Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Hanes

Mae graddedigion Saesneg a Hanes PDC yn gyflawn gyda llawer i'w gynnig. Gyda phwyslais ar faterion modern, byd-eang, gallwch ymgysylltu ag ystod eang o fodiwlau, genres, cyfnodau a thestunau. Ynghyd â theori wedi'i hategu â sgiliau ymarferol, gallwch raddio gyda sgiliau i wneud gwahaniaeth a siapio'ch yfory.

Hanes

Saesneg a Hanes

Dysgu trwy brofiad

Mae ein myfyrwyr Saesneg a Hanes yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith yn ystod eu hail flwyddyn, gyda chefnogaeth cynghorwyr gyrfaoedd arbenigol.

Mae lleoliadau gwaith a phrosiectau yn allweddol i’n graddau, gan gynnig cyfleoedd i ennill profiad mewn sefydliadau megis Cyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.

Gall ein myfyrwyr Hanes gymryd rhan mewn teithiau maes dewisol yn y DU a thramor, yn ogystal ag ymweliadau ag ysgolion, amgueddfeydd a rhaglenni treftadaeth. Mae gan Saesneg yn PDC gysylltiadau rhagorol â phrifysgolion dramor a gall ein myfyrwyr dreulio blwyddyn dramor fel rhan o’u gradd.

Siaradwyr gwadd

Mae gan fyfyrwyr Saesneg a Hanes fynediad i’n cyfres Materion Yfory. Mae’r darlithoedd cyhoeddus ysbrydoledig hyn yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf cymhleth a thaer sy’n wynebu’r byd heddiw, wedi’u cyflwyno gan bobl sydd wedi gweld a chymryd rhan yn nigwyddiadau pwysig y byd. Ymhlith y siaradwyr diweddar mae Syr John Major, yr Anrhydeddus Julia Gillard a’r Foneddiges Shami Chakrabarti.

Addysgir ein graddau Saesneg gan academyddion sy’n arwain y byd yn eu meysydd astudio a gan feirdd ac awduron ffuglen arobryn. Maen nhw hefyd wedi buddio o awduron gwadd blaenllaw, gan gynnwys Benjamin Zephaniah, Dannie Abse, Gillian Clarke, Gwyneth Lewis a llawer mwy.

Sgiliau cyflogaeth

Mae astudio Saesneg a Hanes yn PDC yn cynnig mwy na theori a gwybodaeth am eich maes. Rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr yn ennill sgiliau perthnasol sy’n werthfawr ar gyfer cyflogaeth.

Rydym yn cynnig cynllunio gyrfa a chymorth sgiliau o flwyddyn un ein gradd Hanes, gan gynnwys hyfforddiant mewn technegau cyfweld ar gyfer hanes llafar. Mae myfyrwyr hefyd yn ennill uwch sgiliau digidol, gan gynnwys defnyddio a chynhyrchu podlediadau, blogio a geomapio.

O Shakespeare i lenyddiaeth troseddau modern a ffantasi, mae ein gradd Saesneg yn gwella sgiliau allweddol trosglwyddadwy megis mynegiant, meddwl beirniadol ac ysgrifennu. Nid dim ond ysgrifennu ffuglen y mae myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol yn ei ddysgu, maen nhw hefyd yn ymarfer blogio, cyfryngau digidol, ysgrifennu copi a chyfnodolion teithio, gan ddysgu sut i greu cynnwys effeithiol y gellir ei gyhoeddi a’i werthu.

Bydd myfyrwyr Saesneg sy’n astudio modiwlau TESOL yn ennill Tystysgrif TESOL Graddedig PDC. Maent yn gwybod sut mae iaith yn gweithio ac mae ganddynt y sgiliau i ddysgu eraill sut i gyfathrebu yn Saesneg. Mae miliynau o bobl ledled y byd yn dysgu Saesneg, felly mae galw mawr am athrawon Saesneg cymwys – newyddion gwych i bobl sydd â chymhwyster TESOL.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?