Proffesiynau Perthynol i Iechyd
Ymarfer sy’n gwneud ymarferwyr
Rydym yn cynnig cyfleusterau efelychu clinigol anhygoel a chlinigau cleifion allanol sy’n efelychu amrywiaeth eang o sefyllfaoedd ysbyty, cymunedol a chlinigol gan ddarparu’r cyfle i chi gael ymarfer ymarferol mewn amgylchedd diogel cyn mynd i’r gweithle.
Gwneud gwahaniaeth
Mae un peth yn gyffredin i holl rolau proffesiynol perthynol i iechyd: maen nhw’n chwarae rhan hanfodol mewn trin, adfer a gwella bywydau cleifion. Yn ogystal â bod yn werth chweil yn emosiynol, gyda hyfforddiant parhaus, byddwch yn gallu gwneud cynnydd cyflym, gan symud i swyddi uwch gyda gradd gyflog uwch.
Galw am weithwyr proffesiynol
Mae’r angen am weithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus yn fwy nag erioed. Dyna pam mae lleoedd ar lawer o’n cyrsiau perthynol i iechyd (ac eithrio Ceiropractig) wedi’u hariannu ar hyn o bryd gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Gallwch gael gwybod mwy ar y tudalennau cyllid myfyrwyr ar ein gwefan neu ar wefan GIG Cymru.
.
Addysg drochi ymarferol
Ein dull ni o addysgu yw trochi myfyrwyr yn llawn ym myd gofal iechyd, gyda dysgu ac addysgu sy’n cwmpasu theori ac arfer, ac yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu paratoi gymaint â phosibl ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol.
Mae ein hystod nodedig o gyfleusterau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol gan gofio hyn. Mae myfyrwyr yn dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth mewn amgylcheddau efelychol cyn mynd ar brofiad gwaith dan oruchwyliaeth.