Dilynwch gyfleoedd diddiwedd gyda Seicoleg
GYRFAOEDD MOR AMRYWIOL Â’CH SGILIAU
Rydym yn gwybod bod graddedigion amryddawn yn mynd ymhellach, felly mae ein cyrsiau’n eich paratoi chi am unrhyw beth, gydag addysgu arloesol sy’n eich galluogi i astudio’r meddwl wrth agor eich un chi i ystod eang o ragolygon gyrfa.
Mae ein cynllun Seicoleg a Mwy yn cynnig profiad clinigol yn ein clinig ar y campws, cyrsiau byr arbenigol, tystysgrifau proffesiynol a lleoliadau gwaith i wella’ch sgiliau a’ch rhagolygon gyrfa. Mae’r holl gyfleoedd hyn ar gael heb unrhyw gost ychwanegol – ein nod yw ychwanegu gwerth i’ch addysg yn PDC. Gallwch wella eich sgiliau a’ch sylfaen gwybodaeth er mwyn cael mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi i raddedigion neu wrth wneud cais am astudiaeth bellach.
GRADDEDIGION SY’N CAEL SYLW
Gan fod cyrff diwydiant fel Cymdeithas Seicolegol Prydain yn cefnogi llawer o’n cyrsiau, mae eich gradd yn dod â chydnabyddiaeth barod, gan fynd ag enwau ein myfyrwyr i frig rhestrau cyflogwyr.
Mae’r holl graddau Seicoleg israddedig, heblaw am y cwrs Datblygiad Plentyndod (a Datblygiad Plentyndod gyda Blwyddyn Sylfaen), wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Golyga hyn fod graddedigion sydd â 2:2 neu uwch yn gymwys ar gyfer Sail Graddedigion ar gyfer Aelodaeth – sef y cam cyntaf at ddod yn seicolegydd proffesiynol sydd wedi cymhwyso’n llawn.
Mae ein staff academaidd yn ymwneud ag ymchwil, felly byddwch yn cael eich addysgu gan staff sydd ar flaen y gad yn eu meysydd arbenigol hefyd. Mae’r tiwtoriaid yn arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys anhwylderau datblygiadol ar draws y cyfnod bywyd, ymddygiad iechyd a seicoleg chwaraeon.
Cyfleusterau arbenigol i bweru eich rhagolygon
Mae PDC yn gartref i ystod o gyfleusterau seicoleg rhagorol sy’n amhrisiadwy o ran ein helpu i ddeall ymddygiad dynol.
Mae gennym labordai seicoleg pwrpasol lle gallwch ddatblygu eich sgiliau seicoleg ymarferol, offer olrhain llygaid, peiriannau electro-enseffalograffeg (EEG) a systemau BIOPAC. Mae yna hefyd ystafelloedd cyfweld ac arsylwi y gallwch eu defnyddio i gynnal arbrofion a phrofion.
Rhestr cyrsiau