Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Mwy o ymarfer. Mwy o brofiad. Gwell yfory.

Nid yw'ch gyrfa'n cychwyn pan fyddwch chi'n gorffen eich gradd. Byddwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer yfory o'r diwrnod cyntaf. Byddwn yn eich ysbrydoli i ddychmygu ffyrdd newydd a llwybrau newydd. Mewn byd nad yw wedi stopio newid, mae graddedigion PDC yn barod i ddelio â'r annisgwyl ac addasu i ffyrdd newydd o feddwl. Ond nid theori mohono i gyd. Yn PDC, byddwch chi'n dysgu y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae profiad gwaith yn rhan fawr o'n holl gyrsiau ac mae sut mae pethau'n gweithio mewn bywyd go iawn yn rhan o'r cwricwlwm.

Profiad Gwaith

Profiad Gwaith

Mae'r cwrs hwn wedi fy arfogi gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnaf. Roedd cymaint o brofiad ymarferol, sydd wir wedi apelio at gyflogwyr.

Livvy Cropper
BSc (Anrh) Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol

Dechreuwch eich gyrfa cyn i chi raddio

Mae gan PDC dîm ymroddedig i’ch helpu chi i ddod o hyd i brofiad gwaith sy’n gysylltiedig â gyrfa yn y DU a thramor. Mae yna wahanol fathau o brofiad gwaith, felly rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i un sy’n addas i chi.

Mae gan rai o’n cyrsiau flwyddyn o brofiad gwaith, o’r enw ‘blwyddyn ryngosod’, wedi’i hymgorffori – gwiriwch yr opsiynau astudio ar gyfer eich cwrs. Mae’n gyfle gwych i dreulio amser yn y gweithle a chael profiadau perthnasol i siarad amdanynt mewn cyfweliad. Gallech hyd yn oed ystyried prentisiaeth gradd i gyfuno astudio â chyflogaeth.

Partneriaethau diwydiant

Partneriaethau proffesiynol

Mae ein cysylltiadau proffesiynol yn darparu gwybodaeth arbenigol a phrofiadau hanfodol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid diwydiant i lunio’ch dysgu, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu bywyd go iawn a gofynion cyflogwyr. Mae gan lawer o’n graddau achrediadau gan gyrff proffesiynol. Mae’n arwydd o’u safon uchel ac yn dangos bod cynnwys y cyrsiau’n cwrdd â safonau’r diwydiant.

Yn PDC, rydych chi’n gwybod y bydd gennych chi’r wybodaeth gywir wedi’i hatgyfnerthu gan sgiliau ymarferol perthnasol. Mae ein partneriaethau yn agor byd o gyfle i chi ail-ddychmygu eich yfory.

Ein cyfleusterau

Ystafelloedd dosbarth wedi’u hail-ddychmygu

Yn PDC, gallwch ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch mewn amgylcheddau sy’n ail-greu’r gweithle. O offer i feddalwedd i ymarfer proffesiynol, cynyddwch eich hyder ar y campws a byddwch yn barod ar gyfer y byd go iawn. Ymhlith rhai enghreifftiau o’n hymagwedd mae ein sied awyrennau, ward ysbyty, tŷ safle trosedd, stiwdios recordio a chyfleusterau chwaraeon o safon ryngwladol oll ar y campws.  Bod yn ymarferol yw’r man cychwyn sydd ei angen arnoch chi.


Cwricwlwm

Mae addysgu’n cael ei lywio gan gyflogwyr a beth sy’n digwydd yn y gweithle, felly byddwch chi’n ennill sgiliau perthnasol i’ch rhoi ar y blaen i’r gystadleuaeth. Hefyd, byddwch chi’n cael eich dysgu ac yn clywed gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn yn eich maes.

Meysydd pwnc


Gyrfaoedd PDC

Bydd Gyrfaoedd PDC yn eich helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a sut i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch. Rydyn ni hyd yn oed yma i chi ar ôl i chi raddio, gan gynnwys cyngor gyrfa personol, cymorth ymgeisio a hysbysiadau swyddi i raddedigion.

Prentisiaethau Gradd

Prentisiaethau Gradd

Mae prentisiaethau gradd yn ddewis amgen i astudiaethau traddodiadol prifysgol sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg myfyrwyr. Byddwch yn cael eich lleoli mewn awyrgylch gwaith gan ennill profiad o weithio mewn gweithle go iawn ac ennill cyflog tra’n gweithio tuag at gymhwyster gradd ar yr un pryd wedi i chi gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus.

Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag prentisiaeth gradd mewn Plismona Gweithredol, Peirianneg, Technolegau Lled-ddargludyddion, a Datrysiadau Digidol a Thechnoleg.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?