Croeso i Dde Cymru
Mae’r lleoedd lle rydych chi’n astudio ac yn byw yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r hyn rydych chi’n ei gael allan o’r brifysgol. Mae’n bwysig bod rhywle sy’n teimlo fel cartref, ond a all eich synnu hefyd. Mae De Cymru yn cynnig profiadau cyfoethog, gyda Chaerdydd yn ganolog i’r rhain. Y brifddinas ieuengaf yn Ewrop, mae Caerdydd yn gyfeillgar ac yn amrywiol gyda’i thraed ar y ddaear. Mae ganddi bopeth y gallech ei ddisgwyl gan brifddinas sy’n llawn cymeriad a pherlau cudd.
Gampysau
Mae PDC yn un brifysgol, gyda champysau mewn tri lleoliad: Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Mae pob campws yn agored i chi a pha bynnag gampws sy’n cynnal eich cwrs, mae croeso i chi archwilio pob un o’n lleoliadau a thu hwnt. Dydych chi byth mwy nag 20 munud o rywle hollol wahanol, felly pam cyfyngu’ch hun?
Caerdydd
CAERDYDD
Bob blwyddyn, mae miloedd o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd yn gwneud Caerdydd yn gartref. Mae’n lle gwych i astudio.
Mae Campws Caerdydd PDC yng nghanol creadigol y brifddinas. Yma, gallwch ddatblygu eich gwaith creadigol mewn amgylchedd proffesiynol, gyda phopeth sydd ei angen arnoch mewn un lle. Mae’r ddinas yn estyniad o’r campws, sy’n cynnig ysbrydoliaeth a phrofiadau a fydd yn cyfoethogi’ch astudio ac yn eich helpu i ddatblygu fel artist.
Yn adnabyddus fel dinas gelf a chyfryngau, mae ein lleoliad yng nghanol Caerdydd wedi caniatáu i ni sefydlu cydweithrediadau â lleoliadau, cynhyrchwyr a chwmnïau blaenllaw. Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, mae gan ein myfyrwyr gyfleoedd rhagorol a fydd yn sylfaen i’w gyrfaoedd.
BYWYD MYFYRWYR
Mae Caerdydd yn brifddinas fodern a fydd yn eich synnu. Yma, fe gewch ansawdd bywyd anhygoel a mwy o le gwyrdd y pen nag unrhyw ddinas yn y DU. Mae llawer o fyfyrwyr PDC yn dewis byw yng Nghaerdydd, hyd yn oed os ydyn nhw’n astudio rhywle arall. Yn adnabyddus fel dinas diwylliant ac adloniant – mae’n ddinas boblogaidd a hwyliog i fyfyrwyr.
Mae sawl Neuadd preswyl i fyfyrwyr yng nghanol y ddinas, yn ogystal â dewis enfawr o lety rhent preifat. Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer cyllidebau myfyrwyr. Mae rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i’w darganfod o hyd. O siopa a chwaraeon byw i gerddoriaeth, y celfyddydau a hanes, mae rhywbeth i bawb a chwmni gwych i wneud y pethau hyn gyda nhw.
Casnewydd
CASNEWYDD
Mae Casnewydd yn ddinas annibynnol, amlddiwylliannol sy’n llawn syniadau a chyfleoedd. Mae’n cystadlu i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025, a fyddai’n ddathliad blwyddyn o amrywiaeth Casnewydd a’i chymunedau sy’n gyfoethog o ran diwylliant, traddodiad ac iaith.
Mae ein campws modern ar lan yr afon, yn gartref i gymuned ddysgu sydd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl. O addysgu a chwnsela i seiberddiogelwch a deallusrwydd artiffisial, bydd ein cyrsiau yma yn creu gwell yfory.
Fel gweddill PDC, mae Campws Casnewydd yn llawn amrywiaeth a chyfeillgarwch. Mae popeth sydd ei angen arnoch chi mewn un lle, fel y llyfrgell a Starbucks, a gellir dod o hyd i’r mwyafrif o bethau eraill yn y ddinas o amgylch y campws. Yn gyfleus, mae yna ganolfan siopa gyferbyn â’r campws gyda digon o leoedd i fwyta ac yfed, yn ogystal â champfeydd a sinema. Mae Neuaddau Preswyl ddim ond cwpl o funudau ar droed o’r campws, gyda gwahanol becynnau ystafell i ddewis o’u plith.
BYWYD MYFYRWYR
Os penderfynwch fyw yng Nghasnewydd tra’n astudio yn PDC, ni fyddwch byth yn brin o bethau i’w gwneud yn eich amser hamdden. Mae’n ddinas gryno sy’n croesawu myfyrwyr sy’n llawn busnesau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys nifer o leoliadau bwyd annibynnol – o boptai a chaffis artisan i fragdy sydd wedi ennill sawl gwobr. Os mai’r celfyddydau sy’n mynd â’ch bryd, gallwch ymlacio gyda ffrindiau dros ddiod a cherddoriaeth fyw yn un o’r hybiau artistig niferus sydd gan Gasnewydd i’w cynnig.
Fel ein campysau eraill, mae gan Gasnewydd gysylltiadau da ac mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer archwilio De Cymru ac ymhellach i ffwrdd. Mae gorsaf drenau Casnewydd ar y brif reilffordd i Lundain rhwng Caerdydd a Bryste, felly gallwch gael profiad o fydoedd eraill o adloniant, diwylliant a bywyd nos mewn dim o dro.
Pontypridd
PONTYPRIDD
Mae PDC Pontypridd wedi’i hamgylchynu gan fryniau gwyrdd gan gynnwys mynediad hawdd i Barc Cenedlaethol rhyfeddol Bannau Brycheiniog. Yma, bydd gennych le i ganolbwyntio a gorwelion i’w harchwilio.
Mae cymuned amrywiol a chyfeillgar wrth galon ein Campws Pontypridd. Mae’r dysgu wedi’i ledaenu dros dri safle: Trefforest, Glyn-taf a Pharc Chwaraeon PDC. O adeiladau rhestredig i strwythurau modern newydd, mae Pontypridd yn adlewyrchu treftadaeth ac uchelgais y Brifysgol. Yma, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch chi – eich dosbarthiadau, y llyfrgell, canolfan chwaraeon, caffis a bariau i fwyta ac yfed, a’ch ffrindiau i dreulio amser gyda nhw. Mae neuaddau preswyl ar y campws yn rhan fawr o’r awyrgylch cymunedol y mae ein myfyrwyr yn ei garu. Gyda dros 1,200 o ystafelloedd a myfyrwyr o bob rhan o’r DU a’r byd, byddwch chi’n gwneud ffrindiau oes.
BYWYD MYFYRWYR
Pontypridd yw’r lle delfrydol i deimlo cysylltiad â chymuned a natur; mae’n dref farchnad go iawn wedi’i hamgylchynu gan gefn gwlad. Beth am roi cynnig ar heicio, beicio, dringo neu nofio awyr agored, neu chwaraeon tîm yn ein Parc Chwaraeon anhygoel. Mae yna hefyd ddigon o dafarndai a chaffis clyd ac arobryn, sinemâu a chwaraeon byw am amser i ymlacio gyda ffrindiau.
O leoliad canolog Pontypridd – mae’n hawdd mwynhau popeth sydd gan Dde Cymru i’w gynnig – bywyd a diwylliant y ddinas, traethau syfrdanol a chefn gwlad hyfryd. Mae yna orsaf reilffordd wrth ymyl y campws sy’n mynd yn syth i’r arfordir a dim ond 20 munud yw hi o Gaerdydd pan rydych chi eisiau noson allan yn y ddinas.
Ein llety
Cartref oddi cartref
Mae neuaddau preswyl yn rhan fawr o’ch profiad myfyriwr ac mae yna lety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw ger y campws lle byddwch chi’n astudio, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i’ch cadw chi’n gysylltiedig. Felly p’un a ydych chi eisiau byw ar y campws neu gael profiad o fyw yng nghanol y ddinas, gallwch ddewis beth sy’n iawn i chi. Mae PDC hefyd yn cynnig llety penodedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg, neu’r rhai sy’n dysgu’r iaith.
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis byw yng Nghaerdydd, hyd yn oed os ydyn nhw’n astudio ar gampws gwahanol. Mae sawl Neuadd preswyl i fyfyrwyr yng nghanol y ddinas, yn ogystal â dewis enfawr o lety rhent preifat. Mae neuaddau preswyl ar y campws yn rhan fawr o’r awyrgylch cymunedol y mae ein myfyrwyr yn ei garu. Gyda dros 1,200 o ystafelloedd a myfyrwyr o bob rhan o’r DU a’r byd, byddwch chi’n gwneud ffrindiau oes. Yng Nghasnewydd, mae neuaddau preswyl preifat ddim ond cwpl o funudau ar droed o’r campws, ar lan yr Afon Wysg, gyda gwahanol becynnau ystafell i ddewis o’u plith.
Lleoliadau