Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Mae'n fyd newydd. Dechreuwch adeiladu'ch un chi yn PDC.

Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cyflwyno cyrsiau a fydd yn newid bywydau a'n byd er gwell. Addysg yn ymarferol yw hon, nid theori yn unig. Rydyn ni am i chi raddio gyda'r gallu i wneud eich ffordd eich hun, yn brofiadol ac yn hyderus i wynebu unrhyw her. Mae gwell yfory yn bosibl os ydyn ni'n paratoi ar ei gyfer heddiw. Dewch o hyd i'ch yfory yn PDC.

USW

10 rheswm i astudio yn PDC

Bod yn ymarferol yw'r man cychwyn sydd ei angen arnoch chi

Dyma le o gyferbyniadau ysbrydoledig

Rydych chi'n ffynnu pan fyddwch chi'n cael eich annog i fod yn chi'ch hun

Student working on plane

Ystafelloedd dosbarth ar eu newydd-wedd

Nid yw llwyddiant yn ymwneud yn unig â'r hyn rydych chi'n ei wybod, ond â phwy rydyn ni'n eu hadnabod

Hyfforddwr academaidd i bob myfyriwr

Mae pob agwedd ar fywyd yma, ym mhobman rydych chi'n edrych

Mae ein hymchwil yn newid bywydau er gwell

Dysgu rhyngweithiol, p'un ai ar y campws neu ar-lein

Mae gwell yfory yn cychwyn heddiw

Ein lleoliadau

Mae Cymru yn aros amdanoch chi

Mae De Cymru yn lle o gyferbyniadau ysbrydoledig. O fyw yn y ddinas, cymunedau croesawgar ac adrenalin awyr agored; i ddiwylliant a thraethau a siopa a chestyll a cherddoriaeth a bwyd; i bobl sy’n hoff o chwaraeon yma ar gyfer drama epig, pobl sy’n hoff o barti yma am amser da, a miloedd o fyfyrwyr sydd yma eisoes i adeiladu eu dyfodol. Lle bynnag rydych chi’n astudio, dydych chi byth mwy nag 20 munud o rywle hollol wahanol.

Lleoliadau

Caerdydd

Casnewydd

Pontypridd

Bywyd myfyrwyr

Mae fy mhrofiad prifysgol wedi bod yn anhygoel. Mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac annibynnol.

Lauren Cole
Graddedig mewn marchnata

Ymunwch â’r teulu

Yn PDC byddwch chi’n gwneud ffrindiau am oes, yn rhoi cynnig ar lawer o bethau newydd ac yn dod yn fwy annibynnol nag erioed o’r blaen. Byddwch chi’n byw ac yn astudio mewn amgylchedd cefnogol lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i ddathlu, lle byddwch chi’n enw, nid rhif.

Bob blwyddyn, rydym yn croesawu miloedd o fyfyrwyr sy’n dod ynghyd â’r nod cyffredin o ddysgu ac adeiladu ar gyfer eu dyfodol, felly byddwch chi’n rhan o gymuned wych. Ni waeth ble mae eich fory yn mynd â chi, byddwch bob amser yn rhan o Deulu PDC.

Cyfleusterau

Ystafelloedd dosbarth wedi’u hail-ddychmygu

Yn PDC, gallwch ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch mewn amgylcheddau sy’n ail-greu’r gweithle. O offer i feddalwedd i ymarfer proffesiynol, cynyddwch eich hyder ar y campws a byddwch yn barod ar gyfer y byd go iawn. Ymhlith rhai enghreifftiau o’n hymagwedd mae ein sied awyrennau, ward ysbyty, tŷ safle trosedd, stiwdios recordio a chyfleusterau chwaraeon o safon ryngwladol oll ar y campws. Bod yn ymarferol yw’r man cychwyn sydd ei angen arnoch chi.

Profiad gwaith

Rwy’n teimlo cymaint yn fwy hyderus yn fy sgiliau a fy ngalluoedd

Euan Thomas
a raddiodd mewn Troseddeg

Dysgu o brofiad

Nid ydym yn credu y gallwch ddysgu popeth sydd ei angen arnoch o lyfr. Dyna pam mae sgiliau ymarferol, partneriaid diwydiant a lleoliadau gwaith yn ganolog i’n cyrsiau. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr ar draws pob sector i gysylltu myfyrwyr â chyfleoedd lleoli a graddio.

Yn PDC gallwch chi gychwyn ar eich gyrfa cyn i chi raddio hyd yn oed, trwy roi theori ar waith a dysgu o brofiad yn y gweithle. Ar ben hynny mae ein cefnogaeth yn parhau ar ôl i chi raddio, gan gynnwys cyngor gyrfaoedd personol, cymorth ymgeisio a hysbysiadau swyddi i raddedigion.

Ein llety

Man cartrefol

Mae ble rydych chi’n byw yr un mor bwysig â’r hyn rydych chi’n ei astudio. I’r rhan fwyaf o bobl, mae mynd i’r brifysgol yn golygu symud oddi cartref am y tro cyntaf ac mae’n gam cyffrous. Bydd gennych eich lle eich hun i fyw, astudio a chymdeithasu, eich ffordd eich hun.

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad myfyriwr ac mae yna lety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw ger y campws lle byddwch chi’n astudio, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i’ch cadw chi’n gysylltiedig. Felly p’un a ydych chi eisiau byw ar y campws neu gael profiad o fyw yng nghanol y ddinas, gallwch ddewis beth sy’n iawn i chi.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?