Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?

Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder

Mae gan PDC enw rhagorol am hyfforddi gweithwyr proffesiynol a all wella ein cymunedau ac adeiladu cymdeithas well. Gan ganolbwyntio ar ymarfer, byddwch chi'n datblygu'r sgiliau a'r profiad i wneud gwahaniaeth - hyd yn oed cyn i chi raddio. Gan ddysgu gan ymarferwyr profiadol ac ymchwilwyr sy'n arwain y byd, bydd eich astudiaethau yma yn rhoi'r cychwyn sydd ei angen arnoch chi.

Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder

Plismona

Plismona

Trwyddedig yn broffesiynol

Bydd ein gradd Plismona Proffesiynol yn eich paratoi ar gyfer heriau plismona modern a phroffesiynau cysylltiedig. Rydym wedi ein trwyddedu’n broffesiynol gan y Coleg Plismona i gyflwyno gradd cyn-ymuno mewn plismona proffesiynol yn seiliedig ar y cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer rôl cwnstabl yr heddlu. Nid yw’n gwarantu eich bod chi’n cael mynediad i heddlu pan fyddwch chi’n graddio, ond gallwch chi wneud cais i’r llu heddlu o’ch dewis gyda’r cymhwyster hwn a chael hyfforddiant byrrach yn y gwaith os ydych chi’n llwyddiannus.

 

 

Enw da am ragoriaeth

Bydd ein gradd Plismona Proffesiynol yn eich paratoi ar gyfer heriau Plismona modern. Mae Gwasanaeth yr Heddlu yn llawn cyfleoedd a rolau amrywiol, o Gwnstabliaid yr Heddlu i Ymchwilwyr Twyll, a Dadansoddwyr Gwybodaeth drwodd i Dditectifs. Rydym wedi cynllunio’r cwrs hwn gyda chyflogadwyedd wrth ei wraidd, i amlygu ein graddedigion i gyfleoedd gwych yn y System Cyfiawnder Troseddol. Rydym wedi ein trwyddedu gan y Coleg Plismona i gyflwyno’r Radd Cyn-ymuno mewn Plismona Proffesiynol; sy’n golygu y bydd eich cwrs yn cwmpasu’r Cwricwlwm Plismona Cenedlaethol. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddysgu am rôl heriol plismona, a bydd yn gam i’ch Gyrfa Plismona lwyddiannus. ​

Cynhyrchu graddedigion y mae galw mawr amdanynt ac sy’n barod i fynd i’r proffesiwn plismona yw’r hyn y mae PDC wedi bod yn ei wneud ers dros 30 mlynedd.

Mae ein tîm addysgu yn cynnwys cyn staff heddlu profiadol sy’n dod â chyfoeth o wybodaeth weithredol, ar ôl gwneud swyddi yn amrywio o Gwnstabl i Brif Gwnstabl. Ochr yn ochr â’r aelodau o staff hyn sydd â phrofiadau gweithredol, mae academyddion sydd ar flaen y gad o ran ymchwil i feysydd allweddol megis plismona cymunedol, gwrthderfysgaeth, seiberdroseddu, plismona digidol, llywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu, radicaleiddio, casineb at fenywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Plismona

Cyfleusterau rhagorol

Mae cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr plismona a diogelwch yn PDC yn rhagorol. Rydym ni’n wir yn credu na allwch ddysgu popeth yn yr ystafell ddosbarth! Dyna pam rydym wedi buddsoddi yn ein cyfleusterau, gan ein bod yn gwybod y byddant yn eich helpu i roi eich gwybodaeth ar waith mewn lleoliadau realistig. Mae’r cyfleusterau y bydd myfyrwyr yn eu defnyddio ar ein cwrs yn cynnwys y Tŷ Safle Trosedd, yr Ystafell Ffug Lys a’r Hydra Minerva. Byddwch yn defnyddio’r technolegau diweddaraf sy’n efelychu gwaith rheng flaen yr heddlu a chyfleusterau sy’n ail-greu lleoliadau troseddau, sy’n eich galluogi i gynnal ffug ymchwiliadau troseddau. Bydd y cyfleusterau a’r gweithgareddau hyn yn eich galluogi i fod yn barod am yrfa!

 

Mae ein cyfleuster Tŷ Safle Trosedd yn darparu amgylchedd sy’n efelychu’r byd go iawn i fyfyrwyr, gan ei fod yn cynnwys nifer o efelychiadau safle trosedd realistig – o weithredu gwarant, i ddelio â byrgleriaethau domestig, i senarios mwy cymhleth fel lladdiadau a herwgipio.  Mae ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd anhygoel i ddatblygu sgiliau ymarferol fel sicrhau a diogelu safle trosedd, trin a chludo tystiolaeth, a gallu adnabod tystiolaeth fforensig fel olion bysedd, olion traed a thywalltiad gwaed.

 

Ni yw un o’r ychydig brifysgolion yn y byd sydd â chyfleuster dysgu trochi integredig – Canolfan Efelychu Hydra. Mae’r Ganolfan Efelychu yn caniatáu ichi gael profiad o ddigwyddiadau mewn amgylchedd dysgu diogel, lle gallwch brofi eich gallu i wneud penderfyniadau, gweithredu a gweld y canlyniadau. Gallwch ymarfer delio â senarios realistig megis ymholiadau troseddau mawr, a all helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfweld ar gyfer digwyddiadau critigol. Mae’r Ganolfan hon yn golygu bod myfyrwyr PDC yn defnyddio’r un system yn union ag y mae heddluoedd yn ei defnyddio i hyfforddi eu staff i fod yn swyddogion mwy effeithiol.

Plismona

Cydweithio a Chyflogadwyedd

Mae Prifysgol De Cymru yn darparu addysg arbenigol i Swyddogion yr Heddlu ar draws 7 heddlu yn Lloegr ac un yng Nghymru. Mae hyn yn golygu mai ni yw’r unig brifysgol i ddarparu addysg a hyfforddiant yr heddlu ar draws Cymru a Lloegr. Mae’r Gwasanaethau Heddlu yr ydym wedi’u partneru â nhw’n cynnwys Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Dyfnaint a Chernyw, Heddlu Dorset, Heddlu Swydd Gaerloyw, Heddlu Wiltshire. Gall ein cysylltiadau â’r Lluoedd Partner hyn eich galluogi i fanteisio ar ein cyfleoedd cyflogadwyedd gwych, sy’n cynnwys y cyfle i ymuno â’r Cwnstabliaeth Arbennig a rolau gwirfoddoli eraill o fewn yr Heddlu a’r System Cyfiawnder Troseddol.  ​

Rydym yn cydnabod bod mynychu’r Brifysgol yn fuddsoddiad i chi, a dylai fod yn sbardun i’ch gyrfa ddewisol. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod ein harferion addysgu a’n hasesiadau yn realistig, yn ddilys, ac yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae gennym wasanaeth gyrfaoedd arobryn a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu eich potensial cyflogaeth trwy hyfforddiant gyrfa a dod o hyd i swyddi graddedig, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gyrfa i chi.

Troseddeg

Troseddeg

Dysgu arloesol ac ymchwil ar flaen y gad

Mae ceisio deall trosedd a throseddu yn dipyn o obsesiwn cymdeithasol. Rydym yn byw mewn byd lle mae trosedd yn aml yn cael ei darlunio trwy ffilmiau, dramâu, rhaglenni dogfen, newyddion a chyfryngau cymdeithasol.  Bydd ein Cyrsiau mewn Troseddeg yn eich galluogi i ofyn cwestiynau am achosion a chanlyniadau troseddau.  Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddod yn arbenigwr ar Drosedd a swyddogaeth y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Heb amheuaeth, byddwch yn datblygu sgiliau ar gyfer ystod o yrfaoedd – o Blismona a Charchardai, i Brawf ac Adsefydlu, yn ogystal â rolau sy’n brwydro twyll yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat neu sy’n dylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth.

 

Mae ein tîm addysgu’n glodfawr ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol, golyga hyn y cewch eich dysgu gan rai o’r goreuon yn y busnes. Addysgir ein myfyrwyr troseddeg gan dîm o ymchwilwyr gweithredol sydd ag arbenigeddau mewn lladdiad a thrais, cyfiawnder ieuenctid, plismona, defnyddio cyffuriau, atal troseddau a mwy. Mae gan droseddeg yn PDC hanes sefydledig o ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, ac mae hyn oherwydd ein bod yn sicrhau bod y cynnwys rydych chi’n ei ddysgu yn gyfredol, yn ysgogol ac yn cael ei lywio gan ein hymchwil.​

Troseddeg

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae deall trosedd a throseddu yn weithgaredd cymhleth. Mae yna gyfoeth o gyfleoedd gyrfa i’r rhai sydd â diddordeb mewn atal troseddu a throseddu, a hefyd i’r rhai sy’n gyfrifol am ddelio â’r canlyniadau. Mae’r Cyrsiau Troseddeg yn PDC yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio llwybrau penodol sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, megis y Gwasanaeth Prawf, Cyfiawnder Ieuenctid, Seicoleg. Mae ein Cyrsiau yn darparu sgiliau, gwybodaeth a chyfleoedd i’n graddedigion a fydd yn gwella eu cyfleoedd a’u rhagolygon graddedig. ​

Mae galw mawr am swyddi yn y sector cyfiawnder troseddol a chosbol. Er enghraifft, mae Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMPS) wedi datblygu Strategaeth y Gweithlu Prawf i recriwtio pobl fedrus i rolau Swyddogion Prawf, mae gwasanaethau’r heddlu yng Nghymru a Lloegr hefyd yn recriwtio ar hyn o bryd, ynghyd â sefydliadau eraill yn y System Cyfiawnder Troseddol, megis Carchardai a’r trydydd sector.  A dweud y gwir yn blaen, mae’r sector Cyfiawnder Troseddol yn sgrechian allan am bobl fel chi! A dyna pam rydym wedi dylunio ein cyrsiau gyda dros 40 o bartneriaid yn y diwydiant, fel y byddwch yn graddio gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogaeth. ​

Rydym hefyd yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadau gwaith gwirfoddol wrth i chi astudio. Mae’r rhain yn ffordd wych o gael profiad perthnasol ar eich CV. Mae’r cyfleoedd yn cynnwys gweithio gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol, sefydliadau’r trydydd sector, Llywodraeth Cymru, Cymorth i Fenywod, y Gwasanaeth Ieuenctid a’r heddlu.​

Troseddeg

Y tu hwnt i’r ddarlithfa, bydd ein graddau’n rhoi cyfle i ddysgu mewn ffyrdd arloesol sy’n cael eu hategu gan dechnoleg, gan gynnwys efelychiadau o safleoedd trosedd a gweithio ar ymchwiliadau’r byd go iawn.

 

Uned Hen Achosion

PDC yw’r unig brifysgol yng Nghymru a’r de orllewin i weithredu Uned Hen Achosion. Mae gan ein myfyrwyr gyfle i ennill profiad uniongyrchol o weithio ar ymchwiliadau pobl sydd ar goll a hen achosion.

Gan weithio ochr yn ochr â Locate International, mae myfyrwyr yn ymwneud â phob agwedd ar ymchwiliad. Ein nod yw datblygu myfyrwyr llwyddiannus sy’n gallu dangos arweinyddiaeth yn y proffesiynau a hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol yn eu cymunedau.

Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder

Fel rhan o’r Prosiect Diniweidrwydd, a sefydlwyd mewn cydweithrediad â phrifysgolion eraill, mae myfyrwyr PDC yn archwilio achosion byw go iawn, lle mae camweinyddiad cyfiawnder posibl wedi digwydd.

O dan oruchwyliaeth, mae myfyrwyr yn adolygu achosion lle mae’r rhai a gafwyd yn euog o droseddau yn honni eu bod yn ddieuog ac wedi methu â derbyn cymorth cyfreithiol neu ariannu cyfreithwyr i gymryd eu hachos. Ar ran cleientiaid, mae myfyrwyr yn ceisio pennu a oes unrhyw dystiolaeth newydd a fyddai’n rhoi sail resymol dros apelio, ac maent yn ymchwilio ac yn ymateb i’r cwestiynau y mae cleientiaid yn eu codi mewn cysylltiad â’u heuogfarn.

Gofynion ymgeisio

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau Lefel 3 megis Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3 BTEC, Diploma Mynediad i Addysg Uwch, ac Uwch Dystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn derbyn ystod o wahanol gymwysterau a byddwn yn ystyried amrywiaeth o gyfuniadau.

Rydym yn ystyried pob agwedd ar gais ac mae’n bosib y byddwch yn derbyn cynnig wedi’i bersonoli ar sail eich graddau a ragwelir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs ar ein gwefan cyn i chi wneud cais.

Diwrnodau agored

Bydd ein diwrnod agored is-radd nesaf ar:

30.11.24

Dewch i adnabod PDC

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a’ch croesawu i’r campws. Mae rhai o’n diwrnod agored yn digwydd ar gampws nawr yn ogystal ag ar-lein, felly gallwch chi ddewis p’un sy’n gorau i chi.

Mae yna lawer o ffyrdd i gysylltu â ni a darganfod mwy – gallwch chi sgwrsio â myfyrwyr a thiwtoriaid, mynd ar deithiau rhithwir a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am astudio yn PDC.

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gadw i fyny â’r hyn sy’n digwydd yn PDC. #TeuluPDC

Mwy o ddyddiadau

11.01.25

22.03.25

14.06.25

Darganfyddwch sut i ymgeisio

Pa faes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo?