Gwasanaethau Cychoeddus
GWASANAETHAU CYHOEDDUS
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd mewn sawl ffordd, o gasglu sbwriel i adfywio cymunedol a’r amddiffyniad a ddarperir gan y gwasanaethau brys a’r gwasanaeth iechyd. Gan edrych ar faterion pŵer a gwneud penderfyniadau, byddwch yn ymchwilio i sut mae penderfyniadau’n digwydd, pwy sy’n eu gwneud a pha wahaniaeth maen nhw’n ei wneud yn y byd go iawn.
ADDYSG GAN ARBENIGWYR
Mae gan y tîm addysgu flynyddoedd lawer o brofiad yn cyflwyno cyrsiau ar gyfer y sector cyhoeddus ac mae ganddynt hefyd broffil ymchwil cryf yn y maes, felly mae cynnwys ein cyrsiau yn flaengar. Mae ein myfyrwyr yn elwa o amrywiaeth o ddigwyddiadau siaradwyr gwadd, gan gynnwys sgyrsiau gan heddlu, sefydliadau cydraddoldeb a llywodraeth leol.
-
DOD YN DDIFFODDWR TÂN WRTH GEFN YW'R PENDERFYNIAD GORAU Y GALLEN I FOD WEDI EI WNEUD. MAE FY NARLITHWYR WEDI BOD MOR GEFNOGOL O FY NGWAITH RHAN-AMSER, A DW I’N GALLU TREFNU FY SIFFTIAU I GYD-FYND Â FY ASTUDIAETHAU.
John Stowell
BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus
CYSYLLTU THEORI AG YMARFER
Nodwedd allweddol o’ch gradd gwasanaethau cyhoeddus yw’r cysylltiad rhwng theori ac ymarfer. Mae dysgu yn aml yn seiliedig ar ddata go iawn, yn ogystal ag enghreifftiau ac astudiaethau achos gan sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol. Mae hyn yn sicrhau bod yr hyn rydych chi’n ei ddysgu yn berthnasol i’r gweithle a sefyllfaoedd y gallech ddod ar eu traws pan fyddwch yn graddio.
Mae gweithgareddau a theithiau yn rhan o’r cwrs, sy’n cynnwys ymarferion meithrin tîm gyda sefydliadau fel y lluoedd arfog ac ymweliadau â Senedd Cymru a San Steffan.
CYFLEOEDD LLEOLIAD GWAITH
Byddwch yn cael eich annog i ymgymryd â lleoliad gwaith tymor byr yn ystod eich astudiaethau gyda chyfleoedd posib i weithio gyda sefydliadau sector cyhoeddus fel y GIG. Bydd y cyfle gwerthfawr hwn yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd ymhellach ac yn ychwanegu gwerth at eich CV, gan y gall fod yn dystiolaeth i gyflogwyr yn y dyfodol bod gennych y sgiliau a’r galluoedd maent yn chwilio amdanynt.
Cymdeithaseg
CYMDEITHASEG
Mae Cymdeithaseg yn archwilio sut mae ein hamgylchedd cymdeithasol yn siapio ein gweithredoedd. Mae’n archwilio’r gwerthoedd, y credoau a’r syniadau sydd gan bobl, y bywydau rydyn ni’n eu byw a’r dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud. Mae’n cefnogi’r gallu i gymhwyso gwybodaeth gymdeithasegol i faterion byd go iawn, gan gynnwys mewn polisi cymdeithasol.
ASTUDIAETHAU SY’N YSGOGI
Bydd ein gradd cymdeithaseg yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori yn y brifysgol, a byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o ddamcaniaethau cymdeithasegol, a sut y gellir cymhwyso’r rhain i broblemau’r byd go iawn.
Byddwch yn cael cyfle i fynychu teithiau maes, er enghraifft Gwrthryfel Casnewydd i ddilyn y ffagl yng ngorymdaith y Siartwyr; ymweld â hyb cymunedol Dusty Forge, a Senedd Cymru. Byddwch hefyd yn cael cymorth i gwblhau lleoliad gwaith 70 awr o’ch dewis.
Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth mewn meysydd fel datblygu cynaliadwy, addysg a chydlyniant cymunedol, gwrthdaro byd-eang, tegwch a chynhwysiant, a gwaith ieuenctid a chymunedol.
-
MAE DARLITHWYR AR Y CWRS WEDI BOD O’R RADD FLAENAF. MAEN NHW’N FRWDFRYDIG AM EU MEYSYDD ARBENIGAETH, AC MAE EU HARDDULLIAU ADDYSGU YN AMRYWIO – ROEDDEN NHW'N FY NGHADW I AR FLAENAU FY NHRAED.
Sara Daniels
BSc (Anrh) Cymdeithaseg
PYNCIAU ALLWEDDOL A SGILIAU TROSGLWYDDADWY
Mae’r pynciau allweddol ar draws y cwrs gradd cymdeithaseg yn cynnwys dosbarth cymdeithasol ac anghydraddoldebau, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, trais a gwrthdaro, y cyfryngau a throseddu, a theuluoedd a chymunedau.
Wrth i chi astudio cymdeithaseg, byddwch yn datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynnwys ymchwilio a rheoli prosiectau, sgiliau datrys problemau, meddwl dylunio, deall eraill, ac ystod o sgiliau cyfathrebu.
ASTUDIO ODDI CARTREF
Mae cyfleoedd hefyd i astudio am hyd at flwyddyn yn Ewrop, UDA, neu ymhellach i ffwrdd. Mae astudio dramor yn hwb mawr i’ch addysg a’ch CV. Byddech yn cael persbectif rhyngwladol ar eich astudiaethau, a gall yr amser rydych yn ei dreulio dramor gyfrif tuag at eich gradd cymdeithaseg.