Animeiddio a Gemau
Astudiaeth broffesiynol
Mae gan ein myfyrwyr fynediad at yr offer diweddaraf o safon diwydiant, yn ogystal â’r feddalwedd, animeiddio cyfrifiadurol, offer gwneud modelau, realiti rhithwir a gweithdai sydd eu hangen arnynt i ddod yn artistiaid gemau, dylunwyr gemau ac animeiddwyr proffesiynol. Ymhlith y cyfleusterau, yn ychwanegol at ein hystafelloedd meddalwedd ar y campws, mae stiwdio sgrin werdd, ystafell dal symudiad, stiwdio stop-symud a gweithdai llunio ar gyfer argraffu 3D a gwneud modelau.
Mae BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol a BA (Anrh) Animeiddio 2D a Stop-Symud wedi’u hachredu gan ScreenSkills, sy’n dangos eu bod yn cael eu cydnabod gan ddiwydiant am ragoriaeth. BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol yw un o dim ond dau gwrs yn y DU i gynnal achrediadau dwbl o dan gategoriau Animeiddio a Animeiddio a Gemau.
.
Cysylltiadau cryf â diwydiant
Mae gan ein cyrsiau gysylltiadau cryf â’r diwydiant trwy ddarlithwyr gwadd, prosiectau byw a sesiynau gemau byrfyfyr. Ymhlith y briffiau byw mae prosiectau gan y BBC, D&AD a Gŵyl Animeiddio Caerdydd.
Mae gan ein myfyrwyr gyfle i fynychu ein dosbarthiadau meistr CREATE am ddim. Mae siaradwyr blaenorol wedi hanu o’r BBC, BAFTA, Double Negative, Codemasters, Supermassive, Framestore, Cloud Imperium Games, Ubisoft, a Tiny Rebel Games.
.
Llwyddiant graddedigion
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gydag Aardman, BBC, Cloth Cat Animation, Media Molecule, Creative Assembly, Ubisoft, Rockstar Games, Core, Warner Bros, Dreamworks, Sony, The Moving Picture Company, Beryl Productions, a Framestore.
Mae graddedigion gemau wedi gweithio ar gemau sy’n cynnwys Red Dead Redemption II, Total War Series, Rainbow Six Siege, Star Wars Jedi:Fallen Order, Surgeon Simulator, Dreams, ac Alien Isolation.
Mae graddedigion animeiddio hefyd wedi gweithio ar ffilmiau a enwebwyd am Oscar, gan gynnwys The Lion King, Avengers: Endgame, Missing Link, Ready Player One, Isle of Dogs, Solo: A Star Wars Story, and Avengers: Infinity War, a rhaglenni teledu sy’n cynnwys His Dark Materials, The Mandalorian, a How To Train Your Dragon: Homecoming.