10 rheswm i astudio yn PDC
Ein lleoliadau
Mae Cymru yn aros amdanoch chi
Mae De Cymru yn lle o gyferbyniadau ysbrydoledig. O fyw yn y ddinas, cymunedau croesawgar ac adrenalin awyr agored; i ddiwylliant a thraethau a siopa a chestyll a cherddoriaeth a bwyd; i bobl sy’n hoff o chwaraeon yma ar gyfer drama epig, pobl sy’n hoff o barti yma am amser da, a miloedd o fyfyrwyr sydd yma eisoes i adeiladu eu dyfodol. Lle bynnag rydych chi’n astudio, dydych chi byth mwy nag 20 munud o rywle hollol wahanol.
Lleoliadau
Caerdydd
Casnewydd
Pontypridd
Bywyd myfyrwyr
Mae ymuno â Phrifysgol De Cymru yn golygu mwy na gradd wych, byddwch chi hefyd yn rhan o deulu llawer mwy.
Mishan Wickremasinghe
Myfyriwr graddedig Marchnata a Chyn-lywydd Undeb y Myfyrwyr
Ymunwch â’r teulu
Yn PDC byddwch chi’n gwneud ffrindiau oes, yn rhoi cynnig ar lawer o bethau newydd ac yn dod yn fwy annibynnol nag erioed o’r blaen. Byddwch chi’n byw ac yn astudio mewn amgylchedd cefnogol lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i ddathlu, lle byddwch chi’n enw, nid rhif.
Bob blwyddyn, rydym yn croesawu miloedd o fyfyrwyr sy’n dod ynghyd â’r nod cyffredin o ddysgu ac adeiladu ar gyfer eu dyfodol, felly byddwch chi’n rhan o gymuned wych. Ni waeth ble mae eich fory yn mynd â chi, byddwch bob amser yn rhan o Deulu PDC.
Cyfleusterau
Ystafelloedd dosbarth wedi’u hail-ddychmygu
Yn PDC, gallwch ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch mewn amgylcheddau sy’n ail-greu’r gweithle. O offer i feddalwedd i ymarfer proffesiynol, cynyddwch eich hyder ar y campws a byddwch yn barod ar gyfer y byd go iawn. Ymhlith rhai enghreifftiau o’n hymagwedd mae ein sied awyrennau, ward ysbyty, tŷ safle trosedd, stiwdios recordio a chyfleusterau chwaraeon o safon ryngwladol oll ar y campws. Bod yn ymarferol yw’r man cychwyn sydd ei angen arnoch chi. Byddwch un cam ar y blaen gyda phrofiad ymarferol.
Profiad gwaith
Rwy’n teimlo cymaint yn fwy hyderus yn fy sgiliau a fy ngalluoedd
Euan Thomas
Myfyriwr graddedig Troseddeg
Dysgu o brofiad
Nid ydym yn credu y gallwch ddysgu popeth sydd ei angen arnoch o lyfr. Dyna pam mae sgiliau ymarferol, partneriaid diwydiant a lleoliadau gwaith yn ganolog i’n cyrsiau. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr ar draws pob sector i gysylltu myfyrwyr â chyfleoedd lleoliad gwaith a chyfleoedd ar ôl graddio.
Yn PDC gallwch chi gychwyn ar eich gyrfa cyn i chi raddio hyd yn oed, trwy roi theori ar waith a dysgu o brofiad yn y gweithle. Ar ben hynny mae ein cefnogaeth yn parhau ar ôl i chi raddio, gan gynnwys cyngor gyrfaoedd personol, cymorth ymgeisio a hysbysiadau swyddi i raddedigion.
Ein llety
Man cartrefol
Mae ble rydych chi’n byw yr un mor bwysig â’r hyn rydych chi’n ei astudio. I’r rhan fwyaf o bobl, mae mynd i’r brifysgol yn golygu symud oddi cartref am y tro cyntaf ac mae’n gam cyffrous. Bydd gennych eich lle eich hun i fyw, astudio a chymdeithasu, eich ffordd eich hun.
Mae neuaddau preswyl yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae yna lety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw ger y campws lle byddwch chi’n astudio, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i’ch cadw chi’n gysylltiedig. Felly p’un a ydych chi eisiau byw ar y campws neu gael profiad o fyw yng nghanol y ddinas, gallwch ddewis beth sy’n iawn i chi.