Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Ffotograffiaeth

Gyda chyrsiau mewn Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol, mae Prifysgol De Cymru wedi ennill enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth. Rydyn ni wedi dysgu Ffotograffiaeth ers dros ganrif, ac mae ein cyrsiau Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol yn cael eu hystyried yn eang fel rhai sy’n arwain y byd.

Ffotograffiaeth

-

Ar y brig yng Nghymru am asesu ym maes Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024

 

Roedd 100% o fyfyrwyr BA (Anrh) Ffotograffiaeth PDC yn fodlon gyda’u cwrs.
Roedd 90% o fyfyrwyr BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol PDC yn fodlon gyda’u cwrs.

National Student Survey 2024

Delwedd pennawd gan Abby Wicks, myfyriwr o Brifysgol De Cymru, BA (Anrh) Ffotograffiaeth.

.

CYFLEUSTERAU PROFFESIYNOL 

Mae cyfleusterau ar y campws yn ail-greu’r amgylchedd y byddech chi’n ei ddarganfod mewn stiwdios proffesiynol. Bydd popeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer sesiwn ffotograffiaeth broffesiynol ar gael i chi – mae ganddon ni ddwy stiwdio ffotograffiaeth fawr, cilfwa diddiwedd a chymorth technegol arbenigol, gydag arbenigedd mewn goleuo a gosod. Gallwch hefyd logi offer o’n siopau cyfryngau a ffotograffiaeth am ddim os ydych wedi cofrestru ar gwrs ffotograffiaeth.  

-

CYFLE I DDYSGU GAN ARBENIGWYR A’R DIWYDIANT 

Rydym wedi bod yn addysgu ffotograffiaeth ers dros ganrif ac mae ein cyrsiau ymhlith y rhai mwyaf uchel eu parch a blaengar ym Mhrydain. 

Mae enw da, profiad a rhinweddau ein hacademyddion yn cael eu cydnabod yn eang yn y diwydiannau ffotograffiaeth, celf a ffilm. Mae ein holl staff yn weithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym maes ffotograffiaeth, felly byddwch yn elwa o’r cynnwys bywyd go iawn maen nhw’n ei gyfrannu at eich dysgu. 

Mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant drwy ein tîm addysgu a’n cyn-fyfyrwyr, sy’n mentora myfyrwyr drwy ddigwyddiadau, gweithdai a’n rhaglen darlithwyr gwadd. Mae ein graddedigion wedi creu gyrfaoedd llwyddiannus ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, gyda rhai yn gweithio i gylchgrawn National Geographic, New York Times, Getty Images, cylchgrawn EVO ac Adidas. 

Ynghyd â llwybrau gyrfa traddodiadol mae graddedigion ein cyrsiau yn symud ymlaen i amrywiaeth o swyddi cysylltiedig gan gynnwys celf, ffotonewyddiaduraeth, ac ymarfer masnachol ar y lefel uchaf, tra bod eraill yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd fel cyfarwyddwyr celf, steilwyr, rheolwyr ffotograffiaeth, cyhoeddwyr, ffotograffwyr meddygol a fforensig, crewyr cynnwys, addysgwyr, curaduron, ysgrifenwyr a marchnatwyr gweledol. 

-

DISGWYLIADAU A PHROFIAD YN Y DIWYDIANT 

Er mwyn profi gofynion a disgwyliadau’r diwydiant hwn, byddwch yn ymgysylltu â briffiau prosiect byw. Nid yn unig y bydd hyn yn cyfoethogi eich proffil graddedig a’ch portffolio, ond bydd yn ehangu eich persbectif ac yn adeiladu eich rhwydwaith o gysylltiadau. Mae myfyrwyr wedi gweithio gyda chwmnïau sy’n cynnwys Wyatt-Clarke+Jones, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Taylor Brothers, Samsung UK, Ally Capellino, ac Atticus Digital. 

Mae ein myfyrwyr yn ehangu eu rhwydwaith gyda’r diwydiant yn barod ar gyfer bywyd ar ôl graddio drwy ymgysylltu â byd ffotograffiaeth broffesiynol drwy fynediad i stiwdios ffotograffwyr, gwyliau, digwyddiadau ac arddangosfeydd. 

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

28.09.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

30.11.24

11.01.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?