Cyfrifeg a Chyllid
CYFRIFEG A CHYLLID
MAE GRADDEDIGION BA (ANRH) CYFRIFEG A CHYLLID YN DERBYN YR EITHRIADAU UCHAF SYDD AR GAEL TUAG AT GYMWYSTERAU ACCA (9) A NIFER O EITHRIADAU O GYMWYSTERAU PROFFESIYNOL ICAEW, CIMA A CIPFA.
CYDNABYDDIAETH BROFFESIYNOL
Enillwch gydnabyddiaeth broffesiynol gan rai o brif gyrff cyfrifeg y byd. Byddwch yn ennill sylfaen gadarn yn elfennau craidd cyfrifeg a chyllid, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd cyfrifeg. Mae’r modiwlau a addysgir yn cynnwys adrodd ariannol, rheoli cyfrifeg, rheolaeth ariannol, trethiant, archwilio, systemau cyfrifeg cyfrifiadurol a strategaeth fusnes.
Mae Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) wedi achredu’r radd Cyfrifeg hon yn llawn, felly byddwch yn cael yr eithriadau mwyaf o’u cymhwyster proffesiynol pan fyddwch yn graddio.
-
MAE’R YSTAFELL FASNACHU’N YN HANFODOL, YN ENWEDIG AR GYFER UNIGOLION SY’N BWRIADU MYND I FYD MASNACHU ARIANNOL A BUDDSODDIADAU GAN EI FOD YN RHOI DARLUN CLIR O SUT MAE’R LLWYFAN MASNACHU YN GWEITHIO.
NICOLAS LAURIAN
BA (ANRH) CYFRIFEG A CHYLLID
TYSTYSGRIF SAGE WEDI’I HACHREDU GAN CIMA
Gall myfyrwyr ennill tystysgrif Sage wedi’i hachredu gan CIMA fel rhan o’u gradd – heb gost ychwanegol. Sage yw arweinydd y farchnad ar gyfer systemau cyfrifo, cyflogres a thalu integredig, sy’n cefnogi miliynau o fusnesau ledled y byd.
Astudir Tystysgrif Sage CIMA ym mlwyddyn gyntaf y radd fel rhan o’r modiwl Dadansoddi Data a Chyfrifeg Gyfrifiadurol. Mae’r modiwl yn cyflwyno themâu sy’n cael eu datblygu ar y modiwl Cyfrifeg Ddigidol ym Mlwyddyn 2, lle mae myfyrwyr yn ennill sgiliau dadansoddi data hanfodol gan ddefnyddio Power BI, IDEA, Excel a Tableau. Mae myfyrwyr hefyd yn profi datblygiadau cyfredol gan gynnwys ‘troi treth yn ddigidol’, a astudir fel rhan o’r modiwl hwn.
-
CANOLBWYNTIO AR GYFLOGADWYEDD
Mae ein gradd yn cynnwys modiwlau Datblygiad Proffesiynol sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, gan gynnig cymysgedd cyffrous o siaradwyr gwadd arbenigol, prosiectau byw, datblygu sgiliau trosglwyddadwy, cynllunio gyrfa a datblygu proffil. Mae ein prosiectau byw yn cynnwys myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach gyda Phartneriaid Busnes (sydd wedi cynnwys yn ddiweddar Banc Datblygu Cymru, Cartrefi Dinas Casnewydd, GE Aviation a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf). Mae’r prosiectau hyn yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau fel craffter busnes, cydweithio, arweinyddiaeth ac adrodd busnes.
Gall myfyrwyr hefyd ddewis o amrywiaeth o fodiwlau arbenigol, gan gynnwys Masnachu a Buddsoddi Ariannol, Achosion Archwilio a Chyfrifyddu Fforensig.
Busnes a Rheoli
BUSNES A RHEOLI
ROEDD 97% O’N MYFYRWYR BA (ANRH) BUSNES A RHEOLI YN FODLON Â’U CWRS.
AROLWG CENEDLAETHOL Y MYFYRWYR 2023
CYRSIAU Â CHYDNABYDDIAETH BROFFESIYNOL
Drwy gael blas ar y diwydiant a lleoliad gwaith 10 wythnos gwarantedig ac addysgu arbenigol, byddwch yn graddio o Ysgol Busnes y Dyfodol fel arweinydd hyderus a medrus. Mae ein graddau busnes yn cael eu cydnabod neu eu hachredu gan gyrff proffesiynol annibynnol y diwydiant, sy’n rhoi sêl bendith i ansawdd a chynnwys ein cyrsiau. O’r achrediad deuol yn ein gradd Busnes a Rheolaeth, i’n cwrs Rheoli Adnoddau Dynol a gymeradwyir gan CIPD a chwrs Logisteg a Chaffael a achredwyd gan CIPS, byddwch yn datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi ac yn gofyn amdanynt.
CYSYLLTIADAU DIWYDIANT AC YMGYNGHORI
Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid diwydiant ar draws ein holl gyrsiau. Mae gennym fwy na 100 o bartneriaethau gyda chwmnïau amrywiol i ddarparu’r cysylltiadau gorau i’n myfyrwyr.
Mae ein darlithwyr a’n staff wedi gweithio ac yn parhau i weithio yn eu diwydiannau. Mae gennym hefyd glinigau ar y campws i ddarparu cyfleoedd ymgynghori rhagorol i fyfyrwyr.
INTERNIAETHAU A LLEOLIADAU GWAITH
Mae lleoliadau gwaith ac interniaethau yn y diwydiant yn rhan annatod o’r cyrsiau yn Ysgol Busnes De Cymru wrth i ni ymdrechu i greu graddedigion sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
Mae’r cyfleoedd hyn yn darparu porth i’ch cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn helpu i feithrin eich hyder a’ch paratoi ar gyfer y dyfodol drwy brofiadau byd go iawn. Dyna pam rydym yn argymell yn fawr bod ein myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad gwaith drwy interniaeth neu leoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.
MAE RHEOLI ADNODDAU DYNOL YN PDC AR Y BRIG YN Y DU AM GYFLEOEDD DYSGU, CYMORTH ACADEMAIDD AC ADNODDAU DYSGU
AROLWG CENEDLAETHOL Y MYFYRWYR 2023
CLINIG BUSNES
Ymunwch â’n tîm ymgynghori gwirfoddol yn Nhrefforest i helpu cleientiaid go iawn gydag ymholiadau busnes wrth i chi ddatblygu sgiliau ac ymddygiad hanfodol yn y gweithle. Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig i bob math o gwmnïau o fusnesau bach a chanolig i sefydliadau rhyngwladol a nid-er-elw ac mae’n rhoi cyfleoedd ychwanegol i fyfyrwyr gael profiad busnes go iawn wrth astudio gyda ni yn yr Ysgol Busnes.
Rhestr cyrsiau
RHEOLI GWESTAI A LLETYGARWCH
RHEOLI GWESTAI A LLETYGARWCH
CYDWEITHREDIAD UNIGRYW
Mae’r cydweithrediad unigryw hwn gyda Gwesty’r Celtic Manor yn golygu y caiff sgiliau lletygarwch a gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf eu dysgu yn y gwaith, wedi’u cefnogi gan ddamcaniaethau ac arferion academaidd yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y cyfle hwn yn eich helpu i wneud cysylltiadau â’r diwydiant a datblygu sgiliau rheoli lletygarwch a phroffesiynol.
Gall cyrchfan pum seren ar eich CV helpu i gael eich troed yn y drws gydag ystod eang o gyflogwyr gan ei fod yn amlygu safon uchel eich profiadau dysgu yn seiliedig ar waith.
CYNALIADWYEDD AR WAITH
Nod ein cwrs yw gwneud arferion lletygarwch yn fwy cynaliadwy, fel bod ein myfyrwyr yn ymuno â’r diwydiant fel hyrwyddwyr cynaliadwyedd sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth i allu arwain y ffordd wrth wneud y diwydiant lletygarwch yn fwy gwyrdd.
AMGYLCHEDD DYSGU YMARFEROL
Wedi’i addysgu ar ein campws yng nghanol Casnewydd, mae’r cwrs hwn yn cyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth a phrofiad ymarferol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o bob agwedd ar fusnes y gwesty ac yn dod i gysylltiad â gweithrediadau lleoliad pum seren.
Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol a phroffesiynol o’r gwaelod i fyny ac yn dod i gysylltiad ag arbenigwyr o bob maes o’r diwydiant gwestai a lletygarwch, hyfforddiant yn y gwaith, gweithdai rhyngweithiol, a sesiynau hyfforddi unigol.
Rhestr cyrsiau
-
BYDD GWEITHIO YN Y MAES YN EDRYCH YN WYCH AR FY CV, A FYDD YN FY HELPU I SEFYLL ALLAN YN ERBYN YMGEISWYR ERAILL.
HOLLY-ROSE JENKINS
BSc (ANRH) RHEOLI MARCHNATA
GRADD Â CHYDNABYDDIAETH BROFFESIYNOL
Ein cwrs Marchnata yw’r unig radd marchnata yn y DU sydd â thri achrediad, ac mae ymgysylltiad â’r diwydiant a lleoliadau gwaith wrth ei wraidd.
Drwy astudio ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch ddilyn Gradd Achrededig CIM y Sefydliad Marchnata Siartredig. Mae’r cwrs hefyd yn cael ei gydnabod gan y Gymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu (PRCA), a’r Sefydliad Data a Marchnata.
Byddwch yn cael cyfle i ennill Tystysgrif Lefel 4 y Sefydliad Marchnata Siartredig mewn Marchnata Proffesiynol, ochr yn ochr â chymwysterau ymarferwyr eraill o’ch dewis, oll yn rhan o’ch rhaglen astudio.
YNGLŶN Â’R CWRS
Mae marchnatwyr yn arwain busnes yn ei ymdrechion i ddeall, creu a chadw cwsmeriaid. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ystod o ddamcaniaethau a chysyniadau marchnata i feithrin eich dealltwriaeth o’r ddisgyblaeth. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth drwy weithio gyda busnesau go iawn mewn swydd interniaeth neu ymgynghoriaeth busnes gyda’n cyfle lleoliad gwaith 10 wythnos.