Fflim ac Effeithiau Gweledol
FFILM AC EFFEITHIAU GWELEDOL
PARTNERIAETHAU A DIWYDIANT
Mae gennym gysylltiadau cryf â chyflogwyr mawr yn y diwydiant ffilm a theledu, gan gynnwys Bad Wolf, y cwmni cynhyrchu sydd y tu ôl i’r dramâu clodwiw His Dark Materials, Industry, ac A Discovery of Witches.
Mae ein partneriaeth â Chynghrair Sgrin Cymru yn golygu y gall ein myfyrwyr barhau i gael mynediad i ymweliadau â setiau, lleoliadau gwaith yn y diwydiant, a chyflogaeth hyd yn oed. Mae gennym gysylltiadau cryf â stiwdios VFX byd-eang, gan gynnwys ILM, DNEG a Framestore, yn ogystal â stiwdios lleol fel Bait Studios, gan ddarparu cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiant.
CYFLEUSTERAU O SAFON Y DIWYDIANT
Mae ein campws creadigol yn cynnwys cyfleusterau ffilm o safon y diwydiant, gan gynnwys stiwdios ffilm HD pwrpasol, llawn offer ynghyd â rigiau goleuo, sgrin werdd a chyfleusterau cipio symudiadau, stiwdio blwch du, ystafelloedd golygu Avid HD ac Adobe, ystafelloedd golygu sain a throsleisio Pro Tools, a chyfleusterau sgrinio rhagorol.
Fel rhan o’ch cwrs, gallwch gael mynediad i’n siopau cyfryngau ar y campws – sy’n cynnwys citiau parod i’w defnyddio y gellir eu rhentu am ddim. Drwy ddarparu cyfleusterau ac offer o’r radd flaenaf i lefel y diwydiant, rydyn ni’n gallu cynnig hyfforddiant ac addysgu ymarferol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant i wneud yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer y stiwdio, ond hefyd i’ch galluogi i wireddu eich syniadau creadigol.
GRADDEDIGION SYDD WEDI ENNILL GWOBRAU
Mae ffilm wedi bod yn cael ei haddysgu yn y Brifysgol ers dros hanner can mlynedd, sy’n golygu ein bod yn un o’r ysgolion ffilm mwyaf sefydledig a llwyddiannus ym Mhrydain. Dros y cyfnod hwn, mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ar draws y diwydiannau ffilm, teledu a’r cyfryngau byd-eang o Hollywood i Bollywood.
Mae staff, myfyrwyr a graddedigion wedi ennill llawer o wobrau dros y blynyddoedd, ledled y byd. Mae ein graddedigion wedi creu gyrfaoedd rhyngwladol llwyddiannus, gan gynnwys y cyfarwyddwr arobryn, Asif Kapadia, a’r cyfarwyddwyr sydd wedi ennill BAFTA, Georgi Banks-Davies a Gareth Evans. Yn 2021, bu dros ugain o raddedigion Prifysgol De Cymru yn gweithio ar ffilmiau a enwebwyd ar gyfer Gwobrau’r Academi.
Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau
NEWYDDIADURAETH A’R CYFRYNGAU
ASTUDIAETHAU PROFFESIYNOL YNG NGHAERDYDD
Mae Caerdydd yn ganolbwynt i un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig Prydain, gyda gweithredwyr mawr o fewn tafliad carreg, gan gynnwys y BBC, ITV, Global a Wales Online. Gyda chymaint yn digwydd yma, dyma’r lle perffaith i gychwyn eich gyrfa.
Mae ein campws yn cynnwys cyfleusterau cyfryngau o safon y diwydiant, gan gynnwys stiwdio HDTV aml-gamera, stiwdio radio a chyfleusterau ar gyfer newyddiaduraeth darlledu, print ac aml-gyfrwng. Gallwch hyd yn oed logi offer o’n siopau cyfryngau a ffotograffiaeth am ddim os ydych wedi cofrestru ar gwrs newyddiaduraeth a’r cyfryngau.
CYRSIAU ACHREDEDIG
Mae llawer o’n cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol, sy’n eich rhoi chi cam ar y blaen wrth ymgeisio am swyddi yn eich diwydiant. Wrth i Gaerdydd ddod yn un o’r lleoliadau diwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig ym Mhrydain, dyma’r lle perffaith i lansio’ch gyrfa.
-
EIN CYRSIAU NEWYDDIADURAETH A’R CYFRYNGAU
Ar ein cwrs gradd Newyddiaduraeth sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, byddwn yn dysgu popeth sydd ei angen arnoch i weithio fel newyddiadurwr proffesiynol – ym meysydd darlledu, ar-lein, print, cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus.
Mae ein cwrs Cynhyrchu’r Cyfryngau yn canolbwyntio ar sgiliau cynhyrchu ac adrodd straeon ar gyfer y diwydiant cyfryngau traws-lwyfan. Yn y cyfamser, mae ein gradd Newyddiaduraeth Chwaraeon wedi’i datblygu gyda diwydiant a phrofiad ymarferol yn greiddiol iddi.
Mae ein cwrs Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth yn cymysgu theori gyda sgiliau ymarferol eang i roi cipolwg go iawn i chi ar sut mae tirwedd helaeth y cyfryngau yn gweithio.
Ffotograffiaeth
FFOTOGRAFFIAETH
AR Y BRIG YNG NGHYMRU AM ASESU YM MAES CYNHYRCHU FFILM A FFOTOGRAFFIAETH
CANLLAW PRIFYSGOLION Y GUARDIAN 2024
CYFLEUSTERAU PROFFESIYNOL
Mae cyfleusterau ar y campws yn ail-greu’r amgylchedd y byddech chi’n ei ddarganfod mewn stiwdios proffesiynol. Bydd popeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer sesiwn ffotograffiaeth broffesiynol ar gael i chi – mae gennym ni ddwy stiwdio ffotograffiaeth fawr, cilfwa anfeidrol a chymorth technegol arbenigol, gydag arbenigedd mewn goleuo a gosod. Gallwch hefyd logi offer o’n siopau cyfryngau a ffotograffiaeth am ddim os ydych wedi cofrestru ar gwrs ffotograffiaeth.
-
CYFLE I DDYSGU GAN ARBENIGWYR A’R DIWYDIANT
Rydym wedi bod yn addysgu ffotograffiaeth ers dros ganrif ac mae ein cyrsiau ymhlith y rhai mwyaf uchel eu parch a blaengar yn y DU.
Mae enw da, profiad a rhinweddau ein hacademyddion yn cael eu cydnabod yn eang yn y diwydiannau ffotograffiaeth, celf a ffilm. Mae ein holl staff yn weithwyr proffesiynol sy’n weithgar ym maes ffotograffiaeth, felly byddwch yn elwa o’r cynnwys bywyd go iawn maen nhw’n ei gyfrannu at eich dysgu.
Mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant drwy ein tîm addysgu a’n cyn-fyfyrwyr, sy’n mentora myfyrwyr drwy ddigwyddiadau, gweithdai a’n rhaglen darlithwyr gwadd. Mae ein graddedigion wedi creu gyrfaoedd llwyddiannus ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, gyda rhai yn gweithio i gylchgrawn National Geographic, New York Times, Getty Images, cylchgrawn EVO ac Adidas.
Ynghyd â llwybrau gyrfa traddodiadol mae graddedigion ein cyrsiau yn symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi cysylltiedig gan gynnwys celf, ffotonewyddiaduraeth, ac ymarfer masnachol ar y lefel uchaf, tra bod eraill yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd fel cyfarwyddwyr celf, steilyddion, rheolwyr ffotograffiaeth, cyhoeddwyr, ffotograffwyr meddygol a fforensig, crewyr cynnwys, addysgwyr, curaduron, ysgrifenwyr a marchnatwyr gweledol.
-
DISGWYLIADAU A PHROFIAD YN Y DIWYDIANT
Er mwyn profi gofynion a disgwyliadau’r diwydiant hwn, byddwch yn ymgysylltu â briffiau prosiect byw. Nid yn unig y bydd hyn yn cyfoethogi eich proffil graddedig a’ch portffolio, ond bydd yn ehangu eich persbectif ac yn adeiladu eich rhwydwaith o gysylltiadau. Mae myfyrwyr wedi gweithio gyda chwmnïau sy’n cynnwys Wyatt-Clarke+Jones, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Taylor Brothers, Samsung UK, Ally Capellino, ac Atticus Digital.
Mae ein myfyrwyr yn ehangu eu rhwydwaith gyda’r diwydiant yn barod ar gyfer bywyd ar ôl graddio drwy ymgysylltu â byd ffotograffiaeth broffesiynol drwy fynediad i stiwdios ffotograffwyr, gwyliau, digwyddiadau ac arddangosfeydd.