Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Ffilm ac Effeithiau Gweledol

Ar y cyrsiau Ffilm ac Effeithiau Gweledol ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn darganfod cyfleoedd di-ri i adeiladu profiad, rhwydweithiau a chysylltiadau yn y diwydiant i'ch helpu i drosglwyddo o fyfyriwr i weithiwr proffesiynol creadigol.

Ffilm ac Effeithiau Gweledol

-

Roedd 92% o fyfyrwyr BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol PDC yn fodlon gyda’u cwrs.

YR AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2024

 

PARTNERIAETHAU A DIWYDIANT 

Mae gennym gysylltiadau cryf â chyflogwyr mawr yn y diwydiant ffilm a theledu, gan gynnwys Bad Wolf, y cwmni cynhyrchu sydd y tu ôl i’r dramâu clodwiw His Dark Materials, Industry, ac A Discovery of Witches.  

Mae ein partneriaeth â Chynghrair Sgrin Cymru yn golygu y gall ein myfyrwyr barhau i gael mynediad i ymweliadau â setiau, lleoliadau diwydiant, a chyflogaeth hyd yn oed. Mae gennym gysylltiadau cryf â stiwdios VFX byd-eang, gan gynnwys ILM, DNEG a Framestore, yn ogystal â stiwdios lleol fel Bait Studios, gan ddarparu cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiant. Mae BA Ffilm wedi’i hachredu gan ScreenSkills, sy’n dangos ei fod yn cael ei gydnabod gan ddiwydiant am ragoriaeth.

ARFER CYNALIADWY

Mae llawer o’n cyrsiau yn eich galluogi i weithio tuag at hyfforddiant cynaliadwyedd a gydnabyddir gan y diwydiant, sy’n golygu y byddwch yn ystyried ac yn creu cynnwys sy’n cefnogi gweledigaeth y diwydiant ar gyfer dyfodol sy’n ymwybodol o’r hinsawdd.

 

CYFLEUSTERAU O SAFON Y DIWYDIANT 

Mae ein campws creadigol yn cynnwys cyfleusterau ffilm o safon y diwydiant, gan gynnwys stiwdios ffilm HD pwrpasol, llawn offer ynghyd â rigiau goleuo, sgrin werdd a chyfleusterau cipio symudiadau, stiwdio blwch du, ystafelloedd golygu Avid HD ac Adobe, ystafelloedd golygu sain a dybio Pro Tools, a chyfleusterau sgrinio rhagorol.  

Fel rhan o’ch cwrs, gallwch gael mynediad i’n siopau cyfryngau ar y campws – sy’n cynnwys citiau parod i’w defnyddio y gellir eu rhentu am ddim. Drwy ddarparu cyfleusterau ac offer o’r radd flaenaf i lefel y diwydiant, rydyn ni’n gallu cynnig hyfforddiant ac addysgu ymarferol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant i wneud yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer stiwdio, ond hefyd i’ch galluogi i wireddu eich syniadau creadigol. 

Mae hyd yn oed sinema 100 sedd ar gyfer dangosiadau a dosbarthiadau meistr.  

GRADDEDIGION SYDD WEDI ENNILL GWOBRAU 

Mae ffilm wedi bod yn cael ei haddysgu yn y Brifysgol ers dros hanner can mlynedd, sy’n golygu ein bod yn un o’r ysgolion ffilm mwyaf sefydledig a llwyddiannus ym Mhrydain. Dros y cyfnod hwn, mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ar draws y diwydiannau ffilm, teledu a’r cyfryngau byd-eang o Hollywood i Bollywood. 

Mae staff, myfyrwyr a graddedigion wedi ennill llawer o wobrau dros y blynyddoedd, ledled y byd. Mae ein graddedigion wedi creu gyrfaoedd rhyngwladol llwyddiannus, gan gynnwys y cyfarwyddwr arobryn, Asif Kapadia, a’r cyfarwyddwyr sydd wedi ennill BAFTA, Georgi Banks-Davies a Gareth Evans. Yn 2021, bu dros ugain o raddedigion Prifysgol De Cymru yn gweithio ar ffilmiau a enwebwyd ar gyfer Gwobrau’r Academi. 

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

28.09.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

30.11.24

11.01.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?