Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Chwaraeon

Mae gan PDC gefndir chwaraeon cryf ac enw da am raddau chwaraeon rhagorol sydd yn adlewyrchu gwahanol agweddau ar y diwydiant chwaraeon. O hyfforddi a pherfformio i wyddoniaeth a therapi, byddwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich gyrfa. Byddwch yn astudio mewn awyrgylch perfformiad uchel sy'n addas ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arweinwyr, hyfforddwyr, dadansoddwyr perfformiad a gwyddonwyr chwaraeon.

Chwaraeon

Chwaraeon

Cyfleusterau proffesiynol

Mae gan Barc Chwaraeon PDC un o’r awyrgylchoedd addysgu a dysgu gorau ar gyfer chwaraeon yn y DU. Ni yw’r unig brifysgol yng Nghymru a Lloegr i gynnig cae 3G dan do maint llawn wedi’i adeiladu i Safon FIFA Pro a Rygbi’r Byd sy’n gwarantu hyfforddiant trwy gydol y flwyddyn.

Mae ein canolfan arbenigol ar gyfer cryfder a chyflyru yn darparu 12 platfform codi, felly gall carfan rygbi neu bêl-droed gyfan hyfforddi gyda’i gilydd. Mae’r llawr wedi’i integreiddio â’r llwyfannau fel y gall gynnal y pwysau trwm y mae ein hathletwyr yn eu defnyddio.

Mae ein cyfleusterau chwaraeon yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan dimau proffesiynol rhyngwladol, megis tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, sgwadiau rygbi teithiol megis Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia, yn ogystal â Rygbi Lloegr, yr Eidal a’r Barbariaid. Mae hyn yn cadarnhau ansawdd uchel ein caeau a natur amrywiol ein hoffer.

Technoleg arloesol

Rydym yn defnyddio technoleg sy’n arwain y diwydiant i wella addysgu, gan gynnwys technoleg GPS gwisgadwy, dadansoddi fideo ansawdd uchel ac offer rheoli athletwyr.

I ategu’r offer arbenigol hwn yn y Parc Chwaraeon, mae labordai gwyddor chwaraeon ar Gampws Pontypridd yn darparu cefndir gwyddonol cryf i’r dysgu. Mae yna labordai pwrpasol sy’n llawn offer arbenigol, gan gynnwys system pwyso tanddwr a MRI corff cyfan i fesur braster a chyhyr y corff cyfan a rhannau ohono. Mae gennym hefyd siambr hypobarig sy’n profi unigolion mewn gwahanol amodau, yn aml ar eithafion dygnwch.

Cymwysterau ar gyfer y diwydiant

Mae profiad ymarferol wedi’i ymgorffori yn Chwaraeon PDC.

Mae ein partneriaethau unigryw yn golygu bod trwyddedau hyfforddi UEFA B a FAW C a nifer o ddyfarniadau hyfforddi UKCC ac WRU wedi’u hymgorffori yn ein graddau hyfforddi heb unrhyw gost ychwanegol. Mae’r partneriaethau hyn yn darparu cyfleoedd sy’n cyfateb i’ch cwrs a’ch diddordebau, felly gallwch chi raddio gyda chymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant ar ben eich gradd.

Mae gennym hefyd bartneriaethau unigryw gyda chlybiau, cyrff llywodraethu ac undebau chwaraeon, a gall ein myfyrwyr fanteisio ar y cyfleoedd hyn i roi hwb i’w cyflogadwyedd.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?