Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Busnes a Rheoli

Mae pob busnes yn cael ei redeg gan rywun, a gallai’r person hwnnw fod yn chi. Bydd ein graddau busnes yn eich dysgu am bob agwedd ar sut mae busnes llwyddiannus yn cael ei redeg a byddwch yn datblygu sgiliau mewn meysydd fel rheoli pobl, gwneud penderfyniadau a thrafod.

Busnes a Rheoli

-

Mae astudiaethau Rheoli yn PDC ar y brig yng Nghymru o ran addysgu, cyfleoedd dysgu a chymorth academaidd.

YR AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2023 

 

CYRSIAU Â CHYDNABYDDIAETH BROFFESIYNOL  

Drwy gael blas ar y diwydiant a lleoliad gwaith 10 wythnos gwarantedig ac addysgu arbenigol, byddwch yn graddio o Ysgol Busnes y Dyfodol fel arweinydd hyderus a medrus. Mae ein graddau busnes yn cael eu cydnabod neu eu hachredu gan gyrff proffesiynol annibynnol y diwydiant, sy’n rhoi sêl bendith i ansawdd a chynnwys ein cyrsiau. O’r achrediad deuol yn ein gradd Busnes a Rheolaeth, i’n cwrs Rheoli Adnoddau Dynol a gymeradwyir gan CIPD a chwrs Logisteg a Chaffael a achredwyd gan CIPS, byddwch yn datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn gofyn amdanynt. 

CYSYLLTIADAU DIWYDIANT AC YMGYNGHORI  

Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid diwydiant ar draws ein holl gyrsiau. Mae gennym fwy na 100 o bartneriaethau gyda chwmnïau amrywiol i ddarparu’r cysylltiadau gorau i’n myfyrwyr.  

Mae ein darlithwyr a’n staff wedi gweithio ac yn parhau i weithio yn eu diwydiannau. Mae gennym hefyd glinigau ar y campws i ddarparu cyfleoedd ymgynghori rhagorol i fyfyrwyr.  

INTERNIAETHAU A LLEOLIADAU GWAITH  

Mae lleoliadau gwaith ac interniaethau yn y diwydiant yn rhan annatod o’r cyrsiau yn Ysgol Busnes De Cymru wrth i ni ymdrechu i greu graddedigion sy’n barod ar gyfer y dyfodol.  

Mae’r cyfleoedd hyn yn darparu porth i’ch cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn helpu i feithrin eich hyder a’ch paratoi ar gyfer y dyfodol drwy brofiadau byd go iawn. Dyna pam rydym yn argymell yn fawr bod ein myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad gwaith drwy interniaeth neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd. 

Roedd 100% o fyfyrwyr BSc (Anrh) Busnes a Rheoli Ryngwladol PDC yn fodlon gyda’u cwrs.

YR AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2024

 

CLINIG BUSNES  

Ymunwch â’n tîm ymgynghori gwirfoddol yn Nhrefforest i helpu cleientiaid go iawn gydag ymholiadau busnes wrth i chi ddatblygu sgiliau ac ymddygiad hanfodol yn y gweithle. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig i bob math o gwmnïau o fusnesau bach a chanolig i sefydliadau rhyngwladol a nid-er-elw ac mae’n rhoi cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr gael profiad busnes go iawn wrth astudio gyda ni yn yr Ysgol Busnes. 

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

30.11.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

11.01.25

22.03.25

14.06.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?