-
ADDYSG GAN ARBENIGWYR
Mae gan y tîm addysgu flynyddoedd lawer o brofiad yn cyflwyno cyrsiau ar gyfer y sector cyhoeddus ac mae ganddynt hefyd broffil ymchwil cryf, gan sicrhau fod cynnwys yn flaengar.
CYSYLLTU THEORI AG YMARFER
Nodwedd allweddol o’ch gradd gwasanaethau cyhoeddus yw’r cysylltiad rhwng theori ac ymarfer. Mae dysgu yn aml yn seiliedig ar ddata go iawn, yn ogystal ag enghreifftiau ac astudiaethau achos gan sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol. Mae hyn yn sicrhau bod yr hyn rydych chi’n ei ddysgu yn berthnasol i’r gweithle a sefyllfaoedd y gallech ddod ar eu traws pan fyddwch yn graddio.
Mae gweithgareddau a theithiau yn rhan o’r cwrs, sy’n cynnwys ymarferion meithrin tîm gyda sefydliadau fel y lluoedd arfog ac ymweliadau â Senedd Cymru a San Steffan.
-
DOD YN DDIFFODDWR TÂN WRTH GEFN YW'R PENDERFYNIAD GORAU Y GALLEN I FOD WEDI EI WNEUD. MAE FY NARLITHWYR WEDI BOD MOR GEFNOGOL O FY NGWAITH RHAN-AMSER, A DW I’N GALLU TREFNU FY SIFFTIAU I GYD-FYND Â FY ASTUDIAETHAU.
John Stowell
BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus
CYFLEOEDD LLEOLIAD GWAITH
Byddwch yn cael eich annog i ymgymryd â lleoliad gwaith tymor byr yn ystod eich astudiaethau gyda chyfleoedd posib i weithio gyda sefydliadau sector cyhoeddus fel y GIG. Bydd y cyfle gwerthfawr hwn yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd ymhellach ac yn ychwanegu gwerth at eich CV, gan y gall fod yn dystiolaeth i gyflogwyr yn y dyfodol bod gennych y sgiliau a’r gallu maen nhw’n chwilio amdanynt.