EICH LLETY
EICH LLETY
Mae campysau yng Nghaerdydd ac o’i amgylch, felly gallwch brofi’r amrywiaeth sydd ar gael yn ne Cymru – bwrlwm y dinasoedd, harddwch yr arfordir, a llonyddwch cefn gwlad. Dewiswch fyw yng Nghasnewydd, Pontypridd neu Gaerdydd.
Mae PDC Pontypridd wedi’i hamgylchynu gan fryniau gwyrdd gyda mynediad hawdd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog syfrdanol. Yma, cewch le i ganolbwyntio a gorwelion i’w darganfod. Mae cymuned amrywiol a chyfeillgar yn ganolog i’n campws ym Mhontypridd. Yma, fe welwch chi bopeth sydd ei angen arnoch. Mae’r neuaddau preswyl ar y campws yn rhan fawr o’r awyrgylch cymunedol y mae ein myfyrwyr yn ei garu gymaint.
Mae Casnewydd yn ddinas annibynnol, amlddiwylliannol sy’n llawn syniadau a chyfleoedd. Yng nghanol Casnewydd fe welwch chi hefyd adfywio marchnad dan do fwyaf Ewrop, lle gallwch ddarganfod y cwrt bwyd, siopa gyda stondinau annibynnol, a manteisio ar y lle busnes a gwaith sydd ar gael. Mae ein campws modern ar lan yr afon, yn gartref i gymuned ddysgu sydd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl.
Mae campws Caerdydd yng nghanol creadigol y brifddinas. Mae Caerdydd yn brifddinas fodern ac amlddiwylliannol a fydd yn eich synnu. Mae rhywbeth yn digwydd o hyd neu leoedd newydd i’w darganfod. Mae llawer o fyfyrwyr PDC yn dewis byw yng Nghaerdydd hyd yn oed os byddan nhw’n astudio rhywle arall oherwydd y cysylltedd rhwydd rhwng campysau. Mae’n enwog am fod yn ddinas diwylliant ac adloniant – ac mae’n ddinas boblogaidd a hwyliog i fyfyrwyr.
PONTYPRIDD
Mae neuaddau ym Mhontypridd ar y campws ac maen nhw’n rhan fawr o’r awyrgylch cymunedol. Mae dros 1,200 o ystafelloedd a myfyrwyr o bob rhan o’r DU a’r byd, byddwch chi’n gwneud ffrindiau oes.
Darganfyddwch fwyCASNEWYDD
Yng Nghasnewydd, mae neuaddau preswyl preifat ychydig o daith ar droed o’r campws ac ar lan Afon Wysg, gyda gwahanol becynnau ystafelloedd i’w dewis.
Darganfyddwch fwyCAERDYDD
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis byw yng Nghaerdydd, hyd yn oed os byddan nhw’n astudio ar gampws gwahanol. Mae ein llety yng Nghaerdydd ar gael drwy ddarparwr neuaddau preswyl partner yr ydym wedi'i ddewis yn ofalus er mwyn dod â'r llety myfyrwyr gorau i chi.
Darganfyddwch fwyBeth sydd wedi’i gynnwys?
BETH SYDD WEDI’I GYNNWYS?
Mae ystafelloedd gwely neuaddau yn cynnwys gwely, cwpwrdd dillad, cwpwrdd storio, cadair, desg a mynediad i’r rhyngrwyd. Rhennir ceginau ac maen nhw’n cynnwys microdon, ffwrn, tostiwr, tegell, oergell a rhewgell, ac mae cyfleusterau golchi dillad ar gael ym mhob llety.
SUT DYRENNIR YSTAFELLOEDD?
Byddwch chi’n derbyn cadarnhad o’ch llety drwy e-bost pan fydd eich lle yn PDC wedi’i gadarnhau yn ddiamod (ac rydych chi’n gymwys i gofrestru ar eich cwrs). I’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, bydd hyn ar ôl i ganlyniadau arholiad gael eu cyhoeddi yn yr haf. Bydd angen cais fisa dilys ar fyfyrwyr rhyngwladol hefyd.
BETH YW COST NEUADDAU PRESWYL?
I gael gwybod am ein costau ar gyfer gwahanol fathau o lety, defnyddiwch y botwm isod i weld ein tabl costau diweddaraf.
Rydyn ni yma i helpu
RYDYN NI YMA I HELPU
Efallai fod dewis rhywle i fyw yn ymddangos yn frawychus ac mae’n debyg bod gennych lawer o gwestiynau am opsiynau llety, cost llety myfyrwyr a sut i wneud cais am lety myfyrwyr.
Mae ein llety ar hyd a lled de Cymru yn hygyrch, fforddiadwy ac yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i ymgartrefu mewn lleoliad newydd a dechrau eich taith fel myfyriwr. Wyddoch chi y gallwch ddychwelyd i lety myfyrwyr yn eich ail a thrydedd blwyddyn o astudio hefyd?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ydyn nhw wedi’u rhestru, ffoniwch ni ar 01443 482845 neu gallwch anfon e-bost i accom@southwales.ac.uk a bydd ein tîm llety yn cysylltu â chi.