Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Deg rheswm pam

Bydd eich gyfnod yn PDC yn ehangu eich gorwelion, yn eich dysgu am ddulliau newydd o edrych ar y byd. Mae ein graddedigion yn barod i wynebu yfory. Pobl sy’n barod i adeiladu eu gyrfaoedd a gwneud gwahaniaeth. PDC sy'n gwella pob yfory.

Pam PDC?

01

Bod yn ymarferol yw’r man cychwyn sydd ei angen arnoch chi

Mae gennym ddull unigryw o addysgu trwy brofiad ymarferol a phartneriaethau ag arweinwyr diwydiant. Mae’n eich paratoi ar gyfer lle mae’r proffesiwn o’ch dewis yn mynd yn y dyfodol, ac yn eich helpu i ddod yn rhan o’r proffesiwn hwnnw cyn i chi raddio. Dyma pam mae 95% o’n graddedigion mewn gwaith amser llawn neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis.

2

Dyma le o gyferbyniadau ysbrydoledig

Creadigrwydd bywiog Caerdydd… sbardun mentrau newydd Casnewydd… y natur arw o amgylch Pontypridd, Glyn-taf a Trefforest… a phopeth yn y canol. Mae gennym ni dri lleoliad, rydyn ni’n un Brifysgol. Mae gan bob campws gysylltiadau da, mae pobman yn agored i chi fel myfyriwr PDC. Pa bynnag gampws sy’n cynnal eich cwrs, cewch y gorau o Dde Cymru i’w archwilio.

03

Rydych chi’n ffynnu pan fyddwch chi’n cael eich annog i fod yn chi’ch hun

Mae PDC yr un mor groesawgar gyda’i thraed ar y ddaear â’r lle rydyn ni’n ei alw’n gartref. Mae ein maint dosbarthiadau bach pwrpasol, ein pwyslais ar gydweithredu a staff cyfeillgar yn golygu bod pob math o fyfyriwr yn ffynnu yma. Er ein bod ni’n un o’r prifysgolion mwyaf yn y DU, fe welwch fod ein darlithwyr yn adnabod pob un o’u myfyrwyr yn ôl enw. P’un ai chi yw’r genhedlaeth gyntaf i fynychu’r brifysgol neu os ydych yn parhau â thraddodiad teuluol, sy’n edrych i astudio am y tro cyntaf neu’n rhan-amser, fe welwch eich bod chi’n ffitio i mewn.

4

Ystafelloedd dosbarth ar eu newydd-wedd

Y ffordd orau i fod yn barod ar gyfer gyrfa pan fyddwch chi’n graddio, yw astudio gan ddefnyddio’r un cyfleusterau, meddalwedd a thechnegau y byddwch chi’n eu defnyddio yn eich gyrfa. Mae ein holl gyfleusterau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac o safon diwydiant. Ac mae pob cwrs yn darparu cyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gyda chwmnïau blaenllaw. Mae astudio yn PDC mor agos ag y gallwch chi i fod yn eich diwydiant tra yn y brifysgol. Dyna sy’n rhoi cymaint o hyder i gyflogwyr yng ngraddedigion PDC.

5

Nid yw llwyddiant yn ymwneud yn unig â’r hyn rydych chi’n ei wybod, ond â phwy rydyn ni’n eu hadnabod

Rydym yn datblygu ac yn cyflwyno ein cyrsiau mewn partneriaethau unigryw gyda chyflogwyr, gan gynrychioli arweinwyr diwydiant, y sector cyhoeddus a chyrff cenedlaethol. Mae eich gradd PDC yn canolbwyntio 100% ar yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr yn y dyfodol. Mae mwyafrif ein cyrsiau hefyd yn darparu achrediadau proffesiynol ychwanegol, gan roi mantais gystadleuol ychwanegol i chi pan fyddwch chi’n graddio.

06

Mae fy narlithwyr yn wirioneddol wych am ein cefnogi a gyda'n hiechyd meddwl - yn enwedig gyda phandemig Covid.

Haydn Evans
Newyddiaduraeth Chwaraeon

Hyfforddwr academaidd i bob myfyriwr

Neilltuir Hyfforddwr Academaidd Personol i bob myfyriwr israddedig, yn annibynnol ar ei gwrs, i’w helpu gyda’u hanghenion unigol. Maen nhw yno i’ch helpu chi i gael y gorau o astudio a bywyd tra yn PDC. Gallwch hefyd gael mynediad am ddim i wasanaethau cymorth proffesiynol ar gyfer pob agwedd ar fywyd yn y brifysgol – gan gynnwys lles, gyrfaoedd a chyflogaeth, entrepreneuriaeth, cymorth astudio a chlybiau a chymdeithasau.

07

Mae pob agwedd ar fywyd yma, ym mhobman rydych chi’n edrych

Mae PDC yn gymuned agored o fyfyrwyr, amrywiol a chroesawgar bob amser, lle mae cyfeillgarwch gydol oes yn cael ei greu. Gyda’r amrywiaeth enfawr o bethau i’w gwneud, eu gweld a’u profi ar draws ein lleoliadau, mae rhywbeth newydd i’w ddarganfod o hyd. P’un a ydych chi yng nghanol Caerdydd neu ym mryniau’r Parc Cenedlaethol, nid ydych chi byth mwy nag 20 munud i ffwrdd o rywbeth hollol wahanol. Beth bynnag eich diddordebau, mae yna gymdeithas neu glwb PDC lle byddwch chi’n cwrdd â myfyrwyr o’r un anian.

08

Mae ein hymchwil yn newid bywydau er gwell

Mae ein hymchwil a’n haddysgu yn canolbwyntio ar yr heriau byd-eang a fydd yn effeithio ar bob cymuned yn y dyfodol. Cydnabyddir bod dros 50% o ymchwil PDC yn arwain y byd neu’n arwyddocaol yn rhyngwladol. Mae ein darganfyddiadau a’n cydweithrediadau yn helpu i newid bywydau a’n byd yn ymarferol er gwell, o ynni gwyrdd, i gyfiawnder troseddol a datblygiadau meddygol.

09

Mae astudio yn y brifysgol yn ystod y pandemig wedi bod yn agoriad llygad ynghylch pa mor bell y bydd y brifysgol yn mynd i'n cefnogi.

Gabby Wood
Addysgu Cynradd gyda SAC

Dysgu rhyngweithiol, p’un ai ar y campws neu ar-lein

Rydym yn cymysgu dulliau addysgu ar-lein a thraddodiadol i greu cymuned ddysgu weithredol, gymdeithasol o amgylch y pwnc o’ch dewis. Nid yw hyn yn newydd yn PDC. Rydym wedi defnyddio dysgu cyfunol yn llwyddiannus ar nifer o gyrsiau ers blynyddoedd lawer. Rydym wedi gallu addasu a theilwra’r dull hwn yn effeithiol, a sicrhau bod lles myfyrwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae ein profiad yn golygu y gallwn hefyd addasu’n gyflym wrth i amgylchiadau newid gan darfu cyn lleied â phosibl ar astudiaethau.

10

Mae gwell yfory yn cychwyn heddiw

Yn PDC, rydym bob amser yn anelu’n uwch ac yn gweithio’n galetach. Mae’n rhaid i ni. Rydym yn Brifysgol gymharol ifanc, gydag ymagwedd wahanol iawn – gan weithio mewn partneriaeth â diwydiannau a chymunedau i baratoi myfyrwyr i lunio’r dyfodol er gwell. A gan edrych ar y canlyniadau, mae ein hymagwedd yn gweithio. Mae angen momentwm i greu newid – ymunwch â PDC ac elwa o’n un ni.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?