Theatr a Pherfformio
Perfformio ar waith
Mae ein cyrsiau Perfformio i gyd wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau, yr hyder a’r gefnogaeth i chi i greu a darparu perfformiadau gwych. Mae myfyrwyr Theatr a Drama yn dyfeisio ac yn cyflwyno gweithdai drama mewn partneriaeth â sefydliadau celfyddydau cymunedol, tra bod ein myfyrwyr Perfformio a’r Cyfryngau yn creu gwaith arloesol ar draws ystod eang o lwyfannau cyfryngau o gynnwys ar-lein i ddal symudiad. Mae ein partneriaethau â sefydliadau celfyddydol ledled y rhanbarth yn golygu ein bod yn gweithio ar brosiectau datblygu celfyddydau gyda phobl ifanc ar bob lefel o lawr gwlad i gwmnïau theatr proffesiynol.
Yn agosach at adref, gall myfyrwyr roi eu sgiliau chwarae rôl a byrfyfyr ar brawf trwy gefnogi nyrsys dan hyfforddiant, seicolegwyr a hyfforddeion yr heddlu PDC yn ystod ymarferion ‘golau glas’ sy’n efelychu digwyddiadau mawr.
Mae gan Dde Cymru ddiwylliant celfyddydol ffyniannus, o gynhyrchu ffilm a theledu i leoliadau celfyddydau a pherfformio annibynnol. Yn PDC, byddwch chi’n astudio yng nghanol Caerdydd, wedi eich amgylchynu gan gyfleoedd dirifedi i ddatblygu ac ehangu eich creadigrwydd, ac ennill profiad hanfodol i adeiladu eich gyrfa. Mae PDC ar y brig yng Nghymru am ragolygon graddedigion mewn Drama yn Nhabl 2021 Cynghrair y Guardian.
Ymgysylltu â’r diwydiant
Mae partneriaid diwydiant yn cyfrannu at bob un o’n cyrsiau. Maent yn rhoi dosbarthiadau meistr, yn cynnal lleoliadau gwaith, yn cynhyrchu cynyrchiadau ac yn ymgymryd â phrosiectau ar y cyd – pob un yn ehangu’r ffyrdd y gallwch ddysgu a chael profiadau gwerthfawr.
Ymhlith y cyfranwyr diweddar mae Theatr y Sherman, Theatr Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Celfyddydau Chapter, Hijinx, Taking Flight, Valleys Kids, Yellobrick, a Frân Wen. Cyfres o weithdai a darlithoedd gwadd gyda phobl blaenllaw’r diwydiant yw Dosbarthiadau Meistr CREU PDC, sydd am ddim i fyfyrwyr gael mynediad atynt.
Dysgu gan ein harbenigwyr
Mae ein hacademyddion yn wneuthurwyr ac ymchwilwyr a gydnabyddir gan ddiwydiant ac sy’n uchel eu parch yn rhyngwladol. Maent yn weithgar yn cyhoeddi llyfrau, creu theatr wreiddiol a chymryd rhan mewn digwyddiadau ymchwil y diwydiant. Mae nifer o’n staff hefyd yn aelodau bwrdd neu dîm gwahanol gwmnïau theatr neu gyfryngau. Mae hyn yn golygu y gallant ddod â’r holl fewnwelediad, arbenigedd a rhwydwaith hwn atoch trwy eu haddysgu.
Cyfleoedd Cymraeg
Gellir astudio 100% o BA (Anrh) Perfformio, Theatr a’r Cyfryngau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae Ysgoloriaeth Gymraeg PDC a Phrif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud hynny.