Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ble ydych chi’n gweld eich hun yfory? Fyddwch chi’n arwain prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned? Yn hybu llesiant a byw yn annibynnol? Ydych chi’n gweld eich hun mewn gyrfa gwerth chweil, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y genedl? Os felly, beth am astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn PDC, rydych chi’n dechrau eich gyrfa cyn i chi raddio. Trwy gyfuno dysgu ymarferol â chyfleusterau o safon diwydiant a phrofiad gwaith mewn byrddau a sefydliadau iechyd. Mae’r holl gyrsiau, staff, cyfleusterau a gwasanaethau ategol yn canolbwyntio ar ddarparu paratoad gorau posibl i bob myfyriwr ar gyfer cychwyn eu gyrfa a datblygu trwy eu gyrfa.

Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dysgu Trochi

Byddwch yn hyfforddi mewn amgylcheddau dysgu efelychol sy’n monitro’ch sgiliau arwain a gwneud penderfyniadau. PDC yw un o’r prifysgolion prin yn y byd a’r unig brifysgol yng Nghymru i fod â Chanolfan Efelychu Hydra. Mae myfyrwyr Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hyfforddi yn yr amgylchedd dysgu efelychol hwn sy’n monitro’u harweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau mewn amser real yn ystod digwyddiadau critigol. Byddwch yn profi senarios astudiaeth achos go iawn ac mae’n ffordd wych o ddysgu mewn amgylchedd diogel.

 

Dysgu o’r arbenigwyr

Mae ein haddysgu yn defnyddio dull aml-asiantaeth sy’n adlewyrchu realiti’r gweithle. Mae’n cwmpasu lleoliadau gofal cymdeithasol, y GIG, y trydydd sector a sectorau annibynnol, ysgolion ac elusennau. Yn dibynnu ar eich cwrs, cewch eich addysgu gan gymysgedd o nyrsys profiadol, ymarferwyr iechyd cyhoeddus, deietegwyr, gweithwyr ymarfer corff proffesiynol ac ymgynghorwyr polisi, gan sicrhau y bydd gennych gyfres gyfoethog ac amrywiol o arbenigedd i’ch arwain trwy eich astudiaethau.

 

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Mae symud allan o’r ystafell ddosbarth ac i’r gweithle yn elfen allweddol, gyda dysgu seiliedig ar waith a chyfleoedd gwirfoddol mewn ystod o leoliadau drwy gydol y cwrs. Mae’r profiadau hyn yn caniatáu i chi weithio gydag amrywiaeth o bobl mewn amgylcheddau aml-asiantaeth. Bydd profiad fel hyn yn eich helpu i feithrin sgiliau proffesiynol ac yn caniatáu i chi archwilio’r opsiynau gyrfa niferus sydd ar gael i chi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?