Gorau Arf Arfer
Yn PDC byddwch yn magu sgiliau a phrofiad proffesiynol trwy eich astudiaethau. Profiad ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau statudol, gwirfoddol a thrydydd sector yw 50% o’n gradd Gwaith Cymdeithasol. Golyga hyn y byddwch wedi’ch paratoi’n llawn ar gyfer gyrfa mewn gwaith cymdeithasol pan fyddwch yn cymhwyso ac yn deall y sector yr hoffech weithio ynddo.
Ar y campws, gall myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol gymryd rhan mewn profiadau dysgu wedi’u hefelychu yn ein Canolfan Efelychu Hydra a’n cyfleusterau Ffug Lys Barn. Yma, byddwch yn gweithio gyda myfyrwyr a staff o ddisgyblaethau eraill i archwilio senarios go iawn fel achosion llys a chynadleddau achos. Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys dadleuon, senarios llys barn, ac efelychiadau chwarae rôl.
Dysgu y Tu Hwnt i’r Ystafell Ddosbarth
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr awdurdod lleol, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, a Gofal Cymdeithasol Cymru, i gyfoethogi’ch dysgu a darparu profiad ymarferol.
Bydd eich profiadau’n eich paratoi i weithio mewn timau amlddisgyblaeth, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol o wasanaethau eraill fel yr heddlu, iechyd ac addysg. Byddwch hefyd yn elwa ar brofiadau cynrychiolwyr o’r Grŵp Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr, sy’n cyfrannu at y cwrs hwn.
Rhestr cyrsiau