Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Rheoli Gwesty a Lletygarwch

Cwrs Gwesty a Lletygarwch PDC yw'r unig radd ym Mhrydain sy'n cael ei rhedeg gyda gwesty a chyrchfan hamdden pum seren.

Rheoli Gwesty a Lletygarwch

-

Roedd 90% o’n myfyrwyr BA (Anrh) Rheoli Gwestai a Lletygarwch yn fodlon gyda’u cwrs.

YR AROLWG CENEDLAETHOL O FYFYRWYR 2024

 

 

CYDWEITHREDIAD UNIGRYW 

Mae’r cydweithrediad unigryw hwn gyda Gwesty’r Celtic Manor yn golygu y caiff sgiliau lletygarwch a gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf eu dysgu yn y gwaith, wedi’u cefnogi gan ddamcaniaethau ac arferion academaidd yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y cyfle hwn yn eich helpu i wneud cysylltiadau â’r diwydiant a datblygu sgiliau rheoli lletygarwch a phroffesiynol. 

Gall cyrchfan pum seren ar eich CV helpu i gael eich troed yn y drws gydag ystod eang o gyflogwyr gan ei fod yn amlygu safon uchel eich profiadau dysgu yn seiliedig ar waith. 

CYNALIADWYEDD AR WAITH 

Nod ein cwrs yw gwneud arferion lletygarwch yn fwy cynaliadwy, fel bod ein myfyrwyr yn ymuno â’r diwydiant fel hyrwyddwyr cynaliadwyedd sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth i allu arwain y ffordd wrth wneud y diwydiant lletygarwch yn fwy gwyrdd. 

 

 

AMGYLCHEDD DYSGU YMARFEROL 

Wedi’i addysgu ar ein campws yng nghanol Casnewydd, mae’r cwrs hwn yn cyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth a phrofiad ymarferol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o bob agwedd ar fusnes y gwesty ac yn dod i gysylltiad â gweithrediadau lleoliad pum seren. 

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol a phroffesiynol o’r gwaelod i fyny ac yn dod i gysylltiad ag arbenigwyr o bob maes o’r diwydiant gwestai a lletygarwch, hyfforddiant yn y gwaith, gweithdai rhyngweithiol, a sesiynau hyfforddi unigol. 

.

Hanesion Graddio | Asher yn cael swydd gyda chadwyn gwestai moethus 5-seren

Mae Asher Berman-Thomas wedi cael swydd ddelfrydol yng Nghasgliad Dorchester – un o gadwyni gwestai moethus enwocaf y byd – ar ôl graddio o BA (Anrh) Rheoli Gwesty a Lletygarwch yn PDC.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

28.09.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

30.11.24

11.01.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?