Plismona
Trwyddedig yn broffesiynol
Bydd ein gradd Plismona Proffesiynol yn eich paratoi ar gyfer heriau plismona modern a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym wedi ein trwyddedu’n broffesiynol gan y Coleg Plismona i gyflwyno gradd cyn-ymuno mewn plismona proffesiynol yn seiliedig ar y cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer rôl cwnstabl yr heddlu. Nid yw’n gwarantu eich bod chi’n cael mynediad i heddlu pan fyddwch chi’n graddio, ond gallwch chi wneud cais i’r llu heddlu o’ch dewis gyda’r cymhwyster hwn a chael hyfforddiant byrrach yn y gwaith os ydych chi’n llwyddiannus.
Enw da am ragoriaeth
Cynhyrchu graddedigion y mae galw mawr amdanynt ac sy’n barod i fynd i’r proffesiwn plismona yw’r hyn y mae PDC wedi bod yn ei wneud ers dros 15 mlynedd.
Mae ein tîm addysgu yn cynnwys cyn staff heddlu profiadol sy’n dod â chyfoeth o wybodaeth weithredol, ar ôl gwneud swyddi yn amrywio o Gwnstabl i Brif Gwnstabl. Ochr yn ochr â’r staff hyn mae academyddion sydd ar flaen y gad o ran ymchwil i feysydd allweddol megis plismona cymunedol, gwrthderfysgaeth, seibrdroseddu, plismona digidol, cam-drin domestig, llywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu, radicaleiddio, eithafiaeth ddomestig a diogelwch rhyngwladol.
Cyfleusterau rhagorol
Mae cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr plismona a diogelwch yn PDC yn rhagorol – byddant yn eich helpu i roi eich gwybodaeth ar waith mewn lleoliadau realistig. Byddwch yn defnyddio’r technolegau diweddaraf sy’n efelychu gwaith rheng flaen yr heddlu a chyfleusterau sy’n ail-greu lleoliadau troseddau, sy’n eich galluogi i gynnal ffug ymchwiliadau troseddau.
Ni yw un o’r ychydig brifysgolion yn y byd sydd â chyfleuster dysgu trochi integredig – Canolfan Efelychu Hydra. Mae’r Ganolfan Efelychu yn caniatáu ichi gael profiad o ddigwyddiadau mewn amgylchedd dysgu diogel, lle gallwch brofi eich gallu i wneud penderfyniadau, gweithredu a gweld y canlyniadau. Gallwch ymarfer delio â senarios realistig megis ymholiadau troseddau mawr, a all helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfweld ar gyfer digwyddiadau critigol. Mae’r Ganolfan hon yn golygu bod myfyrwyr PDC yn defnyddio’r un system yn union ag y mae heddluoedd yn ei defnyddio i hyfforddi eu staff i fod yn swyddogion mwy effeithiol.
Cyfleoedd Cymraeg
Gellir astudio dros draean o BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae Ysgoloriaeth Gymraeg PDC ac Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.
Troseddeg
Dysgu arloesol ac ymchwil ar flaen y gad
Addysgir ein myfyrwyr troseddeg gan dîm o ymchwilwyr gweithredol sydd ag arbenigeddau mewn lladdiad a thrais, cyfiawnder ieuenctid, plismona, defnyddio cyffuriau, atal troseddau a mwy. Mae gan droseddeg yn PDC hanes sefydledig o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, felly mae’r hyn rydych chi’n ei ddysgu yn berthnasol, yn flaengar ac yn ysgogol.
Y tu hwnt i’r ddarlithfa, bydd ein graddau’n rhoi cyfle i chi ddysgu mewn ffyrdd arloesol sy’n cael eu hategu gan dechnoleg, gan gynnwys efelychiadau lleoliadau troseddau a phodledu.
Rydym yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadau gwaith gwirfoddol wrth i chi astudio. Mae’r rhain yn ffordd wych o gael profiad perthnasol ar eich CV. Ymhlith y cyfleoedd mae gweithio gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol, mudiadau trydydd sector, Llywodraeth Cymru, Cymorth i Fenywod, y Gwasanaeth Ieuenctid, a’r heddlu.
Uned Hen Achosion
PDC yw’r unig brifysgol yng Nghymru a’r de orllewin i weithredu Uned Hen Achosion. Mae gan ein myfyrwyr gyfle i ennill profiad uniongyrchol o weithio ar ymchwiliadau pobl coll a hen achosion.
Gan weithio ochr yn ochr â Locate International, mae myfyrwyr yn ymwneud â phob agwedd ar ymchwiliad. Ein nod yw datblygu myfyrwyr llwyddiannus sy’n gallu dangos arweinyddiaeth yn y proffesiynau a hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol yn eu cymunedau.
Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder
Fel rhan o’r Prosiect Diniweidrwydd, a sefydlwyd mewn cydweithrediad â phrifysgolion eraill, mae myfyrwyr PDC yn archwilio achosion byw go iawn, lle mae camweinyddiad cyfiawnder posibl wedi digwydd.
O dan oruchwyliaeth, mae myfyrwyr yn adolygu achosion lle mae’r rhai a gafwyd yn euog o droseddau yn honni eu bod yn ddieuog ac wedi methu â derbyn cymorth cyfreithiol neu ariannu cyfreithwyr i gymryd eu hachos. Ar ran cleientiaid, mae myfyrwyr yn ceisio pennu a oes unrhyw dystiolaeth newydd a fyddai’n rhoi sail resymol dros apelio, ac maent yn ymchwilio ac yn ymateb i’r cwestiynau y mae cleientiaid yn eu codi mewn cysylltiad â’u collfarn.