Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Croeso i Deulu PDC

Yn PDC byddwch chi'n gwneud ffrindiau am oes, yn rhoi cynnig ar lawer o bethau newydd ac yn dod yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen. Byddwch yn rhan o amgylchedd cefnogol ar gyfer astudio a byw, lle mae myfyrwyr newydd yn teimlo'n gartrefol yn gyflym. Er ein bod ni'n un o'r prifysgolion mwyaf yn y DU, fe welwch fod eich darlithwyr yn adnabod pob un o'u myfyrwyr yn ôl enw. Mae gennym gymuned amrywiol a chroesawgar, felly p'un a ydych chi newydd orffen eich Lefel A neu'n dychwelyd i addysg, fe welwch bobl yn union fel chi, sy'n rhannu eich diddordebau, eich credoau a'ch cymhellion.

Bywyd Myfyrwyr

Yr hyn mae ein myfyrwyr yn ei ddweud amdanon ni

Rydw i wedi dysgu cymaint. Nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth, ond amdanaf fy hun hefyd

Danielle Webb
BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Profiad myfyriwr Danielle

Graddiodd Danielle gyda BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol o PDC ac mae wedi dychwelyd i wneud ei gradd Meistr.

“Rydw i wedi dysgu cymaint. Nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth, ond amdanaf fy hun hefyd. Mae gorffen gradd a graddio, yn ystod pandemig, wedi fy nysgu fy mod i gymaint yn gryfach nag yr oeddwn i’n meddwl. Hyd yn oed gyda’r caledi, mae fy ngradd yn brofiad y byddaf yn ei drysori am byth.  Rydw i wedi gwneud ffrindiau am oes yn y brifysgol.

Mae gallu gweithio wrth astudio a chael profiad ymarferol wedi caniatáu imi roi’r hyn rwy’n ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith a gwneud cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer. Rhoddodd jyglo fy ngradd a lleoliad flas i mi ar y byd go iawn. Rwyf eisoes yn teimlo fel gweithiwr proffesiynol uchel ei barch.

Cymerwch risg a pheidiwch byth â thanamcangyfrif y posibiliadau. Symudais o Loegr i ymrwymo i’m gwaith ac astudiaethau, ac roedd yn un o’r penderfyniadau gorau i mi eu gwneud.”

Straeon myfyrwyr

Bywyd beunyddiol yn PDC

Mae ein myfyrwyr yn rhannu sut beth yw bywyd PDC trwy eu vlogs – o sut i wneud y mwyaf o’ch penwythnos i gynghorion astudio yn ystod y cyfnod clo a haciau bywyd myfyrwyr. Gallwch danysgrifio i’w sianel YouTube i weld sut beth yw bywyd myfyrwyr yn PDC a rhai o’r profiadau amrywiol sy’n aros amdanoch chi yma. Dyma’r ffordd orau i ddarganfod mwy am fywyd campws, digwyddiadau, clybiau a chymdeithasau, a gallwch gysylltu â nhw i ofyn iddyn nhw beth rydych chi am ei wybod.

Yr hyn mae ein myfywr yn dweud amdanon ni

MAE'R GEFNOGAETH YN PDC WEDI BOD YN RHAGOROL, AC RWY'N DDIOLCHGAR

Will Simpson
BSc (Anrh) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

PROFIAD MYFYRIWR WILL

Siaradodd Will â ni am ei brofiadau o astudio yn y brifysgol ag awtistiaeth: goresgyn heriau, y gefnogaeth sydd ar gael a’i gyngor i fyfyrwyr eraill ag awtistiaeth.

“Mae’r gefnogaeth yn PDC wedi bod yn rhagorol, ac rwy’n ddiolchgar. Mewn gwirionedd, mae’r gefnogaeth wedi bod mor anhygoel, mae wedi bod yn eithaf emosiynol. Rwy’n cael cefnogaeth yn y dosbarth, cefnogaeth sgiliau astudio a mentor arbenigol. Mae hyn i gyd yn rhan o fy Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Mae PDC wedi fy nghefnogi gyda fy awtistiaeth a’m pryder trwy gefnogaeth mentor arbenigol, ac rwy’n siarad â fy mentor yn wythnosol. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi siarad â nhw ynghylch pa mor dda rydw i’n gwneud. Mae hefyd gennyf rywun i gymryd fy nodiadau yn fy ngwersi ar-lein.

“Ymunais â grŵp Facebook PDC ac wedu gwneud rhai ffrindiau drwyddo. Maen nhw’n bobl hyfryd, ac rydw i’n dal i fod mewn cysylltiad â nhw nawr, gan eu bod nhw ar yr un cwrs â mi. Rwyf hefyd yn derbyn cefnogaeth fentora arbenigol, a phrynhawn Gwener, rwy’n mynychu grŵp cymorth ‘cyfle i sgwrsio’. Dyma lle y gallaf wneud ffrindiau newydd. Rwyf hefyd wedi ymuno â llawer o gymdeithasau, fel y gymdeithas LGBTQ a’r gymdeithas redeg, gan fy mod yn mwynhau rhedeg.

“Fy her fwyaf oedd symud i PDC ac ymdopi ar fy mhen fy hun, ac rydw i wedi llwyddo i wneud hyn yn llwyddiannus. Roedd yn newid bywyd, ac nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn gallu ei wneud, ond fe wnes i! ”

Undeb y Myfyrwyr

Undeb y Myfyrwyr

Undeb y Myfyrwyr yw lle gallwch ofyn am gyngor, bod yn rhan o dîm chwaraeon, gwneud ffrindiau newydd, dod o hyd i waith a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. O gyngor i wirfoddoli, mae’r Undeb yn bodoli i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl yn PDC.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, felly byddwch chi’n cael pleidleisio ac ethol eich cynrychiolwyr. Yn ogystal â gwasanaethau cynrychiolaeth a lles, rydym yn cynnal ymgyrchoedd bob blwyddyn sy’n gwneud gwahaniaeth i’n cymuned myfyrwyr, fel ‘Edrychwch Ar Ôl Eich Ffrind’ ac ‘Wythnos Newid’.

Yr hyn mae ein cyn-fyfyrwyr yn ei ddweud amdanon ni

Ni fyddwn yn y sefyllfa hon oni bai am PDC. Prifysgol yw lle llwyddais i droi fy mywyd o gwmpas.

Hamed Amiri
Pennaeth Datblygu Cyfreithwyr NewLaw

Mae Hamed Amiri, a raddiodd o PDC, yn gwirfoddoli i helpu myfyrwyr i gyflawni eu nodau

Mae gan Hamed radd mewn BSc (Anrh) Cyfrifiadureg o PDC, mae’n Bennaeth Datblygu Cyfreithwyr NewLaw, ac mae bellach yn awdur o fri sy’n ysbrydoli eraill trwy ei stori am wytnwch personol.

“Ni fyddwn yn y sefyllfa hon oni bai am PDC. Prifysgol yw lle llwyddais i droi fy mywyd o gwmpas. Aeth y darlithwyr y tu hwnt i’r galw i’m hannog a’m cefnogi. Rwy’n dal i gofio cofio cael gradd dosbarth cyntaf ar gyfer un o’m darnau cynharaf o waith.

Gyda gwaith caled, hunan-gred a chefnogaeth, gallwch chi gyrraedd lle rydych chi am fod. Fy nod yw ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn eu breuddwydion ac i gyrraedd eu potensial, er gwaethaf holl rwystrau bywyd, yn union fel wnes i.

Y cyngor y baswn yn ei roi i unrhyw un sy’n ystyried dod i PDC yw i fynd amdani – gallai newid eich bywyd, fel y gwnaeth i mi.”

Chwaraeon PDC

Chwaraeon PDC

Mae Chwaraeon PDC i bawb – mae rhoi cynnig ar weithgaredd newydd yn dda i’ch lles ac yn ffordd wych o wneud ffrindiau. Yn ogystal â dosbarthiadau, mae chwaraeon tîm yn rhan allweddol o fywyd myfyriwr. Mae timau PDC yn cystadlu yng Nghynghrair BUCS mewn llawer o chwaraeon ac rydym yn falch o’n llwyddiannau. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi cael canlyniadau rhagorol mewn pêl-droed, rygbi, pêl-fasged, polo dŵr, nofio, pêl foli a badminton.

Yn ogystal â’r Ganolfan Chwaraeon ym Mhontypridd, rydyn ni wedi sicrhau cyfraddau myfyrwyr gostyngedig mewn campfeydd yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Os ymunwch â thîm, mae’n debygol y byddwch chi’n hyfforddi ac yn cystadlu yn ein Parc Chwaraeon, sy’n un o’r lleoliadau hyfforddi chwaraeon prifysgol gorau yn y wlad.

Clybiau a chymdeithasau

Clybiau a chymdeithasau

Os ymunwch â chlwb neu gymdeithas yn Ffair y Glas, byddwch yn cwrdd â llawer o bobl newydd ac yn cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau, o arddangosiadau a theithiau undydd i nosweithiau allan a phartïon. Beth bynnag y mae gennych ddiddordeb ynddo, bydd cymdeithas neu glwb PDC yno i’ch helpu i gwrdd â phobl o’r un anian neu ddarganfod rhywbeth newydd. Ymhlith rhai o’r clybiau a’r cymdeithasau y gallech chi ymuno â nhw mae Cymraeg, LGBT+, Chwaraeon Eira, Codi Hwyl, Dadlau, Ffilm, Rhwyfo, a Seibrddiogelwch.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?