-
AR Y BRIG YNG NGHYMRU AR GYFER MARCHNATA A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS
Canllaw Prifysgolion Da 2024
Mae Marchnata yn PDC ar y brig yng Nghymru am gymorth academaidd, llais myfyrwyr, asesu ac adborth.
YR AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2024
GRADD Â CHYDNABYDDIAETH BROFFESIYNOL
Drwy astudio ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch ddilyn Gradd Achrededig CIM y Sefydliad Marchnata Siartredig. Mae’r cwrs hefyd yn cael ei gydnabod gan y Gymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu (PRCA), a’r Sefydliad Data a Marchnata.
Byddwch yn cael cyfle i ennill Tystysgrif Lefel 4 y Sefydliad Marchnata Siartredig mewn Marchnata Proffesiynol, ochr yn ochr â chymwysterau ymarferwyr eraill o’ch dewis, oll yn rhan o’ch rhaglen astudio.
-
BYDD GWEITHIO YN Y MAES YN EDRYCH YN WYCH AR FY CV, A FYDD YN FY HELPU I SEFYLL ALLAN YN ERBYN YMGEISWYR ERAILL.
HOLLY-ROSE JENKINS
BSc (ANRH) RHEOLI MARCHNATA
Y CWRS
Mae marchnatwyr yn arwain busnes yn ei ymdrechion i ddeall, creu a chadw cwsmeriaid. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ystod o ddamcaniaethau a chysyniadau marchnata i feithrin eich dealltwriaeth o’r ddisgyblaeth. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth drwy weithio gyda busnesau go iawn mewn swydd interniaeth neu ymgynghoriaeth busnes gyda’n cyfle lleoliad gwaith 10 wythnos.
Rhestr cyrsiau