Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Astudiaethau Therapiwtig a Chwnsela

Mae cwnselwyr a therapyddion yn cymhwyso’u harbenigedd i broblemau a sefyllfaoedd mewn bywyd bob dydd, o reoli straen, iechyd a salwch meddwl i ddatblygiad personol a rhyngweithio cymdeithasol. Er mwyn helpu pobl mae angen gwybodaeth ymarferol a hyder, felly rydym yn sicrhau y gallwch gymhwyso theori yr ystafell ddosbarth i fywyd go iawn. Byddwch yn graddio o PDC â sgiliau arbenigol a dealltwriaeth o bobl a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bob diwrnod o’u bywyd.

Astudiaethau Therapiwtig a Chwnsela

Lleoliadau Gwaith a Chysylltiadau â’r Diwydiant

Lleoliadau Gwaith a Chysylltiadau â’r Diwydiant

Bydd lleoliadau gwaith yn rhan bwysig o ddysgu yn PDC. Maen nhw’n caniatáu i chi ddatblygu sgiliau allweddol a phrofiad ymarferwyr, a deall y cyd-destunau y byddwch yn gweithio ynddyn nhw pan fyddwch yn graddio.

Mae myfyrwyr cwnsela yn ymgymryd â lleoliadau gwaith ym mhob blwyddyn o’r cwrs, gan gynnwys 100 awr o ymarfer broffesiynol dan oruchwyliaeth yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, a fydd yn eich paratoi’n llawn ar gyfer eich gyrfa cwnsela. Mae ein gwasanaeth cwnsela mewnol a’n gwasanaeth cwnsela ysgolion hefyd yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith i ddatblygu sgiliau allweddol a phrofiad ymarferol ar gyfer eich CV.

Gall myfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiad gwaith, gan ddarparu gweithdai celfyddydau therapiwtig i gyfranogwyr mewn wardiau ysbyty, unedau arbennig, ysgolion a sefydliadau cymunedol ymhlith eraill. Cewch eich addysgu gan grŵp o ddarlithwyr profiadol â chefndir ym meysydd celfyddyd gain, celfyddydau cyfranogol a chymunedol, dylunio hygyrch, rheoli celfyddydau a seicotherapi celfyddydau, a byddwch yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Byddan nhw’n eich cefnogi i guradu arddangosfeydd, creu gwaith celf wedi’u hysbrydoli’n therapiwtig ac archwilio syniadau iechyd a lles drwy wneud.

Mae gan y Brifysgol bartneriaeth hirsefydlog â’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a gallwch wneud cais i unrhyw un o’r sefydliadau hyn fel rhan o’ch profiad gwaith.

Sgiliau Ymarferol a Chyfleusterau Rhagorol

Sgiliau Ymarferol a Chyfleusterau Rhagorol

Mae gan ein Campws yng Nghasnewydd gyfres o ystafelloedd i ymarfer sgiliau cwnsela unigol. Mae myfyrwyr yn defnyddio adnoddau arbenigol ar gyfer technegau cwnsela ar-lein, a chyfleusterau recordio fideo pwrpasol i fireinio’u technegau a meithrin sgiliau digidol ychwanegol.

Mae gan fyfyrwyr Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ar Gampws Trefforest fynediad i stiwdios celf pwrpasol a mannau addysgu sy’n cynnwys ystod o offer a deunyddiau. Yma gallwch arbrofi â gwahanol gyfryngau a chreu gwaith o safon uchel sy’n eich adlewyrchu chi fel Ymarferydd Creadigol. Mae ein partneriaethau arbenigol â sefydliadau cymunedol, cynghorau tref a sefydliadau iechyd yn darparu sylfaen ar gyfer prosiectau oddi ar y campws ym mhob blwyddyn o’r cwrs. Mae’r partneriaethau hyn yn galluogi profiadau gwerthfawr o’r byd go iawn o fewn amrywiaeth o sefydliadau a’r cyfle i effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl eraill wrth astudio.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?