bob myfyriwr sy’n dechrau eu blwyddyn rhyngosod fel rhan o’u cwrs gradd FCES. Bwriad y fwrsariaeth yw darparu cymorth ariannol tuag at eich costau teithio i’ch lleoliad rhyngosod ac oddi yno.
Cyrsiau achrededig wedi’u hysbysu gan ddiwydiant
Mae llawer o’n graddau cyfrifiadurol wedi’u hachredu’n llawn gan BCS, Y Sefydliad Siartredig TG. Mae graddedigion y cyrsisu hyn yn cwrdd â’r gofynion academaidd i weithio tuag at statws Gweithiwr Proffesiynol TG Siartredig (CITP).
Yn PDC, mae ein tîm Cyfrifiadura yn cynnwys arbenigwyr sy’n deall datblygiadau blaengar ac sy’n cael gwybod am ddatblygiadau yn y diwydiant. Mae’r cysylltiadau hyn yn helpu i hysbysu’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ac yn cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith gwych, ac yn dangos y galw am ein hacademyddion.
DYSGU PROFFESIYNOL
Bydd defnyddio ein hoffer a’n meddalwedd o safon diwydiant ar y campws hefyd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y gweithle. Mae gennym ofod rhwydweithio, roboteg a gofod macOS pwrpasol, yn ogystal â stiwdio Android.
Mae ein cyfleuster Datblygu Gemau Cyfrifiadurol yn cynnwys caledwedd manyleb uchel, gyda chitiau manyleb PC gemau blaengar a datblygu consol i adeiladu gemau mewn amgylchedd profi realistig.
Seibrddiogelwch
Prifysgol Seibr y Flwyddyn
Mae PDC wedi cael ei enwi’n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am dair mlynedd yn olynol yng Ngwobrau Seiber Cenedlaethol 2021, 2020 a 2019. Ni hefyd yw’r unig brifysgol yng Nghymru, ac un o ddim ond saith yn y DU, i gael ein henwi’n Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Mae ein myfyrwyr yn dysgu am Seibrddiogelwch, Diogelwch Cyfrifiaduron a Fforensig Cyfrifiadurol mewn ffordd ymarferol, gyda’r cwricwlwm wedi’i danategu ag arferion blaengar sy’n cyd-fynd â safonau proffesiynol y diwydiant. Wedi’i ddysgu gan arbenigwyr yn eu maes, mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa o allu astudio ar gyfer ardystiad diwydiant ychwanegol. Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau ac amgylcheddau dysgu, o’r graddau traddodiadol ar y campws, i’n Academi Seiberddiogelwch sy’n gweithio’n uniongyrchol ar ‘friffiau byw’ o ddiwydiant gan ddefnyddio meddalwedd a chyfleusterau seibrddiogelwch arbenigol.
Mae’r Academi Seibrddiogelwch Genedlaethol yn PDC yn un o’r academïau achrededig CISCO yng Nghymru sy’n cynnig Cyrsiau Ardystio. Mae gennym staff ardystiedig a’r hyfforddwyr cymwys i gyflwyno’r rhaglenni hyfforddiant proffesiynol hyn i’n myfyrwyr ac i’r diwydiant.
ARDYSTIAD YCHWANEGOL
Er mwyn gwella eich cyflogadwyedd, mae ardystiad ychwanegol ar gael sy’n benodol i bob maes arbenigol. Mae hyn yn golygu y gallwch ennill tystysgrifau a gydnabyddir gan ddiwydiant yn ogystal â’ch gradd.
Mae ein labordai blaengar yn efelychu’r rhai a ddefnyddir mewn diwydiant ac yn caniatáu ichi ddadansoddi ffeiliau a rhwydweithiau digidol, ymchwilio i fygythiadau a gwendidau, a rheoli ymatebion i ddigwyddiadau.