-
YMHLITH Y DEG UCHAF YM MHRYDAIN AM ASESU MEWN FFASIWN A THECSTILAU
Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024
OFFER BLAENGAR
Mae gan fyfyrwyr Ffasiwn PDC amgylchedd modern ac eang i weithio ynddo sydd wedi’i deilwra ar eu cyfer ac sy’n cefnogi eu dysgu a’u datblygiad drwy gydol y cwrs. Mae ein cyfleusterau arbenigol yn cynnwys: meddalwedd dylunio blaengar, peiriannau gwnïo diwydiannol, peiriannau arbenigol ac offer stemio, amrywiaeth o standiau gwisgoedd cynhwysol gan gynnwys dynion, merched a phlant, blaenau siopau manwerthu efelychiedig, cyfleusterau torri â laser ac argraffu 3D, yn ogystal â gweithdy llawn offer. Mae’r llawr ffasiwn hefyd yn cynnwys ardal greadigol lle gall myfyrwyr gwrdd i gydweithio, gweithio, cynnal cyfarfodydd, rhwydweithio ac ymlacio.
CYDWEITHIO
Mae PDC yn cydweithio ag enwau mawr yn y diwydiant ffasiwn; rydyn ni’n cydweithio â brandiau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Ellesse, Cotopaxi, Palladium, Size? a Givenchy. Mae’r prosiectau hyn yn canolbwyntio ar broblemau, heriau a chyfleoedd go iawn sy’n wynebu’r diwydiant, er enghraifft cynaliadwyedd, moeseg, y metafydysawd a dillad digidol.
CYSYLLTIADAU Â’R DIWYDIANT
Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant yn rhoi cyfleoedd gwirioneddol i fyfyrwyr ddatrys problemau a dysgu gan weithwyr proffesiynol. Mae pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn lleoliadau yn y diwydiant fel rhan o’u cwrs i gael profiad o’r busnes go iawn. Mae lleoliadau blaenorol yn cynnwys Givenchy a Vivienne Westwood, ac mae llawer o’n myfyrwyr yn dewis gwneud interniaethau dramor.
TEITHIAU STEIL A DIWYLLIANT
Mae teithiau steil a diwylliant yn opsiwn cyffrous i gyfoethogi eich astudiaethau, ac mae ymweliadau diweddar wedi mynd â’n myfyrwyr i Baris, Efrog Newydd, Japan, Llundain, Copenhagen a Berlin.
Rydym hefyd yn gysylltiedig â’r Cyngor Ffasiwn Prydeinig, sy’n golygu ein bod yn darparu cyfleoedd lle gall myfyrwyr ymweld ag India fel rhan o daith wedi’i hariannu’n llawn.
WYTHNOS FFASIWN CAERDYDD
Rydym yn bartneriaid addysg gydag Wythnos Ffasiwn Caerdydd a byddwn yn cyflwyno Brigdrawst Ffasiwn Digidol cyntaf Cymru yn 2024 ar ein campws yng Nghaerdydd. Mae Wythnos Ffasiwn Caerdydd yn dathlu ffasiwn a manwerthu ac mae hefyd yn llwyfan i’n myfyrwyr arddangos eu prosiectau blwyddyn olaf. Gwahoddir partneriaid busnes, y cyfryngau a’r cyhoedd i fynychu’r gyfres wythnos o arddangosfeydd, brigdrawstiau a dathliadau ffasiwn.