Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Cymdeithaseg

Mae Cymdeithaseg yn archwilio sut mae ein hamgylchedd cymdeithasol yn siapio ein gweithredoedd. Mae’n archwilio’r gwerthoedd, y credoau a’r syniadau sydd gan bobl, y bywydau rydyn ni’n eu byw a’r dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud. Mae'n cefnogi'r gallu i gymhwyso gwybodaeth gymdeithasegol i faterion byd go iawn, gan gynnwys mewn polisi cymdeithasol.

Cymdeithaseg

-

ASTUDIAETHAU SY’N YSGOGI  

Bydd ein gradd cymdeithaseg yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori yn y brifysgol, a byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o ddamcaniaethau cymdeithasegol, a sut y gellir cymhwyso’r rhain i broblemau’r byd go iawn. 

Byddwch yn cael cyfle i fynychu teithiau maes, er enghraifft Gwrthryfel Casnewydd i ddilyn y ffagl yng ngorymdaith y Siartwyr; ymweld â hyb cymunedol Dusty Forge, a Senedd Cymru. Byddwch hefyd yn cael cymorth i gwblhau lleoliad gwaith 70 awr o’ch dewis.   

Mae gan ein darlithwyr wybodaeth helaeth mewn meysydd fel datblygu cynaliadwy, addysg a chydlyniant cymunedol, gwrthdaro byd-eang, tegwch a chynhwysiant, a gwaith ieuenctid a chymunedol.  

-

MAE DARLITHWYR AR Y CWRS WEDI BOD O’R RADD FLAENAF. MAEN NHW’N FRWDFRYDIG AM EU MEYSYDD ARBENIGAETH, AC MAE EU HARDDULLIAU ADDYSGU YN AMRYWIO – ROEDDEN NHW'N FY NGHADW I AR FLAENAU FY NHRAED.

Sara Daniels
BSc (Anrh.) Cymdeithaseg

PYNCIAU ALLWEDDOL A SGILIAU TROSGLWYDDADWY  

Mae’r pynciau allweddol ar draws y cwrs gradd cymdeithaseg yn cynnwys dosbarth cymdeithasol ac anghydraddoldebau, cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, trais a gwrthdaro, y cyfryngau a throseddu, a theuluoedd a chymunedau. 

Wrth i chi astudio cymdeithaseg, byddwch yn datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynnwys ymchwilio a rheoli prosiectau, sgiliau datrys problemau, meddwl dylunio, deall eraill, ac ystod o sgiliau cyfathrebu.  

 

ASTUDIO ODDI CARTREF  

Mae cyfleoedd hefyd i astudio am hyd at flwyddyn yn Ewrop, UDA, neu ymhellach i ffwrdd. Mae astudio dramor yn hwb mawr i’ch addysg a’ch CV. Byddech yn cael persbectif rhyngwladol ar eich astudiaethau, a gall yr amser rydych yn ei dreulio dramor gyfrif tuag at eich gradd cymdeithaseg.  

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

28.09.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

30.11.24

11.01.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?