Cyfrifiadura
Y RHWYDWAITH SYDD EI ANGEN ARNOCH AR GYFER GYRFA MEWN CYFRIFIADUREG
Mae ein haddysgu arobryn yn mynd â thalent y dyfodol i lefel hollol newydd, gan eich galluogi i brofi cyfrifiadureg yn y byd go iawn wrth astudio ar gyfer gyrfa ynddo. Mae cyfrifiadureg yn PDC wedi’i gynllunio nid yn unig gyda’r diwydiant mewn golwg, ond yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan bartneriaid proffesiynol a staff sydd â chysylltiadau da. Darganfyddwch ystod amrywiol o yrfaoedd digidol, wedi’u haddysgu mewn cyfleusterau trawiadol sy’n efelychu’r diwydiant ei hun, ac yn sicr o gael sylw ynddo.
Bwrsariaeth Teithio’r Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth (FCES)
Mae bwrsariaeth teithio FCES ar gyfer unrhyw fyfyriwr Prifysgol De Cymru sy’n astudio gradd rhyngosod israddedig perthnasol yn y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth (FCES).
Mae’r fwrsariaeth untro, nad yw’n dibynnu ar brawf modd, yn werth £500 ac yn cael ei rhoi i bob myfyriwr sy’n dechrau eu blwyddyn rhyngosod fel rhan o’u cwrs gradd FCES. Bwriad y fwrsariaeth yw darparu cymorth ariannol tuag at eich costau teithio i’ch lleoliad rhyngosod ac oddi yno.
Graddau parod am y diwydiant
Mae ein holl gyrsiau yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â diwydiant, felly byddwch yn graddio gyda’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Yn fwy na hynny, mae llawer o gymwysterau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol, fel BCS a’r Sefydliad TG Siartredig, felly gallwch fod yn sicr y byddwch chi’n dysgu’r sgiliau i fod yn barod ar gyfer y byd go iawn.
Yn ogystal â chydnabyddiaeth gan y diwydiant, mae ein myfyrwyr ein hunain wedi enwi Cyfrifiadureg yn PDC fel y gorau yn y DU ar gyfer addysgu.*
*Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2023.
Cyfleusterau wedi’u hadeiladu ar gyfer y dyfodol
Fe welwch y caledwedd a’r meddalwedd diweddaraf gan gadw ein cyrsiau’n gyfoes, ynghyd â mannau pwrpasol lle mae meddylwyr digidol yn ffynnu, gan gynnwys ein canolfan gemio pŵer uchel iawn a’n Labordy Ymchwilio Digidol, yn union fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer gwaith fforensig ar gyfrifiaduron gan y rhai sy’n gorfodi’r gyfraith.
Seiberddiogelwch
Prifysgol Seiber y Flwyddyn
Mae PDC wedi cael ei enwi’n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am dair mlynedd yn olynol yng Ngwobrau Seiber Cenedlaethol 2021 -2022 ac yn y rownd derfynol eto yn 2023. Ni hefyd yw’r unig brifysgol yng Nghymru, ac un o ddim ond saith yn y DU, i gael ein henwi’n Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Mae ein myfyrwyr yn dysgu am Seiberddiogelwch a Fforenseg Digidol mewn ffordd ymarferol, gyda’r cwricwlwm wedi’i danategu ag arferion blaengar sy’n cyd-fynd â safonau proffesiynol y diwydiant. Wedi’i ddysgu gan arbenigwyr yn eu maes, mae ein myfyrwyr hefyd yn elwa o allu astudio ar gyfer ardystiad diwydiant ychwanegol. Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau ac amgylcheddau dysgu, o’r graddau traddodiadol ar y campws, i’n Academi Seiberddiogelwch sy’n gweithio’n uniongyrchol ar ‘friffiau byw’ o ddiwydiant gan ddefnyddio meddalwedd a chyfleusterau seiberddiogelwch arbenigol.
Mae’r Academi seiberddiogelwch Genedlaethol yn PDC yn un o’r academïau achrededig CISCO yng Nghymru sy’n cynnig Cyrsiau Ardystio. Mae gennym staff ardystiedig a’r hyfforddwyr cymwys i gyflwyno’r rhaglenni hyfforddiant proffesiynol hyn i’n myfyrwyr ac i’r diwydiant.
ARDYSTIAD YCHWANEGOL
Er mwyn gwella eich cyflogadwyedd, mae ardystiad ychwanegol ar gael sy’n benodol i bob maes arbenigol. Mae hyn yn golygu y gallwch ennill tystysgrifau a gydnabyddir gan ddiwydiant yn ogystal â’ch gradd.
Mae ein labordai blaengar yn efelychu’r rhai a ddefnyddir mewn diwydiant ac yn caniatáu ichi ddadansoddi ffeiliau a rhwydweithiau digidol, ymchwilio i fygythiadau a gwendidau, a rheoli ymatebion i ddigwyddiadau.