Peirianneg
Peirianneg awyrofod
Mae ein Canolfan Awyrofod ar y campws yn golygu bod sgiliau ymarferol yn ganolog i’ch profiad fel myfyriwr. Mae gennym ddwy sied awyrennau, gydag awyrennau BAE Jetstream 31 a Jet Provost, peiriannau Spey Rolls Royce a thwneli gwynt.
PDC yw’r unig brifysgol yn y DU sydd wedi integreiddio’r cymhwyster cynnal a chadw awyrennau o safon diwydiant ‘EASA Rhan 66’ gyda gradd Anrhydedd, a ddarperir ar un campws. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill trwydded cynnal a chadw awyrennau gyda dim ond dwy flynedd o brofiad proffesiynol yn hytrach na phump.
Mae ein cwrs Peirianneg Awyrenegol wedi’i achredu gan y Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol (RAeS) a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), gan adlewyrchu safonau’r diwydiant sydd wedi’u hymgorffori i wella eich rhagolygon gyrfa.
Rhestr cyrsiau
Peirianneg Fodurol
Peirianneg Fodurol
Disgwylir i gerbydau trydanol ddominyddu’r diwydiant modurol yn ystod y ddau ddegawd nesaf. Dyluniwyd ein cyrsiau gyda’r datblygiadau technolegol hyn mewn golwg ac maent yn gweithio tuag at gyfleoedd gyrfa yn y farchnad hon sy’n dod i’r amlwg.
Gan ganolbwyntio ar dechnoleg cerbydau ymreolaethol, byddwch chi’n dysgu am agweddau trydanol a mecanyddol cerbyd er mwyn bod yn barod ar gyfer diwydiant modurol y dyfodol.
Mae ein cwrs MEng pedair blynedd yn llwybr gwych i fyfyrwyr sydd am ddod yn Beirianwyr Siartredig cofrestredig oherwydd ei fod yn cwrdd â gofynion addysgol y Cyngor Peirianneg i ennill statws Peiriannydd Siartredig (CEng): y safon uchaf yn y diwydiant. Byddwch hefyd yn cael cyfle i fod yn rhan o ddatblygiad car rasio fformiwla myfyrwyr fel rhan o’ch astudiaethau.
Amgylchedd Adeiledig
Amgylchedd Adeiledig
Os ydych chi’n mwynhau’r her o broblemau ymarferol ac eisiau bod wrth wraidd prosiectau adeiladu, mae’n bosib mai gyrfa mewn tirfesur meintiau, arolygu adeiladau neu reoli prosiectau yw’r hyn rydych chi’n edrych amdano.
PDC yw’r darparwr mwyaf o gyrsiau arolygu a achredir gan ddiwydiant a chyrsiau rheoli prosiect yng Nghymru. Mae ein graddau mewn rheoli prosiectau a thirfesur meintiau wedi’u hachredu’n llawn gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) – y corff proffesiynol mwyaf blaenllaw yn y byd ym maes tir, eiddo, adeiladu a materion amgylcheddol cysylltiedig. Cwblhau un o’r cyrsiau hyn yn llwyddiannus yw’r cam cyntaf i ennill aelodaeth broffesiynol RICS, a all roi hwb i’ch rhagolygon gyrfa a’ch cyflog.
Mae ein graddau’n seiliedig ar ofynion y sector. Rydym yn gweithio’n agos gyda chyrff proffesiynol a chyflogwyr i sicrhau bod ein cyrsiau’n adlewyrchu arfer y diwydiant a bod graddedigion yn meddu ar sgiliau perthnasol. Yn ogystal â gweithio ar brosiectau byw a’r cyfle treulio blwyddyn yn y gweithle fel rhan o’ch gradd, byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd peirianneg o safon diwydiant megis MS Project, Revit, AutoCAD, CostX, a Navisworks.
Ni fydd eich astudiaethau yma yn eich cyfyngu i ystafell ddosbarth. Nid ydym yn credu y gallwch ddysgu sgiliau allweddol fel gwneud penderfyniadau dadansoddol a datrys problemau trwy ddarllen amdanynt yn unig, felly rydym yn cynnig gweithgareddau ymarferol sy’n eich helpu i ddeall a rhoi’r theori rydych chi’n ei dysgu mewn darlithoedd ar waith.
Rydym yn cynnig cymuned ddysgu ac mae gan ein darlithwyr bolisi drws agored. Dyma rai o’r rhesymau pam fod graddau’r Amgylchedd Adeiledig yn PDC yn cael eu hystyried y gorau yng Nghymru (Complete University Guide 2023)
Rhestr cyrsiau
Peirianneg Sifil
Peirianneg Sifil
Mae peirianneg sifil yn ymwneud â phobl. O gyflenwi ynni a dŵr glân, i brosesu ac ailgylchu ein gwastraff, mae peirianwyr sifil yn datblygu gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen arnom bob dydd. Byddwn yn eich hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y maes hwn trwy gyfuniad o theori, ymarfer a phrofiad diwydiant.
Mae ein graddau wedi’u hachredu gan nifer o gyrff proffesiynol, sy’n dangos bod yr hyn rydych chi’n ei ddysgu yn ymwneud yn uniongyrchol â safonau’r diwydiant. Mae gan bob graddedig y sylfaen addysgol lawn ar gyfer datblygiad proffesiynol i ddod yn Beiriannydd Corfforedig (IEng). Mae ein dyfarniad BEng hefyd wedi’i achredu’n rhannol ar gyfer statws Beiriannydd Siartredig (CEng), tra bod ein dyfarniad MEng yn cwrdd â’r sylfaen addysgol yn llawn i ddod yn Beiriannydd Siartredig (CEng).
Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol lle mae’r myfyrwyr yn mynd ymlaen i gyflawni mwy nag yr oeddent erioed wedi meddwl sy’n bosibl.
Peirianneg Fecanyddol
Peirianneg Fecanyddol
Mae ein graddau wedi’u hachredu gan yr IMechE a’r Sefydliad Ynni. Mae hwn yn gydnabyddiaeth gan y diwydiant sy’n dangos eu bod yn cwrdd â’r safon uchaf o addysg ac yn darparu llwybr i ennill statws Peiriannydd Siartredig ar ôl i chi raddio.
Mae gan PDC gysylltiadau cryf â diwydiannau rhyngwladol mawr megis EON, EDF, Doosan Power Systems, Tata Steel, Airbus, a GDF Suez. Rydym yn gweithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod ein cyrsiau’n berthnasol ac yn heriol. Mae ein cyfleusterau o safon diwydiant hefyd – mae gennym ein hefelychydd hyfforddi weldio realiti estynedig ein hunain, efelychydd hedfan, twneli gwynt ac offer tyrbin nwy.
Mae achredu hefyd yn golygu y gallwch ennill aelodaeth broffesiynol am ddim o’r IMechE. Ymhlith y buddion mae mynediad at adnoddau ar-lein a gwahoddiadau i ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol, a all eich helpu i ddechrau adeiladu eich gyrfa cyn i chi raddio hyd yn oed.
Peirianneg Drydanol ac Electronig
Peirianneg Drydanol ac Electronig
Rydym yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa mewn datblygu systemau trydanol ac electronig modern ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gynnyrch.
Mae ein cyfleusterau o safon diwydiant yn eich helpu i drosglwyddo o’r ystafell ddosbarth i gyflogaeth. Mae gennym dair ystafell sy’n benodol ar gyfer peirianneg drydanol ac electronig: labordy electroneg gyffredinol, y labordy pŵer ac ynni adnewyddadwy, a labordy systemau gwreiddio a ddyluniwyd gyda’n noddwr, Renesas – prif gyflenwr microreolwyr y byd. Mae’r nawdd hwn yn golygu bod ein myfyrwyr yn dysgu i ddefnyddio’r technolegau a’r offer datblygu diweddaraf.
Mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), a fydd yn eich helpu i ddod yn Beiriannydd Siartredig â chymwysterau proffesiynol ar ôl i chi raddio. Bydd eich astudiaethau yn cyfuno peirianneg dechnegol â sgiliau rheoli a busnes, gyda chydbwysedd rhwng theori ac ymarfer.