Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Cerddoriaeth a Sain

Datblygwch eich llais eich hun a’ch hunaniaeth gerddorol wrth astudio yn PDC yng Nghaerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU. Mae gan Gaerdydd ddiwylliant pherfformio a byddwch yn astudio yng nghanol y ddinas. Mae’r lleoliad a’r cysylltiadau rydym yn eu cynnig gyda chymuned greadigol Caerdydd, gan gynnwys yr holl leoliadau celfyddydau a pherfformio pwysig, yn darparu’r amgylchedd perffaith ar gyfer eich profiad myfyriwr, wedi’ch amgylchynu gan gyfleoedd di-ri i ddatblygu’ch creadigrwydd.

Cerddoriaeth a Sain

.

Roedd 90% o’n myfyrwyr BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth yn fodlon gyda’u cwrs.

YR AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2024

CAERDYDD: DINAS GERDDORIAETH

Mae Caerdydd yn enwog am gerddoriaeth a byddwch yn astudio yng nghanol y ddinas. Yn 2019 cafodd ei henwi’n swyddogol yn Ddinas Gerddoriaeth – y gyntaf o’i math yn y DU. Mae’r statws newydd hwn eisoes wedi helpu i ddatblygu byd cerddoriaeth Caerdydd a hybu proffil rhyngwladol y ddinas.

Mae’r ddinas yn cynnig llawer o gyfleoedd profiad gwaith, cydweithredu ar brosiectau a briffiau byw gyda’r diwydiant. Mae ein myfyrwyr eisoes yn rhan bwysig o ddiwylliant cerddoriaeth bywiog Caerdydd gyda nifer o fusnesau newydd llwyddiannus yn y diwydiant ac artistiaid yn deillio o PDC.

Mae cyflogadwyedd yn ganolog i’n cenhadaeth, felly byddwn yn eich annog i ennill profiad o’r cychwyn cyntaf a datblygu eich CV. Erbyn i chi raddio, bydd gennych y sgiliau ar gyfer ystod eang o lwybrau yn y diwydiannau cerddoriaeth, cyfryngau ac adloniant.

Cerddoriaeth a Sain

YMDROCHWCH MEWN CERDDORIAETH

Rydym yn cefnogi’n myfyrwyr i deimlo’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth, fel gweithwyr proffesiynol, perfformwyr a chynhyrchwyr. Mae ein myfyrwyr yn cynnal Gŵyl Gerddoriaeth Trochi! flynyddol, gan arwain yr holl waith rheoli’r digwyddiad, gan gynnwys tocynnau, rheoli artistiaid, marchnata a gwerthiannau.

Mae’r prosiect trochi wedi ei gynnal ers pum mlynedd ac mae’n cynnwys cydweithredu dwys â rhanddeiliaid lluosog, gan gynnwys disgyblaethau trawsbynciol, dilynwyr cerddoriaeth, lleoliadau masnachol, elusennau, cyrff proffesiynol, asiantau tocynnau, artistiaid, cymunedau, gwneuthurwyr polisi a thechnegwyr. Mae’r ŵyl wedi esblygu o raglen sy’n cynnwys bandiau myfyrwyr yn bennaf, i brif artistiaid aml-blatinwm ac enillwyr gwobr Ivor Novello fel Richard Ashcroft, Peter Doherty, Tom Greenham, Bob Vylan, Bad Sounds a Bang Bang Romeo, sy’n llenwi lleoliad canol dinas â 1000 o bobl, Tramshed gan godi miloedd at achosion elusennol.

Cyflogadwyedd a Chyfleusterau

CYDWEITHREDU DIWYDIANNOL A CHYFLEUSTERAU PROFFESIYNOL

Mae Cerddoriaeth a Sain yn PDC yn darparu cyfleoedd byd go iawn, addysg a rhwydweithiau i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’r holl fyfyrwyr yn gweithio ar brosiectau byw a chystadlaethau, wedi’u cefnogi gan ymweliadau â’r diwydiant, gan gynnwys â stiwdios recordio a lleoliadau lleol. Mae cydweithredu â phartneriaid diwydiant yn ganolog i’n cyrsiau, ac mae partneriaethau presennol yn cynnwys Banc NatWest, Orchard Media, Music Managers Forum, BBC Horizons, Libertino Records Warner Music, Longwave Studio, Music Declares Emergency, Boomtown a Gŵyl Sŵn a llawer mwy.

Ar y campws bydd gennych fynediad i gymysgedd o offer digidol ac analog sydd ymysg y gorau mewn prifysgol yn y DU. Mae gennym gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys naw stiwdio recordio o safon diwydiant gydag ystafelloedd byw a rheoli, ynghyd â mannau ymarfer ar wahân ac ystod o fannau perfformio byw. Byddwch yn creu ac yn cydweithredu i ennill yr ystod o sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.

Yn PDC, gall myfyrwyr perfformio cerddoriaeth gynhyrchu cerddoriaeth yn broffesiynol a sicrhau ei bod ar gael yn fasnachol trwy ein samplwr ‘Creu’ finyl.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

30.11.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

11.01.25

22.03.25

14.06.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?