.
ASTUDIAETHAU PROFFESIYNOL YNG NGHAERDYDD
Mae Caerdydd yn ganolbwynt i un o ddiwydiannau cyfryngau mwyaf deinamig Prydain, gyda gweithredwyr mawr o fewn tafliad carreg, gan gynnwys y BBC, ITV, Global a Wales Online. Gyda chymaint yn digwydd yma, dyma’r lle perffaith i gychwyn eich gyrfa.
Mae ein campws yn cynnwys cyfleusterau cyfryngau o safon y diwydiant, gan gynnwys stiwdio HDTV aml-gamera, stiwdio radio a chyfleusterau ar gyfer newyddiaduraeth darlledu, print ac aml-gyfrwng. Gallwch hyd yn oed logi offer o’n siopau cyfryngau a ffotograffiaeth am ddim os ydych wedi cofrestru ar gwrs newyddiaduraeth a’r cyfryngau.
ARFER CYNALIADWY
Mae llawer o’n cyrsiau yn eich galluogi i weithio tuag at hyfforddiant cynaliadwyedd a gydnabyddir gan y diwydiant, sy’n golygu y byddwch yn ystyried ac yn creu cynnwys sy’n cefnogi gweledigaeth y diwydiant ar gyfer dyfodol sy’n ymwybodol o’r hinsawdd.
EIN CYRSIAU NEWYDDIADURAETH A’R CYFRYNGAU
Mae ein cwrs Cynhyrchu Cyfryngol yn canolbwyntio ar sgiliau cynhyrchu ac adrodd straeon ar gyfer y diwydiant cyfryngau traws-lwyfan. Yn y cyfamser, mae ein gradd Newyddiaduraeth Chwaraeon wedi’i datblygu gyda diwydiant a phrofiad ymarferol yn greiddiol iddi.
Mae ein cwrs Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth yn cymysgu theori gyda sgiliau ymarferol eang i roi cipolwg go iawn i chi ar sut mae tirwedd helaeth y cyfryngau yn gweithio.