Y Gyfraith
Cyfraddau llwyddiant
Mae PDC ymhlith y 15 uchaf yn y DU ac ar y brig yng Nghymru am y Gyfraith yn Nhabl diweddaraf Cynghrair y Guardian, ac rydym ar y brig yng Nghymru am ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr yn y Times Good University Guide 2021.
Mae boddhad myfyrwyr yn bwysig i ni, ac mae PDC ymhlith y 10 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn 2019 a 2020 (ACF). Rydym hefyd yn 5 uchaf y DU ar gyfer cefnogaeth academaidd, y gymuned ddysgu a llais myfyrwyr (ACF 2020).
Lleoliadau, prosiectau a chyflogadwyedd
Yn ogystal â chynnig graddau cymhwysol yn y gyfraith, rydym yn sicrhau eich bod yn rhoi theori ar waith i ennill sgiliau cyfreithiol allweddol. Rydym yn gweithio gyda’r sector gwasanaethau cyfreithiol i ddarparu lleoliadau gwaith i chi, gan gynnwys yn Admiral Law a Hugh James. Gall myfyrwyr Ymarfer Cyfreithiol gymryd rhan yn Streetlaw yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, sef prosiect cydweithredol gyda Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
Gall holl fyfyrwyr y Gyfraith wirfoddoli yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, gan gynnig cyngor cyfreithiol pro bono i fusnesau lleol a chefnogi aelodau o’r gymuned.
Awyrgylch dysgu proffesiynol
Mae gan Brifysgol De Cymru gyfleusterau astudio trawiadol ar gyfer y gyfraith. Mae’r rhain yn cynnwys ffug lys barn gyda chyfleusterau fideo digidol, clinig cyngor cyfreithiol, a llyfrgell ymarfer cyfreithiol. Gallwch chi gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, gan gynnwys dadleuon a ffug dreialon yn ein Ffug Lys Barn, sydd wedi’i fodelu ar y rhai y byddwch yn cael profiad ohonynt fel ymarferydd cymwys.
Mae gradd PDC yn y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel gradd gymhwysol yn y gyfraith (QLD) at ddibenion proffesiynol yn y DU. Mae ein cyrsiau’n cael eu cydnabod gan yr Awdurdod Rheoliadau Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau’r Bar, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch paratoi ar gyfer symud ymlaen i fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr.
Rhestr cyrsiau