Addysg ac Addysgu
LLEOLIADAU A PHROFIAD YMARFEROL GWARANTEDIG
Bydd rhan fawr o’ch cwrs yn cynnwys dysgu yn y gwaith, gan gael profiad ar waith bob dydd yn y sector. Mae profiad a lleoliadau gwaith wedi’u hymgorffori yn ein graddau ac mae pob myfyriwr yn sicr o gael lleoliadau. Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith fawr o ddarparwyr a lleoliadau addysg, gan gynnwys ysgolion, meithrinfeydd, grwpiau cymunedol ac elusennau, fel y gallwch weld sut mae theori yn cysylltu ag ymarfer mewn amrywiaeth o amgylcheddau.
.
Cyfleusterau Proffesiynol
Ar y campws, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd sy’n eich paratoi’n llwyr ar gyfer byd gwaith a’ch amser ar brofiad gwaith. Mae mannau pwrpasol sy’n ail-greu gwahanol amgylcheddau dysgu, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu hyblyg. Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau y gellir eu cymhwyso i senarios gwaith go iawn a’r hyder i’w defnyddio.
Addysgeg ac ymarfer arloesol
Mae addysgeg ddigidol wedi’i ymsefydlu’n gadarn yn ein hymarfer. Mae’r adnoddau dysgu yn cynnwys iPads yn ogystal â dewis eang o lyfrau stori, teganau, mannau awyr agored ac ardal adnoddau dysgu awyr agored. Bydd gennych hefyd fynediad at ystod o adnoddau llyfrgell ar-lein ac ystafell efelychu lle gallwch weithio ar y cyd â’ch cyfoedion i ddatrys problemau ymarferol mewn amgylchedd risg isel.