Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Efelychu Clinigol ar y Campws

Mae myfyrwyr yn paratoi ar gyfer ymarfer yn ein Canolfan Efelychu. Mae’n efelychu lleoliadau ysbyty a chymuned i ddarparu hyfforddiant ymarferol mewn senarios chwarae rôl. Yma, byddwch yn ymdrin â phopeth o sgiliau clinigol hanfodol i senarios clinigol amlddisgyblaeth cymhleth. Byddwch yn defnyddio’r un offer ag y byddwch yn eu gweld mewn lleoliadau gofal iechyd, ac yn dibynnu ar y senario, byddwch yn gweithio gydag actorion ac efelychwyr cleifion sy’n efelychu adwaith y corff i salwch, gofal a thriniaeth.

Mae rhan o’r Ganolfan wedi’i hymrwymo i addysgu bydwreigiaeth a sgiliau gofal plant. Mae gennym efelychwyr genedigaeth a mamol datblygedig sy’n efelychu gwahanol gamau beichiogrwydd, a senarios cysylltiedig gan gynnwys yr enedigaeth, a chyflwyniadau ffolennol.

 

Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth a Chymorth

Bydd 50% o’ch astudiaethau yn digwydd mewn practis clinigol – byddwch yn gweithio gyda chleientiaid go iawn ochr yn ochr ag ymarferwyr i fod yn barod i weithio.

Rydym yn gweithio’n agos â phartneriaid practis y Bwrdd Iechyd a darparwyr annibynnol ledled Cymru i ddarparu cyfleoedd profiad gwaith amrywiol. Bydd disgwyl i chi fynd ar brofiad gwaith mewn nifer o fyrddau iechyd lleol sy’n para sawl wythnos ar y tro, mewn amrywiaeth o leoliadau.

Ar brofiad gwaith, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr cofrestredig i ddarparu gofal i ddefnyddwyr gwasanaeth ag anghenion gofal cymhleth a lluosog. Caiff mentor ei benodi i chi a chewch eich cefnogi drwy gydol pob profiad gwaith. Mae myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth yn mwynhau cymorth eithriadol yn PDC. Mae ein polisi drws agored yn sicrhau bod rhywun wrth law drwy’r amser i’ch cynorthwyo os bydd problem yn codi ac mae ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.

Cymhwyster Proffesiynol

Mae PDC yn Sefydliad Addysg Cymeradwy gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Gall graddedigion o’n cyrsiau Bydwreigiaeth a Nyrsio ymgeisio i ymuno â chofrestr gweithwyr proffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a dechrau ymarfer yn y DU.

Mae ein graddau’n darparu’r cymysgedd iawn o wybodaeth, sgiliau a phrofiad i’ch paratoi ar gyfer heriau gofal iechyd modern. Mae cyflogwyr yn awyddus i recriwtio ein graddedigion gan eu bod yn gwybod eu bod wedi’u paratoi’n dda, ac yn ymarferwyr hyderus, cymwys a diogel.

Rydym yn cynnig graddau ym mhedair cangen Nyrsio, ac mae cyrsiau’n dechrau ym mis Medi a mis Ebrill bob blwyddyn. Gallwch gymhwyso fel nyrs drwy wahanol lwybrau yn PDC, nid cyrsiau gradd israddedig amser llawn yn unig. Rydym hefyd yn cynnig cwrs nyrsio rhan-amser hyblyg, sy’n rhoi cyfle i weithwyr cymorth gofal iechyd profiadol ddod yn Nyrs Gofrestredig wrth barhau i weithio ac ennill. Neu os oes gennych radd eisoes, gallwch gymhwyso drwy astudio Diploma Ôl-raddedig mewn Nyrsio am ddwy flynedd.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

30.11.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

11.01.25

22.03.25

14.06.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?