Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Ein Heffaith

Mae PDC wedi ymrwymo i ddefnyddio gwybodaeth i newid ein byd a’n bywydau er gwell. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar heriau byd-eang sy’n effeithio ar bob cymdeithas. Rydym wedi ymrwymo i wella bywydau yn y fan a’r lle, gan ysbrydoli a grymuso ein myfyrwyr i fod y genhedlaeth nesaf a all lunio gwell yfory.

Ein Heffaith

Ymchwil sy’n bwysig

Ymchwil sy’n bwysig

Mae ymchwil PDC wedi’i anelu at wneud gwahaniaeth, newid bywydau a’r byd er gwell. Mae ein pwyslais wedi bod erioed ar fynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, nid trwy ehangu mynediad i addysg uwch yn unig, ond trwy ddefnyddio ymchwil ar gyfer atebion real.

Rydym yn sicrhau bod ein dysgu a’n haddysgu wedi’i seilio ar ymchwil, ac mewn rhai achosion, wedi’i arwain gan ymchwil, gan sicrhau bod ein graddedigion yn derbyn gwybodaeth a sgiliau cyfoes, yn barod i’w cyfrannu at ein cymdeithas a’n heconomi.

Yng nghanlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 – mesur swyddogol y llywodraeth o allu i ymchwilio – ystyriwyd bod 81% o effaith ymchwil PDC o’r radd flaenaf neu o safon rhagoriaeth ryngwladol (4* / 3*) ac roedd gan bron i ddau draean o’n hymchwilwyr ymchwil o’r radd flaenaf neu o ragoriaeth ryngwladol (4* neu *).

Yn wahanol i brifysgolion eraill cewch eich addysgu gan yr ymchwilwyr hyn sydd yn flaenllaw yn eu maes, gan roi ffenestr i yfory a gweledigaeth o’r hyn sy’n bosibl.

Sut byddwch chi’n elwa ar eich ymchwil

Mae bod yn rhan o ymchwil yn ystod fy astudiae.thau wedi datblygu fy hyder a hyfedredd. O ganlyniad, rwy’n teimlo fel y gallwn i gynnal fy ymchwil fy hun i gasglu tystiolaeth a gwella fy arfer wrth i mi drawsnewid i fod yn nyrs gofrestredig

Megan Ware
BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu)

Ym mlwyddyn olaf fy ngradd, cefais y cyfle unigryw i ddysgu am ymchwil yr Athro Damian Bailey i ffisioleg uchder uchel. Roedd dysgu’n uniongyrchol o’r union academyddion a oedd yn cynnal yr ymchwil yn hynod fuddiol. Cefais fynediad uniongyrchol i’w canfyddiadau diweddaraf a mynychais diwtorialau ar yr offer arbenigol a ddefnyddiwyd, a gyfoethogodd fy mhrofiad dysgu.

Benjamin Stacey
BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a myfyriwr PhD

Sut byddwch chi’n elwa ar ein hymchwil

Wrth chwilio am brifysgolion, efallai byddwch chi wedi sylwi bod rhai sefydliadau’n dweud eu bod yn ‘ymchwil weithredol’ ond beth mae hyn yn ei olygu i chi fel myfyriwr israddedig?

Dyma wyth ffordd y byddwch chi’n elwa.

Ein hymchwil ar: yr amgylchedd cynaliadwy

Rydym yn helpu i greu byd mwy diogel a mwy cynaliadwy gyda’n hymchwil amlddisgyblaethol arloesol i hydrogen, ecoleg, treulio anaerobig, a phŵer uwch.

 

Ailgylchu nwyon gwastraff

Mae Canolan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy PDC yn datblygu biotechnoleg arloesol i gipio buddion economaidd ynni glân. Mae ei hymchwil yn helpu diwydiant i leihau defnydd ynni a bod yn gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Defnyddio data i leihau defnydd ynni

Mae datblygu deunyddiau adeiladu a seilwaith cynaliadwy yn her fyd-eang fawr. Mae ymchwil peirianneg sifil yn PDC wedi datblygu concrit ‘gwyrdd’ newydd gyda gwneuthurwr allanol, gan ddefnyddio deunyddiau ag ôl troed carbon is.

Defnydd arloesol o Hydrogen

Mae Canolfan Hydrogen PDC yn canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso technolegau hydrogen ar gyfer trafnidiaeth, diwydiant a’r sector ynni. Mae ymchwilwyr wedi datblygu dulliau arloesol a masnachol hyfyw o gynhyrchu hydrogen, gan effeithio’n sylweddol ar ddiwydiannau a’r economi.

Amddiffyn Bioamrywiaeth Drofannol

Mae pwysau anthropogenig fel newid hinsawdd, datgoedwigo a mynediad uwch gan bobl yn bygwth miloedd o rywogaethau’n fyd-eang. Mae ymchwil PDC ar gydfodolaeth pobl a bywyd gwyllt wedi gweddnewid polisi amgylcheddol yn Indonesia a Costa Rica, a fydd yn fuddiol i fioamrywiaeth, pobl ac ecosystemau.

Ein hymchwil ar: drosedd, diogelwch a chyfiawnder

Rydym yn cynnal ystod gynhwysfawr o ymchwil ym maes trosedd, diogelwch a chyfiawnder, gan weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, llywio polisi ac arfer. Mae ein hacademyddion a’n hymchwil yn arweinwyr yn eu meysydd.

 

Gwella canlyniadau mewn ymchwiliadau lladdiadau

Mae ymchwil gan y Rhwydwaith Ymchwil Ymchwiliadau Troseddol (CIRN) yn darparu tystiolaeth hollbwysig i heddluoedd, gwyddonwyr fforensig a gwneuthurwyr polisi yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i wella ymchwiliadau i laddiadau a rheoli risgiau i gyfiawnder.

Arbenigedd mewn Diogelwch Ewropeaidd

Mae’r UE yn cael ei fygwth fwyfwy gan grwpiau terfysgol newydd. Mae Christian Kaunert, Athro Plismona a Diogelwch yn PDC ac arbenigwr byd-enwog ar derfysgaeth a diogelwch, yn cynghori Swyddfa Gartref y DU, Senedd Ewrop a NATO ar eu hymdrechion gwrthderfysgaeth. Daeth ei ymchwil ar gyfer Senedd Ewrop, Europol a NATO â thystiolaeth hanfodol i’r amlwg ar rôl gynyddol yr UE mewn gwrthderfysgaeth ar lefel fyd-eang.

Cadw Systemau’n Ddiogel rhag Toriadau i Ddiogelwch

Mae systemau cerbydau trydan yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i ymdrechion i reoli allyriadau nwyon tŷ gwydr ddod yn fwy hanfodol. Fodd bynnag, mae gwneud y systemau’n ddiogel rhag ymosodiadau seiber yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n mynd rhagddo’n rhwydd. Gweithiodd ymchwilwyr PDC gyda phartneriaid byd-eang i sicrhau bod y systemau’n ddiogel rhag toriadau diogelwch, a all gynnwys tarfu ar fewngofnodi a data.

Ein hymchwil ar: iechyd a lles

Mae ymchwil amlddisgyblaeth PDC ym maes iechyd a lles yn cynhyrchu ymchwil effeithiol a gymhwysir sydd o fudd uniongyrchol i unigolion, grwpiau a sefydliadau ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Mae ein harbenigedd mewn anhwylderau datblygiadol, anableddau deallusol, seicoleg wybyddol, a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn helpu i fynd i’r afael ag ystod eang o faterion yn ymwneud â heneiddio’n iach, hybu iechyd y boblogaeth, a chau bylchau yn ansawdd y gofal y mae pobl agored i niwed yn ei brofi.

 

Lleihau rhwystrau i ofal iechyd

Gall pobl ag anableddau dysgu brofi rhwystrau sylweddol rhag cael gofal iechyd. Bu PDC yn cydweithio â Gwelliant Cymru (rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru) i gynhyrchu proffil Iechyd Unwaith i Gymru, dogfen bersonol y gall pobl ag anableddau dysgu ei chymryd i apwyntiadau meddygol a derbyniadau brys. Mae’r wybodaeth hanfodol hon yn cael ei defnyddio gan ddarparwyr gofal iechyd i ddarparu gofal iechyd diogel, amserol a sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Gwella bywydau unigolion sydd mewn perygl o niwed i’r ymennydd o ganlyniad i alcohol

Gall defnydd cronig neu ormodol o alcohol niweidio swyddogaeth a strwythur yr ymennydd gan arwain at Niwed i’r Ymennydd sy’n Gysylltiedig ag Alcohol (ARBD) sy’n aml yn cael camddiagnosis neu ddiffyg diagnosis. Yn bwysig, mae ARBD yn wrthdroadol os caiff ei adnabod a’i drin. Mae gwaith gan Grŵp Ymchwil i Ddibyniaeth PDC wedi cynyddu ymwybyddiaeth o ARBD yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac wedi llywio arferion proffesiynol a pholisi llywodraeth ranbarthol a chenedlaethol.

 

Cyfergyd cysylltiedig â chwaraeon: arwain at argyfwng?

Mae niwrowyddonydd sy’n flaengar yn fyd-eang, yr Athro Damian Bailey o Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd PDC, wedi cynnal ymchwil helaeth i’r niwed difrifol i ymennydd o ganlyniad i gyfergyd mewn chwaraeon, gan weithio’n agos gyda phêl-droedwyr, chwaraewyr rygbi, paffwyr ac athletwyr Jiu Jitsu Brasil i ddadansoddi effeithiau chwaraeon cyswllt ar lif gwaed i’r ymennydd.

Helpu ffoaduriaid yng Nghymru

Mae siarad Saesneg yn allweddol i gael mynediad at gyfleoedd gwaith ac addysgol yn ogystal â helpu gydag integreiddio cymdeithasol a diwylliannol. Ac eto mae ymfudwyr dan orfod yn aml yn wynebu oedi hir cyn y gallent gael mynediad at ddosbarthiadau Saesneg. Mae ymchwil gan Dr Mike Chick wedi helpu i wella mynediad at addysg Saesneg i ymfudwyr dan orfod yn Ne Cymru a llywio polisi’r llywodraeth ar Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).

Ein hymchwil ar: greadigrwydd

Rydym yn arwain yr agenda ar gyfer y diwydiannau creadigol a’r economi ddigidol yng Nghymru, gan ddylanwadu ar bolisi trwy nodi’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu meysydd creadigol.

Mae’r Athro Florence Ayisi yn wneuthurwr ffilm sydd wedi’i enwebu am Oscar ac sy’n addysgu ffilm ddogfen yn PDC. Mae ei ffilmiau wedi ennill gwobrau rhyngwladol nodedig niferus, gan herio ystrydebau a chwalu syniadau am Affrica trwy ganolbwyntio ar yr agweddau cadarnhaol i ddod â phersbectif newydd a newidiadau i agweddau cymdeithasol.

Mewn cyfnod o raniad cymdeithasol a diwylliannol byd-eang, mae ymwybyddiaeth o sut mae hunaniaethau diwylliannol wedi’u ffurfio drwy gysylltiadau trawsddiwylliannol yn hollbwysig. Archwiliodd ymchwil gan Ganolfan Astudio Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach PDC hanes prin hysbys y Cymry a phobl Khasi gogledd-ddwyrain India i ddeall sut mae ein hanesion cyfunol wedi’u diffinio.

Mae ymchwil gan hanesydd PDC, yr Athro Chris wedi datgelu am y tro cyntaf arwyddocâd gwlân Cymru i gaethweision yr Iwerydd rhwng y 1680au a’r 1840au. Wedi’i farchnata fel “Brethyn Negro”, cafodd ffabrig o Gymru ei fasnachu’n gyfnewid am gaethweision ar arfordir Guinea ac fe’i defnyddiwyd fel dillad i gaethweision.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

11.01.25

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

22.03.25

14.06.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?