-
MAE GRADDEDIGION BA (ANRH.) CYFRIFEG A CHYLLID YN DERBYN YR EITHRIADAU UCHAF SYDD AR GAEL TUAG AT GYMWYSTERAU ACCA (9) A NIFER O EITHRIADAU O GYMWYSTERAU PROFFESIYNOL ICAEW, CIMA A CIPFA.
CYDNABYDDIAETH BROFFESIYNOL
Enillwch gydnabyddiaeth broffesiynol gan rai o brif gyrff cyfrifeg y byd. Byddwch yn ennill sylfaen gadarn yn elfennau craidd cyfrifeg a chyllid, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd cyfrifeg. Mae’r modiwlau a addysgir yn cynnwys adrodd ariannol, rheoli cyfrifeg, rheolaeth ariannol, trethiant, archwilio, systemau cyfrifeg cyfrifiadurol a strategaeth fusnes.
Mae Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) wedi achredu’r radd Cyfrifeg a Chyllid hon yn llawn, felly byddwch yn cael yr eithriadau mwyaf o’u cymhwyster proffesiynol pan fyddwch yn graddio.
-
MAE’R YSTAFELL FASNACH YN HANFODOL, YN ENWEDIG AR GYFER UNIGOLION SY’N BWRIADU MYND I FYD MASNACHU ARIANNOL A BUDDSODDIADAU GAN EI FOD YN RHOI DARLUN CLIR O SUT MAE’R LLWYFAN MASNACHU YN GWEITHIO.
NICOLAS LAURIAN
BA (ANRH.) CYFRIFEG A CHYLLID
TYSTYSGRIF SAGE WEDI’I HACHREDU GAN CIMA
Gall myfyrwyr ennill tystysgrif Sage wedi’i hachredu gan CIMA fel rhan o’u gradd – heb gost ychwanegol. Sage yw arweinydd y farchnad ar gyfer systemau cyfrifo, cyflogres a thalu integredig, sy’n cefnogi miliynau o fusnesau ledled y byd.
Astudir Tystysgrif Sage CIMA ym mlwyddyn gyntaf y radd fel rhan o’r modiwl Dadansoddi Data a Chyfrifeg Gyfrifiadurol. Mae’r modiwl yn cyflwyno themâu sy’n cael eu datblygu ar y modiwl Trethiant Ddigidol ym Mlwyddyn 2.
-
CANOLBWYNTIO AR GYFLOGADWYEDD
Mae ein gradd yn cynnwys modiwlau Datblygiad Proffesiynol sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, gan gynnig cymysgedd cyffrous o siaradwyr gwadd arbenigol, prosiectau byw, datblygu sgiliau trosglwyddadwy, cynllunio gyrfa a datblygu proffil. Mae ein prosiectau byw yn cynnwys myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach gyda Phartneriaid Busnes (sydd wedi cynnwys yn ddiweddar Banc Datblygu Cymru, Cartrefi Dinas Casnewydd, GE Aviation a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf). Mae’r prosiectau hyn yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau fel craffter busnes, cydweithio, arweinyddiaeth ac adrodd busnes.
Gall myfyrwyr hefyd ddewis o amrywiaeth o fodiwlau arbenigol, gan gynnwys Masnachu a Buddsoddi Ariannol, Achosion Archwilio a Chyfrifyddu Fforensig.