Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Pa bwnc sydd o ddiddordeb i chi?

Meysydd pynciau

Addysg ac Addysgu

Addysg ac Addysgu

Mae addysg ac addysgu yn cynnig proffesiynau cyffrous a gwerth chweil. Mae gennym hanes o ddarparu cyrsiau o safon, a hyfforddi darpar athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol. Os ydych chi’n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, mae ein hymagwedd yn iawn i chi. Bydd gennych fynediad rheolaidd i ystafelloedd dosbarth arbenigol, astudiaeth ymarferol a phrofiadau gwarantedig yn y byd go iawn – pob un wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar gyfer y gweithle a’ch helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Cyrsiau

Addysg

Hyfforddiant Athrawon

PCET

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Animeiddio a Gemau

Animeiddio a Gemau

Mae animeiddwyr a dylunwyr gemau yn rym mawr ym myd adloniant yr 21ain ganrif. Gan astudio yng nghanol Caerdydd, gallwch ddewis o animeiddiad 2D a stop-symud traddodiadol, animeiddio 3D, dylunio gemau a chelf gemau. Mae ein holl gyrsiau wedi’u hanelu at adeiladu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant. Mae ein graddedigion yn cael eu cyflogi ledled y byd, gyda chredydau ar y ffilmiau a’r gemau cyfrifiadurol diweddaraf, neu wedi sefydlu eu cwmnïau gemau annibynnol eu hunain.

Busnes a Chyfrifeg

Busnes a Chyfrifeg

Rydym yn ymfalchïo mewn boddhad a chyflogadwyedd rhagorol myfyrwyr. Mae gan bob cwrs yn Ysgol Fusnes De Cymru rywbeth ychwanegol i’w gynnig, o leoliadau yn gynwysedig yn y cwrs i ardystiadau ychwanegol. Gyda ffocws ar brofiad gwaith ymarferol, ymgysylltu â diwydiant a datrys problemau, byddwch chi’n ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi yfory.

Cyrsiau

Cyfrifeg a Chyllid

Busnes a Rheolaeth

Cerddoriaeth, Theatr a Drama

Cerddoriaeth, Theatr a Drama

Mae Caerdydd yn adnabyddus fel dinas cerddoriaeth, perfformio a diwylliant. Mae PDC yn eich rhoi wrth wraidd y cyfleoedd hyn, gyda lleoliadau, gwyliau, theatrau a stiwdios teledu i gyd yn gweithredu fel estyniad byd go iawn i’r campws. Gyda chyfleusterau proffesiynol ar y campws hefyd, gallwch ddatblygu’ch doniau mewn amgylchedd creadigol a graddio gyda’r sgiliau a’r cysylltiadau ar gyfer gyrfa yn y maes creadigol yng Nghaerdydd, y DU a thu hwnt.

Cyrsiau

Cerddoriaeth a Sain

Perfformio

Cyfrifiadura a Mathemateg

Cyfrifiadura a Mathemateg

Mae cyfrifiadura a mathemateg yn sail i fywyd modern – rydym yn dibynnu arnynt er mwyn i’n bywydau weithredu’n esmwyth ac ar gyfer y datblygiadau a all wella ein bywydau. O apiau i ddiogelwch data i fapio lledaeniad afiechydon heintus, mae gweithwyr proffesiynol yn y meysydd hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol wrth lunio’r byd o’n cwmpas. Gyda chymwysiadau ymarferol ac ardystiad proffesiynol, gall ein graddau roi’r cychwyn cywir i’ch gyrfa.

Cyrsiau

Cyfrifiadura

Seiber

Mathemateg

Cymdeithaseg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cymdeithaseg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae ein graddau wedi’u cynllunio i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau ledled y byd. Bydd eich astudiaethau yn PDC yn rhoi’r sgiliau a’r mewnwelediad i chi helpu eraill ac arwain newid cymdeithasol yn lleol ac yn fyd-eang. Mae gennym bartneriaethau cryf gyda chyflogwyr a sefydliadau allanol i ddarparu profiad gwaith, lleoliadau a chyfleoedd rhwydweithio i fyfyrwyr. Hefyd, gallwch glywed yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau mawr y byd trwy ein cyfres o ddarlithoedd Materion Yfory.

Cyrsiau

Gwasanaethau Cyhoeddus

Cymdeithaseg

Chwaraeon

Chwaraeon

Mae chwaraeon yn PDC yn fwy na chwrs yn unig. Byddwch chi’n rhan o’r tîm. Rydym yn cynnig cyrsiau sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau ar y diwydiant chwaraeon, ar lawer o wahanol lefelau astudio. O hyfforddi a pherfformio i wyddoniaeth a therapi, byddwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer yr yrfa chwaraeon rydych chi ei eisiau yn un o’r amgylcheddau addysgu a dysgu gorau ar gyfer chwaraeon yn y DU.

Dylunio a Ffasiwn

Dylunio a Ffasiwn

Mae dylunio ym mhobman, o apiau symudol i nwyddau wedi’u pecynnu, y dillad rydyn ni’n eu gwisgo, a’r lleoedd rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddynt – ar-lein neu fel arall. Wrth astudio yng nghanol dinas greadigol, byddwn yn eich helpu i ddeall pŵer dylunio a sut y gall newid bywydau. Mae ein cyrsiau’n rhannu ymagwedd gyffredin o greadigrwydd, sgiliau a phroffesiynoldeb. Er mwyn eich paratoi’n llawn ar gyfer yfory, mae ein haddysgu’n ymgorffori’r dechnoleg ddiweddaraf, a chyfrifoldeb moesegol a chymdeithasol.

Cyrsiau

Dylunio a Chyfathrebu

Ffasiwn

Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth

Mae gradd wyddoniaeth yn darparu gyrfa am oes. Mae cyfleoedd diri mewn sawl maes, ac mae pob un ohonynt yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Yn PDC, byddwch chi’n ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol cywir i fod yn ymgeisydd deniadol i gyflogwyr. Ar ben hyn, mae maint bach ein dosbarthiadau yn sicrhau y cewch yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch trwy gydol eich astudiaethau.

Cyrsiau

Gwyddorau Biolegol

Gwyddoniaeth Cemegol a Fferyllol

Gwyddorau Fforensig

Gwyddorau Meddygol

Gwyddorau Amgylcheddol

Y Gyfraith

Y Gyfraith

Mae ein graddau cymhwysol yn y gyfraith yn seiliedig ar arfer go iawn. Mae PDC yn cael ei raddio orau yng Nghymru am ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr yn The Times Good University Guide 2021. Bydd eich astudiaethau yma yn eich paratoi ar gyfer y gweithle. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, o ddarlithoedd traddodiadol i efelychiadau ar-lein, felly byddwch chi’n ennill gwybodaeth benodol am y gyfraith ac yn gwybod sut i’w roi ar waith yn y byd go iawn.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae PDC yn cynnig hyfforddiant, cyfleusterau a chefnogaeth eithriadol i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yfory. Ar ein graddau achrededig gallwch roi theori ar waith mewn cyfleusterau sy’n ail-greu’r gweithle ac yn ennill profiad clinigol helaeth yn y byd go iawn. Felly os ydych chi eisiau gyrfa yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, gallwn eich helpu chi i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch chi.

Cyrsiau

Proffesiynau perthynol i iechyd

Ceiropracteg

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Gwaith Cymdeithasol

Newyddiaduraeth, Ffilm a Ffotograffiaeth

Newyddiaduraeth, Ffilm a Ffotograffiaeth

Mae ein graddau wedi’u datblygu gyda diwydiant ac wedi’u hadeiladu o amgylch profiad ymarferol. Byddwch chi’n dechrau paratoi ar gyfer eich gyrfa o’r diwrnod cyntaf, felly erbyn i chi raddio byddwch chi wedi datblygu sgiliau arbenigol a phortffolio cadarn o waith. Mae Caerdydd yng nghanol un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig y DU – gyda chymaint yn digwydd, dyma’r lle perffaith i ddechrau eich gyrfa. Mae gennym gysylltiadau proffesiynol heb eu hail ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer rhwydweithio a phrofiad gwaith.

Cyrsiau

Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau

Ffilm ac Effeithiau Gweledol

Ffotograffiaeth

Peirianneg

Peirianneg

Mae peirianwyr yn defnyddio eu sgiliau i wneud y byd yn lle gwell. Rydym yn cynnig graddau achrededig yn yr ystod lawn o ddisgyblaethau peirianneg, pob un wedi’i gynllunio i fodloni gofynion proffesiynol. Bydd ein cysylltiadau â diwydiant yn rhoi profiad gwerthfawr i chi a chychwyn da o ran cyfleoedd graddedig rhagorol unrhyw le yn y byd.

Cyrsiau

Peirianneg Awyrofod

Peirianneg Gymhwysol

Peirianneg Fodurol

Amgylchedd Adeiledig

Peirianneg Sifil

Peirianneg Fecanyddol

Peirianneg Drydanol ac Electronig

Saesneg a Hanes

Saesneg a Hanes

Mae graddau Saesneg a Hanes PDC yn mynd y tu hwnt i’r ymagwedd academaidd draddodiadol. Rydyn ni’n rhoi pwyslais ar ddysgu trwy brofiad a datblygu sgiliau proffesiynol ar gyfer cyflogaeth. O sgiliau digidol a thechnegau cyfweld i gyflwyno’ch gwaith i gyhoeddwyr neu ddysgu Saesneg unrhyw le yn y byd, rydyn ni am i chi fod yn barod ar gyfer yfory.

Cyrsiau

Saesneg

Ysgrifennu Creadigol

Hanes

Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig

Seicoleg ac Astudiaethau Therapiwtig

Mae seicolegwyr, cwnselwyr a therapyddion yn ymarferwyr cymwys sy’n cymhwyso eu harbenigedd i broblemau a sefyllfaoedd ym mywyd beunyddiol, o reoli straen, iechyd a salwch meddwl, i ddatblygiad personol a rhyngweithio cymdeithasol. Maent yn gweithio gydag unigolion i’w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol a gwella eu lles. Mae gan raddau PDC ffocws proffesiynol gyda phrofiad ymarferol a sgiliau perthnasol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil.

Cyrsiau

Seicoleg

Cwnsela ac Astudiaethau Therapiwtig

Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder

Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder

Mae gan PDC enw rhagorol am raddau yn y maes hwn, gan gynhyrchu graddedigion sy’n helpu i greu a chynnal cymdeithas gyfiawn sy’n ddiogel i bawb. Gall ein myfyrwyr hyd yn oed ddechrau gwneud gwahaniaeth cyn iddynt raddio, gan weithio fel swyddogion heddlu arbennig, ar leoliadau gwaith ieuenctid, neu ar brosiectau sy’n ymchwilio i hen achosion ac yn mynd i’r afael â chamweinyddu cyfiawnder. Hefyd yn PDC, byddwch chi’n dysgu gan academyddion blaenllaw ac ymarferwyr profiadol.

Cyrsiau

Plismona

Troseddeg

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

27.04.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

15.06.24

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?