Dylunio
DYLUNIO
YMHLITH Y DEG UCHAF YN Y DU AM ASESU MEWN DYLUNIO GRAFFEG
CANLLAW PRIFYSGOLION Y GUARDIAN 2024
Ym Mhrifysgol De Cymru mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda’r diwydiant mewn golwg, a’n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio. Rydym yn falch o fod ar y brig yng Nghymru am addysgu ac asesu Dylunio Graffig (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)
AMGYLCHEDD SY’N YSGOGI
Mae ein holl gyrsiau dylunio yn cynnig amgylchedd creadigol ysgogol â gofod stiwdio pwrpasol newydd sbon. Mae ein stiwdios dylunio wedi’u cynllunio i efelychu stiwdios dylunio masnachol, o fannau cydweithio creadigol i’n hystafell cyflwyno syniadau i’r diwydiant. Bydd gennych fynediad hefyd i ystafelloedd Mac, amrywiaeth eang o ddyfeisiau cipio delweddau a Raspberry Pi hyd yn oed.
Mae gan y campws ystod o dechnegwyr digidol ag Achrediad Adobe sy’n cefnogi ein holl raglenni meddalwedd dylunio a addysgir ar-lein ac ar y campws.
Llun i’r chwith – wedi’i ddylunio gan Joanna Wezik, myfyriwr o Brifysgol De Cymru, BA (Anrh) Dylunio Setiau Teledu a Ffilm.
-
CYSYLLTIADAU Â’R DIWYDIANT
Mae pob myfyriwr dylunio ym Mhrifysgol De Cymru yn gweithio ar gystadlaethau byw, prosiectau ac ymweliadau â’r diwydiant.
Mae gennym bartneriaethau unigryw gyda diwydiannau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ein partneriaethau yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad gwaith ar sioeau teledu, ffilmiau a chynyrchiadau gemau fideo arloesol. Gyda chefnogaeth addysgu arbenigol, mae ein myfyrwyr dylunio wedi gweithio ar friffiau proffesiynol gan gleientiaid go iawn, gan gynnwys Nike, British Airways a Gleision Caerdydd.
LLWYDDIANT GRADDEDIGION
Mae gan fyfyrwyr dylunio o’r Brifysgol hanes sefydledig o lwyddiant ac wedi casglu gwobrau yng Ngwobrau Dylunwyr Newydd D&AD, Gwobrau Rhwydwaith Creadigol Ifanc, a Gwobrau Caramelite. Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr wedi gweithio ar ffilmiau a gemau poblogaidd sydd wedi’u henwebu ar gyfer BAFTAS ac Oscars.
Ffasiwn
FFASIWN
YMHLITH Y DEG UCHAF YM MHRYDAIN AM ASESU MEWN FFASIWN A THECSTILAU
CANLLAW PRIFYSGOLION Y GUARDIAN 2024
OFFER BLAENGAR
Mae gan fyfyrwyr Ffasiwn PDC amgylchedd modern ac eang i weithio ynddo sydd wedi’i deilwra ar eu cyfer ac sy’n cefnogi eu dysgu a’u datblygiad drwy gydol y cwrs. Mae ein cyfleusterau arbenigol yn cynnwys: meddalwedd dylunio blaengar, peiriannau gwnïo diwydiannol, peiriannau arbenigol ac offer stemio, amrywiaeth o standiau gwisgoedd cynhwysol gan gynnwys dynion, merched a phlant, blaenau siopau manwerthu efelychiedig, cyfleusterau torri â laser ac argraffu 3D, yn ogystal â gweithdy llawn offer. Mae’r llawr ffasiwn hefyd yn cynnwys ardal greadigol lle gall myfyrwyr gwrdd i gydweithio, gweithio, cynnal cyfarfodydd, rhwydweithio ac ymlacio.
CYDWEITHIO
Mae PDC yn cydweithio ag enwau mawr yn y diwydiant ffasiwn; rydyn ni’n cydweithio â brandiau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Ellesse, Cotopaxi, Palladium, Size? a Givenchy. Mae’r prosiectau hyn yn canolbwyntio ar broblemau, heriau a chyfleoedd go iawn sy’n wynebu’r diwydiant, er enghraifft cynaliadwyedd, moeseg, y metafyd a dillad digidol.
CYSYLLTIADAU Â’R DIWYDIANT
Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant yn rhoi cyfleoedd gwirioneddol i fyfyrwyr ddatrys problemau a dysgu gan weithwyr proffesiynol. Mae pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn lleoliadau yn y diwydiant fel rhan o’u cwrs i gael profiad o’r busnes go iawn. Mae lleoliadau blaenorol yn cynnwys Givenchy a Vivienne Westwood, ac mae llawer o’n myfyrwyr yn dewis gwneud interniaethau dramor.
TEITHIAU STEIL A DIWYLLIANT
Mae teithiau steil a diwylliant yn opsiwn cyffrous i gyfoethogi eich astudiaethau, ac mae ymweliadau diweddar wedi mynd â’n myfyrwyr i Baris, Efrog Newydd, Japan, Llundain, Copenhagen a Berlin.
Rydym hefyd yn gysylltiedig â’r Cyngor Ffasiwn Prydeinig, sy’n golygu ein bod yn darparu cyfleoedd lle gall myfyrwyr ymweld ag India fel rhan o daith wedi’i hariannu’n llawn.