Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Newyddiaduraeth, Ffilm a Ffotograffiaeth

Mae cyrsiau graddau newyddiaduraeth a'r cyfryngau yn PDC yn darparu cyfleoedd ar draws yr ystod lawn o gyfryngau modern, o newyddiaduraeth brint draddodiadol i flogio, gwneud ffilmiau, teledu, podledu a chyhoeddi. Ar ein cyrsiau Ffilm ac Effeithiau Gweledol, byddwch yn darganfod cyfleoedd di-ri i adeiladu profiad, rhwydweithiau a chysylltiadau diwydiant i'ch helpu i bontio o fyfyriwr i weithiwr proffesiynol creadigol. Gyda chyrsiau mewn Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol, mae PDC wedi ennill enw da cenedlaethol a rhyngwladol am ragoriaeth. Rydym wedi dysgu Ffotograffiaeth ers dros 100 mlynedd, ac mae ein cyrsiau Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol yn cael eu hystyried yn eang fel rhai o'r radd flaenaf.

Newyddiaduraeth, Ffilm a Ffotograffiaeth

Fflim ac Effeithiau Gweledol

FFILM AC EFFEITHIAU GWELEDOL

PARTNERIAETHAU A DIWYDIANT 

Mae gennym gysylltiadau cryf â chyflogwyr mawr yn y diwydiant ffilm a theledu, gan gynnwys Bad Wolf, y cwmni cynhyrchu sydd y tu ôl i’r dramâu clodwiw His Dark Materials, Industry, ac A Discovery of Witches.  

Mae ein partneriaeth â Chynghrair Sgrin Cymru yn golygu y gall ein myfyrwyr barhau i gael mynediad i ymweliadau â setiau, lleoliadau diwydiant, a chyflogaeth hyd yn oed. Mae gennym gysylltiadau cryf â stiwdios VFX byd-eang, gan gynnwys ILM, DNEG a Framestore, yn ogystal â stiwdios lleol fel Bait Studios, gan ddarparu cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiant. 

CYFLEUSTERAU O SAFON Y DIWYDIANT 

Mae ein campws creadigol yn cynnwys cyfleusterau ffilm o safon y diwydiant, gan gynnwys stiwdios ffilm HD pwrpasol, llawn offer ynghyd â rigiau goleuo, sgrin werdd a chyfleusterau cipio symudiadau, stiwdio blwch du, ystafelloedd golygu Avid HD ac Adobe, ystafelloedd golygu sain a dybio Pro Tools, a chyfleusterau sgrinio rhagorol.  

Fel rhan o’ch cwrs, gallwch gael mynediad i’n siopau cyfryngau ar y campws – sy’n cynnwys citiau parod i’w defnyddio y gellir eu rhentu am ddim. Drwy ddarparu cyfleusterau ac offer o’r radd flaenaf i lefel y diwydiant, rydyn ni’n gallu cynnig hyfforddiant ac addysgu ymarferol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant i wneud yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer stiwdio, ond hefyd i’ch galluogi i wireddu eich syniadau creadigol. 

Mae hyd yn oed sinema 100 sedd ar gyfer dangosiadau a dosbarthiadau meistr.  

GRADDEDIGION SYDD WEDI ENNILL GWOBRAU 

Mae ffilm wedi bod yn cael ei haddysgu yn y Brifysgol ers dros hanner can mlynedd, sy’n golygu ein bod yn un o’r ysgolion ffilm mwyaf sefydledig a llwyddiannus ym Mhrydain. Dros y cyfnod hwn, mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ar draws y diwydiannau ffilm, teledu a’r cyfryngau byd-eang o Hollywood i Bollywood. 

Mae staff, myfyrwyr a graddedigion wedi ennill llawer o wobrau dros y blynyddoedd, ledled y byd. Mae ein graddedigion wedi creu gyrfaoedd rhyngwladol llwyddiannus, gan gynnwys y cyfarwyddwr arobryn, Asif Kapadia, a’r cyfarwyddwyr sydd wedi ennill BAFTA, Georgi Banks-Davies a Gareth Evans. Yn 2021, bu dros ugain o raddedigion Prifysgol De Cymru yn gweithio ar ffilmiau a enwebwyd ar gyfer Gwobrau’r Academi. 

Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau

NEWYDDIADURAETH A’R CYFRYNGAU

ASTUDIAETHAU PROFFESIYNOL YNG NGHAERDYDD 

Mae Caerdydd yn ganolbwynt i un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig Prydain, gyda gweithredwyr mawr o fewn tafliad carreg, gan gynnwys y BBC, ITV, Global a Wales Online. Gyda chymaint yn digwydd yma, dyma’r lle perffaith i gychwyn eich gyrfa. 

Mae ein campws yn cynnwys cyfleusterau cyfryngau o safon y diwydiant, gan gynnwys stiwdio HDTV aml-gamera, stiwdio radio a chyfleusterau ar gyfer newyddiaduraeth darlledu, print ac aml-gyfrwng. Gallwch hyd yn oed logi offer o’n siopau cyfryngau a ffotograffiaeth am ddim os ydych wedi cofrestru ar gwrs newyddiaduraeth a’r cyfryngau. 

 

CYRSIAU ACHREDEDIG 

Mae llawer o’n cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol, sy’n rhoi troed flaen i chi wrth ymgeisio am swyddi yn eich diwydiant. Wrth i Gaerdydd ddod yn un o’r lleoliadau diwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig ym Mhrydain, dyma’r lle perffaith i lansio’ch gyrfa. 

-

EIN CYRSIAU NEWYDDIADURAETH A’R CYFRYNGAU 

Ar ein cwrs gradd Newyddiaduraeth sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, byddwn yn dysgu popeth sydd ei angen arnoch i weithio fel newyddiadurwr proffesiynol – ym meysydd darlledu, ar-lein, print, cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus.  

Mae ein cwrs Cynhyrchu Cyfryngol yn canolbwyntio ar sgiliau cynhyrchu ac adrodd straeon ar gyfer y diwydiant cyfryngau traws-lwyfan. Yn y cyfamser, mae ein gradd Newyddiaduraeth Chwaraeon wedi’i datblygu gyda diwydiant a phrofiad ymarferol yn greiddiol iddi. 

Mae ein cwrs Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth yn cymysgu theori gyda sgiliau ymarferol eang i roi cipolwg go iawn i chi ar sut mae tirwedd helaeth y cyfryngau yn gweithio. 

Ffotograffiaeth

FFOTOGRAFFIAETH

AR Y BRIG YNG NGHYMRU AM ASESU YM MAES CYNHYRCHU FFILM A FFOTOGRAFFIAETH

CANLLAW PRIFYSGOLION Y GUARDIAN 2024

 

CYFLEUSTERAU PROFFESIYNOL 

Mae cyfleusterau ar y campws yn ail-greu’r amgylchedd y byddech chi’n ei ddarganfod mewn stiwdios proffesiynol. Bydd popeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer sesiwn ffotograffiaeth broffesiynol ar gael i chi – mae ganddon ni ddwy stiwdio ffotograffiaeth fawr, cilfwa diddiwedd a chymorth technegol arbenigol, gydag arbenigedd mewn goleuo a gosod. Gallwch hefyd logi offer o’n siopau cyfryngau a ffotograffiaeth am ddim os ydych wedi cofrestru ar gwrs ffotograffiaeth.  

-

CYFLE I DDYSGU GAN ARBENIGWYR A’R DIWYDIANT 

Rydym wedi bod yn addysgu ffotograffiaeth ers dros ganrif ac mae ein cyrsiau ymhlith y rhai mwyaf uchel eu parch a blaengar ym Mhrydain. 

Mae enw da, profiad a rhinweddau ein hacademyddion yn cael eu cydnabod yn eang yn y diwydiannau ffotograffiaeth, celf a ffilm. Mae ein holl staff yn weithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym maes ffotograffiaeth, felly byddwch yn elwa o’r cynnwys bywyd go iawn maen nhw’n ei gyfrannu at eich dysgu. 

Mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant drwy ein tîm addysgu a’n cyn-fyfyrwyr, sy’n mentora myfyrwyr drwy ddigwyddiadau, gweithdai a’n rhaglen darlithwyr gwadd. Mae ein graddedigion wedi creu gyrfaoedd llwyddiannus ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, gyda rhai yn gweithio i gylchgrawn National Geographic, New York Times, Getty Images, cylchgrawn EVO ac Adidas. 

Ynghyd â llwybrau gyrfa traddodiadol mae graddedigion ein cyrsiau yn symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi cysylltiedig gan gynnwys celf, ffotonewyddiaduraeth, ac ymarfer masnachol ar y lefel uchaf, tra bod eraill yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd fel cyfarwyddwyr celf, steilwyr, rheolwyr ffotograffiaeth, cyhoeddwyr, ffotograffwyr meddygol a fforensig, crewyr cynnwys, addysgwyr, curaduron, ysgrifenwyr a marchnatwyr gweledol. 

-

DISGWYLIADAU A PHROFIAD YN Y DIWYDIANT 

Er mwyn profi gofynion a disgwyliadau’r diwydiant hwn, byddwch yn ymgysylltu â briffiau prosiect byw. Nid yn unig y bydd hyn yn cyfoethogi eich proffil graddedig a’ch portffolio, ond bydd yn ehangu eich persbectif ac yn adeiladu eich rhwydwaith o gysylltiadau. Mae myfyrwyr wedi gweithio gyda chwmnïau sy’n cynnwys Wyatt-Clarke+Jones, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Taylor Brothers, Samsung UK, Ally Capellino, ac Atticus Digital. 

Mae ein myfyrwyr yn ehangu eu rhwydwaith gyda’r diwydiant yn barod ar gyfer bywyd ar ôl graddio drwy ymgysylltu â byd ffotograffiaeth broffesiynol drwy fynediad i stiwdios ffotograffwyr, gwyliau, digwyddiadau ac arddangosfeydd. 

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?