.
CAERDYDD CREADIGOL
Caerdydd yw canolbwynt cynhyrchiad Theatr, Teledu a Ffilm yng Nghymru, a’r clwstwr cyfryngol trydydd mwyaf y DU. Mae’r ddinas yn cynnig llawer o gyfleoedd i wylio, trafod a chyfrannu at waith sy’n cael ei wneud wrth i chi astudio. Mae myfyrwyr wedi gweithio ar sioeau arobryn fel ‘His Dark Materials’ (BBC), ‘Industry’ (HBO), a ‘Sex Education’ (Netflix) fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi llwybrau gyrfa clir a chynaliadwy. Mae partneriaethau gyda lleoliadau theatr, cynhyrchwyr a sefydliadau cymunedol yn cynnig cyfleoedd perfformio byw a chelfyddydau cymhwysol. Erbyn i chi raddio, bydd gennych y sgiliau ar gyfer ystod eang o lwybrau yn y sector creadigol.
Ymgysylltu â’r diwydiant
Mae partneriaid yn y diwydiant yn cyfrannu at ddatblygiad, a chyflwyniad ein cyrsiau. Maent yn cynnal lleoliadau gwaith, yn cyfarwyddo cynyrchiadau, yn rhoi dosbarthiadau meistr ac yn cyd-gyflwyno prosiectau cyhoeddus. Gan weithredu mewn amrywiaeth o amgylcheddau mae eu harbenigedd yn cynnwys: Theatr gynhwysol (Hijinx, Taking flight), theatr Gymraeg (Frân Wen), Cyfranogiad ac Ymgysylltu (yello brick), Datblygu Cymunedol (Valleys Kids), Cynhyrchu a rheoli’r celfyddydau (Theatr Sherman, Glan yr Afon Casnewydd), Sgiliau a datblygiad gyrfa (Screen Alliance Wales, Gŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris), Celfyddydau cymhwysol (Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru).
Perfformio ar waith
Mae ein cyrsiau Perfformio i gyd wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau, yr hyder a’r gefnogaeth i chi i greu a darparu perfformiadau gwych. Mae myfyrwyr Theatr a Drama yn dyfeisio ac yn cyflwyno gweithdai drama mewn partneriaeth â sefydliadau celfyddydau cymunedol, tra bod ein myfyrwyr Perfformio a’r Cyfryngau yn creu gwaith arloesol gan ddefnyddio fideo 360, Mapio Taflunio, Darlledu a thechnolegau Cynhyrchu Rhithwir.
Yn agosach at adref, gall myfyrwyr roi eu sgiliau chwarae rôl a byrfyfyr ar brawf trwy gefnogi nyrsys dan hyfforddiant, seicolegwyr a hyfforddeion yr heddlu PDC yn ystod ymarferion ‘golau glas’ sy’n efelychu digwyddiadau mawr.
Dysgu gan ein harbenigwyr
Mae ein hacademyddion yn wneuthurwyr ac ymchwilwyr a gydnabyddir gan ddiwydiant ac sy’n uchel eu parch yn rhyngwladol. Maent yn creu ymchwil sy’n arwain y byd, yn cyhoeddi llyfrau, yn ysgrifennu sgriptiau, yn cyfarwyddo, yn ffilmio, yn coreograffu, ac yn perfformio ar gyfer y llwyfan a’r sgrin. Mae’r mewnwelediadau, arbenigedd, rhwydweithiau o staff yn cael eu rhannu gyda chi drwy addysgu ymarferol a chymhwysol drwy gydol eich astudiaethau.
Ar y campws, bydd gennych fynediad i’n theatr hygyrch 150 sedd, theatrau stiwdio, ystafelloedd ymarfer, stiwdio deledu ac ystafell reoli, cyfleusterau podledu a labordai arloesi (cynhyrchu rhithwir a theatr trochi). Wrth i chi ddysgu sut i ddefnyddio offer o safon diwydiant, byddwch yn cydweithio ar gynyrchiadau cyhoeddus gan ennill sgiliau a phrofiadau i ddatblygu eich CV.