Ynglŷn â’r cynllun
100% CYFLOGADWYEDD
Mae Graddedigion Rhwydwaith75 yn ddeniadol i gyflogwyr gan eu bod yn meddu ar y sgiliau, profiad a chymwysterau y mae galw mawr amdanyn nhw mewn diwydiant.
Mae Rhwydwaith75 yn falch o’i ystadegyn 100% cyflogadwyedd lle mae’r holl raddedigion ers sefydlu’r cynllun yn 2000 wedi cael cynnig cyflogaeth ar radd raddedig neu uwch.
GWEITHIO, ENNILL, DYSGU!
Rhoddir cyfle i’r myfyrwyr roi eu gwybodaeth ar waith ochr yn ochr â’u gradd, gan ennill gwybodaeth ymarferol yn ogystal â theori.
Mae gan y myfyrwyr gytundeb hyfforddi â’r brifysgol ac maent yn gwneud profiad gwaith mewn cwmni lletya lleol.
Yn ystod y tymor, mae myfyrwyr yn mynd i’w lleoliad gwaith 3 diwrnod yr wythnos ac i’r brifysgol i astudio 2 ddiwrnod yr wythnos. Yn ystod cyfnodau gwyliau, bydd myfyrwyr yn mynd i’w lleoliad gwaith 5 diwrnod yr wythnos.
Mae myfyrwyr yn cael isafswm o £6500 mewn bwrsari di-dreth, sy’n cynyddu fesul £1000 bob blwyddyn academaidd.
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, mae’r holl fyfyrwyr yn elwa ar rai o’r graddau gorau oll sydd ar gael, cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf, ac addysgu rhagorol.
.
GRADD WEDI’I NODDI HEB UNRHYW DDYLED
Mae’r cwmni lletya yn talu holl ffioedd dysgu myfyrwyr Rhwydwaith75!
Gall myfyrwyr Rhwydwaith75 ddewis graddio heb unrhyw ddyled myfyriwr.
.
RHWYDWAITH MAWR O FUSNES
Mae gan Rwydwaith75 gysylltiadau â Rhwydwaith mawr o gwmnïau ledled de Cymru mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau mewn cwmnïau o bob maint, o rai mawr rhyngwladol i fentrau bach.
Mae’n rhaid i gwmnïau ddarparu rhaglen hyfforddi a datblygu broffesiynol sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i dyfu a datblygu.
RHAGLEN DYSGU SEILIEDIG AR WAITH
Caiff pob cwmni ei asesu i sicrhau y gallan nhw ddarparu’r lleoliadau gwaith o’r ansawdd gorau i fyfyrwyr i helpu datblygiad personol a busnes.
Cefnogir y myfyrwyr yn llawn drwy gydol y radd bum mlynedd i sicrhau eu bod yn cael yr hyfforddiant a’r profiad perthnasol i lwyddo.
YSGOLION A CHOLEGAU
Mae gan Rwydwaith75 ddau Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau pwrpasol sy’n cynnal ymweliadau drwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd cyflwyniadau Rhwydwaith75 fel arfer yn para 20 munud ac maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 11 - 13.
Dysgwch fwyCYRSIAU GRADD
Gweler rhestr lawn o’r cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio gyda Rhwydwaith75.
Dysgwch fwyCWMNÏAU
Mae gan Rwydwaith75 gysylltiadau rhwydwaith mawr o gwmnïau o bob cwr o dde Cymru. Mae Rhwydwaith75 ar gael i unrhyw gwmni ni waeth beth yw ei faint, yr unig amod yw bod cwmnïau’n gallu darparu rhaglen hyfforddi a datblygu broffesiynol sy’n darparu profiadau perthnasol i’r hyfforddeion.
Dysgwch fwyCYSYLLTWCH Â NI
Gall swyddfa Rhwydwaith75 ddarparu cyngor a chymorth i fyfyrwyr a chwmnïau. Os hoffech gysylltu ag aelod o’r tîm i gael rhagor o wybodaeth, cliciwch y botwm isod.
Cysylltwch â niCwestiynau Cyffredin
Gweler ein tudalen Cwestiynau Cyffredin ,a grëwyd ar gyfer myfyrwyr, cwmnïau a’r brifysgol.
Mwy o wybodaeth