.
Dysgu trwy brofiad
Mae ein myfyrwyr Hanes yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith yn ystod eu hail flwyddyn, gyda chefnogaeth cynghorwyr gyrfaoedd arbenigol.
Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn teithiau maes dewisol yn ogystal ag ymweliadau ag amgueddfeydd, archifau a rhaglenni treftadaeth sydd wedi’u hymgorffori yn y cwricwlwm.
Siaradwyr gwadd
Mae gan fyfyrwyr Hanes fynediad i’n cyfres Materion Yfory. Mae’r darlithoedd cyhoeddus ysbrydoledig hyn yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf cymhleth a thaer sy’n wynebu’r byd heddiw, wedi’u cyflwyno gan bobl sydd wedi gweld a chymryd rhan yn nigwyddiadau pwysig y byd. Ymhlith y siaradwyr diweddar mae Syr John Major, yr Anrhydeddus Julia Gillard a’r Foneddiges Shami Chakrabarti.
Sgiliau cyflogaeth
Mae astudio Hanes yn PDC yn cynnig mwy na theori a gwybodaeth am eich maes. Rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr yn ennill sgiliau perthnasol sy’n werthfawr ar gyfer cyflogaeth.
Rydym yn cynnig cynllunio gyrfa a chymorth sgiliau o flwyddyn un ein gradd Hanes, gan gynnwys hyfforddiant mewn technegau cyfweld ar gyfer hanes llafar. Mae myfyrwyr hefyd yn ennill uwch sgiliau digidol, gan gynnwys defnyddio a chynhyrchu podlediadau, blogio a mapio ar-lein, gyda chymorth technegol arbenigol ar gael.
Saesneg a Hanes
ARCHWILIO HANES BYD-EANG
Mae graddau Hanes yn PDC yn rhoi cyfle i astudio amrywiaeth o hanesion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, deallusol a diwylliannol o hanes Prydain ac Ewrop, America o’r cyfnod trefedigaethol i’r presennol, ac agweddau ar hanes byd-eang o Giwba i Tsieina.
RHAGORIAETH YMCHWIL
Hanes yn PDC yw un o feysydd ymchwil mwyaf llwyddiannus y Brifysgol. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 – mesur swyddogol y llywodraeth o allu ymchwil – graddiwyd 74% o’n hymchwil Hanes yn y ddau gategori uchaf: ‘blaengar yn fyd-eang’ a ‘rhagorol yn rhyngwladol’, a chafodd 100% o’n heffaith ymchwil ei graddio yn y categorïau ‘blaengar yn fyd-eang’ neu ‘rhagorol yn rhyngwladol’ (4* / 3*).